Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Jona 3

3
1 Danfon Jona yr ail waith, ac yntau yn pregethu i’r Ninefeaid. 5 Ar eu hedifeirwch hwy, 10 y mae Duw yntau yn edifarhau.
1A gair yr Arglwydd a ddaeth yr ail waith at Jona, gan ddywedyd, 2Cyfod, dos i Ninefe y ddinas fawr, a phregetha iddi y bregeth a lefarwyf wrthyt. 3A Jona a gyfododd ac a aeth i Ninefe, yn ôl gair yr Arglwydd. A Ninefe oedd #3:3 Heb. ddinas fawr i Dduw: Felly Gen 30:8; Salm 36:6; 80:11ddinas fawr iawn o daith tri diwrnod. 4A Jona a ddechreuodd fyned i’r ddinas daith un diwrnod, ac #Edrych Deut 18:22efe a lefodd ac a ddywedodd, Deugain niwrnod fydd eto, a Ninefe a gwympir.
5A #Mat 12:41; Luc 11:32gwŷr Ninefe a gredasant i Dduw, ac a gyhoeddasant ympryd, ac a wisgasant sachliain, o’r mwyaf hyd y lleiaf ohonynt. 6Canys gair a ddaeth at frenin Ninefe, ac efe a gyfododd o’i frenhinfainc, ac a ddiosgodd oddi amdano ei frenhinwisg, ac a roddes amdano liain sach, ac #Job 2:8a eisteddodd mewn lludw. 7Ac efe a barodd gyhoeddi, a dywedyd trwy Ninefe, trwy orchymyn y brenin a’i #3:7 Heb. wŷr mawr.bendefigion, gan ddywedyd, Dyn ac anifail, eidion a dafad, na phrofant ddim; na phorant, ac nac yfant ddwfr. 8Gwisger dyn ac anifail â sachlen, a galwant ar Dduw yn lew: ie, dychwelant bob un oddi wrth ei ffordd ddrygionus, ac oddi wrth #Esa 59:6y trawster sydd yn eu dwylo. 9#Joel 2:14Pwy a ŵyr a dry Duw ac edifarhau, a throi oddi wrth angerdd ei ddig, fel na ddifether ni?
10A gwelodd Duw eu gweithredoedd hwynt, droi ohonynt o’u ffyrdd drygionus; ac #Jer 18:8; Amos 7:3, 6edifarhaodd Duw am y drwg a ddywedasai y gwnâi iddynt, ac nis gwnaeth.

Dewis Presennol:

Jona 3: BWM1955C

Uwcholeuo

Copi

Cymharu

Rhanna

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda