Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Obadeia 1

1
1 Dinistr Edom, 3 am eu balchder, 10 ac am y cam a wnaethent i Jacob. 17 Iachawdwriaeth a buddugoliaeth Jacob.
1Gweledigaeth Obadeia. Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw #Esa 21:11; 34:5; Esec 25:12; Joel 3:19; Mal 1:3am Edom; #Jer 49:14, &cClywsom sôn oddi wrth yr Arglwydd, a chennad a hebryngwyd ymysg y cenhedloedd; Codwch, a chyfodwn i ryfela yn ei herbyn hi. 2Wele, mi a’th wneuthum yn fychan ymysg y cenhedloedd; dibris iawn wyt.
3Balchder dy galon a’th dwyllodd: ti yr hwn wyt yn trigo yn holltau y graig, yn uchel ei drigfa; yr hwn a ddywed yn ei galon, Pwy a’m tyn i’r llawr? 4#Job 20:6; Jer 49:16; 51:53; Amos 9:2Ped ymddyrchefit megis yr eryr, a phe rhoit dy nyth ymhlith y sêr, mi a’th ddisgynnwn oddi yno, medd yr Arglwydd. 5#Jer 49:9Pe delai lladron atat, neu ysbeilwyr nos, (pa fodd y’th dorrwyd ymaith!) oni ladratasent hwy eu digon? pe delsai cynullwyr grawnwin atat, #Deut 24:21; Esa 17:6; 24:13oni weddillasent #1:5 Neu, loffion.rawn? 6Pa fodd y chwiliwyd Esau, ac y ceisiwyd ei guddfeydd ef! 7Yr holl wŷr y rhai yr oedd cyfamod rhyngot a hwynt, a’th yrasant hyd y terfyn; #1:7 Heb. gwŷr dy heddwch. y gwŷr yr oedd heddwch rhyngot a hwynt, a’th dwyllasant, ac a’th orfuant, bwytawyr dy fara a roddasant archoll danat: nid oes deall #1:7 Neu, ohono.ynddo. 8#Esa 29:14; Jer 49:7Oni ddinistriaf y dydd hwnnw, medd yr Arglwydd, y doethion allan o Edom, a’r deall allan o fynydd Esau? 9Dy gedyrn di, Teman, a ofnant; fel y torrer ymaith bob un o fynydd Esau trwy laddfa.
10 # Gen 27:41; Salm 137:7; Esec 25:12; 35:5; Amos 1:11 Am dy draha yn erbyn dy frawd Jacob, gwarth a’th orchuddia, a #Esec 35:9; Mal 1:4thi a dorrir ymaith byth. 11Y dydd y sefaist o’r tu arall, y dydd y caethgludodd estroniaid ei #1:11 Neu, lu.olud ef, a myned o ddieithriaid i’w byrth ef, a bwrw coelbrennau ar Jerwsalem, tithau hefyd oeddit megis un ohonynt. 12#1:12 Neu, Nac edrych ar, &cOnd ni ddylesit ti edrych ar ddydd dy frawd, y dydd y dieithriwyd ef; ac ni ddylesit lawenychu o achos plant Jwda, y dydd y difethwyd hwynt; ac ni ddylesit #1:12 Heb. fawrygu.ledu dy safn ar ddydd y cystudd. 13Ni ddylesit ddyfod o fewn porth fy mhobl yn nydd eu haflwydd; ie, ni ddylesit edrych ar eu hadfyd yn nydd eu haflwydd; ac ni ddylesit estyn dy law ar eu #1:13 Neu, llu.golud yn nydd eu difethiad hwynt: 14Ac ni ddylesit sefyll ar y croesffyrdd, i dorri ymaith y rhai a ddihangai ohono; ac ni ddylesit #1:14 Neu, gau.roi i fyny y gweddill ohono ar ddydd yr adfyd. 15Canys agos yw dydd yr Arglwydd ar yr holl genhedloedd: #Esec 35:15fel y gwnaethost, y gwneir i tithau; dy wobr a ddychwel ar dy ben dy hun. 16Canys #Jer 25:29; 49:12megis yr yfasoch ar fy mynydd sanctaidd, felly yr holl genhedloedd a yfant yn wastad; ie, yfant, a llyncant, a byddant fel pe na buasent.
17Ond ar fynydd Seion #Amos 9:8y bydd #1:17 Neu, rhai dihangol.ymwared, #1:17 Neu, a bydd yn sanctaidd.ac y bydd sancteiddrwydd; a thŷ Jacob a berchenogant eu perchenogaeth hwynt. 18Yna y bydd tŷ Jacob #Sech 12:6yn dân, a thŷ Joseff yn fflam, a thŷ Esau yn sofl, a chyneuant ynddynt, a difânt hwynt; ac ni bydd un gweddill o dŷ Esau: canys yr Arglwydd a’i dywedodd. 19#Amos 9:12Goresgyn y deau hefyd fynydd Esau, a gwastadedd y Philistiaid; a pherchenogant feysydd Effraim, a meysydd Samaria, a Benjamin a feddianna Gilead; 20A chaethglud y llu hwn o blant Israel, yr hyn a fu eiddo y Canaaneaid, hyd Sareffath; a chaethion Jerwsalem, #1:20 Neu, a berchenogant yr hyn sydd yn Seffarad.y rhai sydd yn Seffarad, a feddiannant ddinasoedd y deau. 21A #1 Tim 4:16; Iago 5:20gwaredwyr a ddeuant i fyny ar fynydd Seion i farnu mynydd Esau: #Luc 1:33a’r frenhiniaeth fydd eiddo yr Arglwydd.

Dewis Presennol:

Obadeia 1: BWM1955C

Uwcholeuo

Copi

Cymharu

Rhanna

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda