Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Amos 9

9
1 Mor sicr fydd y dinistr. 11 Adfer tabernacl Dafydd.
1Gwelais yr Arglwydd yn sefyll ar yr allor: ac efe a ddywedodd, Taro gapan y drws, fel y siglo y gorsingau; #9:1 Neu, ac archolla.a thor hwynt oll yn y pen; minnau a laddaf y rhai olaf ohonynt â’r cleddyf: #Pen 2:14ni ffy ymaith ohonynt a ffo, ac ni ddianc ohonynt a ddihango. 2#Salm 139:8, &cPe cloddient hyd uffern, fy llaw a’u tynnai hwynt oddi yno; a #Job 20:6; Jer 51:53; Obad 4phe dringent i’r nefoedd, mi a’u disgynnwn hwynt oddi yno: 3A phe llechent ar ben Carmel, chwiliwn, a chymerwn hwynt oddi yno; a phe ymguddient o’m golwg yng ngwaelod y môr, oddi yno y gorchmynnaf i’r sarff eu brathu hwynt: 4Ac os ânt i gaethiwed o flaen eu gelynion, #Deut 28:65oddi yno y gorchmynnaf i’r cleddyf, ac efe a’u lladd hwynt: a #Lef 17:10; Jer 44:11gosodaf fy ngolwg yn eu herbyn er drwg, ac nid er da iddynt. 5Ac Arglwydd Dduw y lluoedd a gyffwrdd â’r ddaear, a hi a dawdd; a #Pen 8:8galara pawb a’r a drig ynddi, a hi a gyfyd oll fel llifeiriant, ac a foddir megis gan afon yr Aifft. 6Yr hwn a adeilada #Salm 104:3, 13ei esgynfeydd yn y nefoedd, ac a sylfaenodd ei #9:6 Neu, ysgub.fintai ar y ddaear, yr hwn a #Pen 5:8eilw ddyfroedd y môr, ac a’u tywallt ar wyneb y ddaear: Yr Arglwydd yw ei enw. 7Onid ydych chwi, meibion Israel, i mi fel meibion yr Ethiopiaid? medd yr Arglwydd: oni ddygais i fyny feibion Israel allan o dir yr Aifft, a’r #Jer 47:4Philistiaid o #Deut 2:23; Jer 47:4Cafftor, a’r Syriaid o #Pen 1:5Cir? 8Wele lygaid yr Arglwydd ar y deyrnas bechadurus, a #Jer 30:11; 31:35, 36; Obad 10, 17mi a’i difethaf oddi ar wyneb y ddaear: ond ni lwyr ddifethaf dŷ Jacob, medd yr Arglwydd. 9Canys wele, myfi a orchmynnaf, ac a #9:9 Heb. gyhwfanaf.ogrynaf dŷ Israel ymysg yr holl genhedloedd, fel y gogrynir ŷd mewn gogr; ac ni syrth #9:9 Heb. graeanen i’r llawr.y gronyn lleiaf i’r llawr. 10Holl bechaduriaid fy mhobl a fyddant feirw gan y cleddyf, #Pen 6:3y rhai a ddywedant, Ni oddiwedd drwg ni, ac ni achub ein blaen.
11 # Act 15:16, 17 Y dydd hwnnw y codaf babell Dafydd, yr hon a syrthiodd, ac a gaeaf ei bylchau, ac a godaf ei hadwyau, ac a’i hadeiladaf fel yn y dyddiau gynt: 12#Obad 19Fel y meddianno y rhai y gelwir fy enw arnynt, weddill #Num 24:18Edom, a’r holl genhedloedd, medd yr Arglwydd, yr hwn a wna hyn. 13Wele y #Lef 26:5dyddiau yn dyfod, medd yr Arglwydd, y goddiwedd yr arddwr y medelwr, a sathrydd y grawnwin #9:13 Heb. yr hwn a ddygo yr had allan.yr heuwr had; a’r mynyddoedd a ddefnynnant #Joel 3:18#9:13 Neu, win newydd.felyswin, a’r holl fryniau a doddant. 14A dychwelaf gaethiwed fy mhobl Israel; a #Esa 65:21hwy a adeiladant y dinasoedd anghyfannedd, ac a’u preswyliant; a hwy a blannant winllannoedd, ac a yfant o’u gwin; gwnânt hefyd erddi, a bwytânt eu ffrwyth hwynt. 15Ac mi a’u plannaf hwynt yn eu tir, ac nis diwreiddir hwynt mwyach o’u tir a roddais i iddynt, medd yr Arglwydd dy Dduw.

Dewis Presennol:

Amos 9: BWM1955C

Uwcholeuo

Copi

Cymharu

Rhanna

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda