Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Jona 2

2
1 Gweddi Jona: 10 a’i wared ef o fol y pysgodyn.
1A Jona a weddïodd ar yr Arglwydd ei Dduw o fol y pysgodyn, 2Ac a ddywedodd, #2:2 Neu, Oherwydd fy ing.O’m hing #Salm 120:1y gelwais ar yr Arglwydd, ac efe a’m hatebodd; o fol #2:2 Neu, y bedd.uffern y gwaeddais, a chlywaist fy llef. 3Ti a’m bwriaist i’r dyfnder, i #2:3 Heb. galon.ganol y môr; a’r llanw a’m hamgylchodd: #Salm 42:7dy holl donnau a’th lifeiriaint a aethant drosof. 4A minnau a ddywedais, #Salm 31:22Bwriwyd fi o ŵydd dy lygaid; er hynny mi a edrychaf eto tua’th deml sanctaidd. 5#Salm 69:1; Galar 3:54Y dyfroedd a’m hamgylchasant hyd yr enaid; y dyfnder a ddaeth o’m hamgylch; ymglymodd #2:5 Neu, gwymon.yr hesg am fy mhen. 6Disgynnais i #2:6 Heb. doriadau.odre’r mynyddoedd; y ddaear a’i throsolion oedd o’m hamgylch yn dragywydd: eto ti a ddyrchefaist fy einioes #2:6 Neu, o lygredigaeth.o’r ffos, O Arglwydd fy Nuw. 7Pan lewygodd fy enaid ynof, cofiais yr Arglwydd; a’m gweddi a ddaeth i mewn atat i’th deml sanctaidd. 8Y neb #Salm 31:6a gadwant oferedd #2:8 Neu, celwyddog.celwydd, a wrthodant eu trugaredd eu hun. 9A minnau mewn llais #Salm 50:14, 23; 116:17; Hos 14:2; Heb 13:15clodforedd a aberthaf i ti, talaf yr hyn a addunedais. #Salm 3:8Iachawdwriaeth sydd eiddo yr Arglwydd.
10A llefarodd yr Arglwydd wrth y pysgodyn, ac efe a fwriodd Jona ar y tir sych.

Dewis Presennol:

Jona 2: BWM1955C

Uwcholeuo

Copi

Cymharu

Rhanna

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda