Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Jona 1

1
1 Danfon Jona i Ninefe, ac yntau yn ffoi i Tarsis: 4 a thymestl yn ei gyhuddo ef. 11 Ei daflu ef i’r môr, 17 a physgodyn yn ei lyncu ef.
1A gair yr Arglwydd a ddaeth at #2 Bren 14:25#1:1 Jonas, Mat 12:39Jona mab Amitai, gan ddywedyd, 2Cyfod, dos i Ninefe #Gen 10:11, 12; Pen 3:3y ddinas fawr, a llefa yn ei herbyn; canys #Gen 18:20; Esra 9:6; Dat 18:5eu drygioni hwynt a ddyrchafodd ger fy mron. 3A Jona #Pen 4:2a gyfododd i ffoi i Tarsis oddi gerbron yr Arglwydd: ac efe a aeth i waered i #Jos 19:46; 2 Cron 2:16; Act 9:36Jopa, ac a gafodd long yn myned i Tarsis, ac a dalodd ei llong‐log hi, ac a aeth i waered iddi i fyned gyda hwynt i Tarsis, oddi gerbron yr Arglwydd.
4Ond yr Arglwydd a #1:4 Heb. fwriodd allan.gyfododd wynt mawr yn y môr, a bu yn y môr dymestl fawr, fel #1:4 Heb. yr amcanodd y llong ddryllio.y tybygwyd y drylliai y llong. 5Yna y morwyr a ofnasant, ac a lefasant bob un ar ei dduw, a #Felly Act 27:18, 19bwriasant y dodrefn oedd yn y llong i’r môr, i ymysgafnhau ohonynt: ond Jona a aethai i waered i ystlysau y llong, ac a orweddasai, ac a gysgasai. 6A meistr y llong a ddaeth ato ef, ac a ddywedodd wrtho, Beth a ddarfu i ti, gysgadur? cyfod, galw ar dy Dduw: #Joel 2:14fe allai yr ystyr y Duw hwnnw wrthym, fel na’n coller. 7A dywedasant bob un wrth ei gyfaill, Deuwch, a bwriwn goelbrennau, fel y gwypom o achos pwy y mae y drwg hwn arnom. A bwriasant goelbrennau, a’r coelbren a syrthiodd ar Jona. 8A dywedasant wrtho, Atolwg, dangos i ni er mwyn pwy y mae i ni y drwg hwn: beth yw dy gelfyddyd di? ac o ba le y daethost? pa le yw dy wlad? ac o ba bobl yr wyt ti? 9Ac efe a ddywedodd wrthynt, Hebread ydwyf fi; ac ofni yr wyf fi Arglwydd Dduw y nefoedd, yr hwn a wnaeth y môr a’r sychdir. 10A’r gwŷr a ofnasant gan ofn mawr, ac a ddywedasant wrtho, Paham y gwnaethost hyn? Canys y dynion a wyddent iddo ffoi oddi gerbron yr Arglwydd, oherwydd efe a fynegasai iddynt.
11A dywedasant wrtho, Beth a wnawn i ti, fel y gostego y môr oddi wrthym? canys #1:11 Heb. myned.gweithio yr oedd y môr, a therfysgu. 12Ac efe a ddywedodd wrthynt, Cymerwch fi, a bwriwch fi i’r môr; a’r môr a ostega i chwi; canys gwn mai o’m hachos i y mae y dymestl fawr hon arnoch chwi. 13Er hyn y gwŷr a #1:13 Heb. gloddiasant.rwyfasant i’w dychwelyd i dir; ond nis gallent: am fod y môr yn gweithio, ac yn terfysgu yn eu herbyn hwy. 14Llefasant gan hynny ar yr Arglwydd, a dywedasant, Atolwg, Arglwydd, atolwg, na ddifether ni am einioes y gŵr hwn, ac na ddyro i’n herbyn waed gwirion: canys ti, O Arglwydd, a wnaethost fel y gwelaist yn dda. 15Yna y cymerasant Jona, ac a’i bwriasant ef i’r môr: a #1:15 Heb. safodd.pheidiodd y môr â’i gyffro. 16A’r gwŷr a ofnasant yr Arglwydd ag ofn mawr, ac a aberthasant aberth i’r Arglwydd, ac a addunasant addunedau.
17A’r Arglwydd a ddarparasai bysgodyn mawr i lyncu Jona. A #Mat 12:40; 16:4; Luc 11:30Jona a fu #1:17 Heb. yn ymysgaroedd.ym mol y pysgodyn dri diwrnod a thair nos.

Dewis Presennol:

Jona 1: BWM1955C

Uwcholeuo

Copi

Cymharu

Rhanna

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda