Joel 3
3
1 Barnedigaethau Duw yn erbyn gelynion ei bobl: 9 ac y bydd rhaid ei adnabod ef yn ei farnedigaeth. 18 Ei fendithion ef ar yr eglwys.
1Canys wele, yn y dyddiau hynny, ac yn yr amser hwnnw, pan ddychwelwyf gaethiwed Jwda a Jerwsalem, 2Casglaf hefyd yr holl genhedloedd, a dygaf hwynt i waered i ddyffryn Jehosaffat; a dadleuaf â hwynt yno dros fy mhobl, a’m hetifeddiaeth Israel, y rhai a wasgarasant hwy ymysg y cenhedloedd, a rhanasant fy nhir. 3Ac ar fy mhobl y bwriasant goelbrennau, a rhoddasant y bachgen er putain, a gwerthasant fachgennes er gwin, fel yr yfent. 4Tyrus hefyd a Sidon, a holl ardaloedd Palesteina, beth sydd i chwi a wneloch â mi? a delwch i mi y pwyth? ac os telwch i mi, buan iawn y dychwelaf eich tâl ar eich pen eich hunain; 5Am i chwi gymryd fy arian a’m haur, a dwyn i’ch temlau fy nhlysau #3:5 Neu, hyfryd.dymunol. 6Gwerthasoch hefyd feibion Jwda a meibion Jerwsalem i’r Groegiaid, i’w pellhau oddi wrth eu hardaloedd. 7Wele, mi a’u codaf hwynt o’r lle y gwerthasoch hwynt iddo, ac a ddatroaf eich tâl ar eich pen eich hunain. 8A minnau a werthaf eich meibion a’ch merched i law meibion Jwda, a hwythau a’u gwerthant i’r Sabeaid, i genedl o bell; canys yr Arglwydd a lefarodd hyn.
9 # Edrych Esa 8:9, 10 Cyhoeddwch hyn ymysg y cenhedloedd, #3:9 Heb. cysegrwch, neu, sancteiddiwch.gosodwch ryfel, deffrowch y gwŷr cryfion, nesaed y gwŷr o ryfel, deuant i fyny. 10#Esa 2:4; Micha 4:3Gyrrwch eich sychau yn gleddyfau, a’ch #3:10 Neu, crymanau.pladuriau yn waywffyn: #Sech 12:8dyweded y llesg, Cryf ydwyf. 11Ymgesglwch, a deuwch, y cenhedloedd o amgylch ogylch, ac ymgynullwch: #3:11 Neu, yno y disgyn yr Arglwydd.yno disgyn, O Arglwydd, dy gedyrn. 12Deffroed y cenhedloedd, a deuant i fyny i ddyffryn Jehosaffat: oherwydd yno yr eisteddaf i farnu yr holl genhedloedd o amgylch. 13#Mat 13:39; Dat 14:15, 18Rhowch i mewn y cryman; canys aeddfedodd y cynhaeaf: deuwch, ewch i waered; oherwydd y gwryf a lanwodd, a’r gwasg‐gafnau a aethant trosodd, am amlhau eu drygioni hwynt. 14Torfeydd, torfeydd a fydd yng nglyn #3:14 Neu, drylliad, neu, dyrniad.terfyniad: canys agos yw dydd yr Arglwydd yng nglyn terfyniad. 15#Pen 2:10, 31Yr haul a’r lloer a dywyllant, a’r sêr a ataliant eu llewyrch. 16A’r Arglwydd #Jer 25:30; Amos 1:2a rua o Seion, ac a rydd ei lef o Jerwsalem; #Hag 2:6y nefoedd hefyd a’r ddaear a grynant: ond yr Arglwydd fydd #3:16 Heb. cyrchfa, neu, noddfa.gobaith ei bobl, a chadernid meibion Israel. 17Felly #Pen 2:27y cewch wybod mai myfi yw yr Arglwydd eich Duw, yn trigo yn Seion, fy mynydd sanctaidd: yna y bydd Jerwsalem yn #3:17 Heb. sancteiddrwydd.sanctaidd, ac #Esa 35:8; Sech 14:21; Dat 21:27nid â dieithriaid trwyddi mwyach.
18 #
Amos 9:13
A’r dydd hwnnw y bydd i’r mynyddoedd ddefnynnu melyswin, a’r bryniau a lifeiriant o laeth, a holl ffrydiau Jwda a #3:18 Heb. gerddant.redant gan ddwfr, a #Esec 47:1; Sech 14:8; Dat 22:1ffynnon a ddaw allan o dŷ yr Arglwydd, ac a ddyfrha ddyffryn Sittim. 19#Esa 19:1Yr Aifft a fydd anghyfannedd, ac #Obad 10Edom fydd anialwch anghyfanheddol, am y traha yn erbyn meibion Jwda, am iddynt dywallt gwaed gwirion yn eu tir hwynt. 20Eto Jwda a #3:20 Neu, erys.drig byth, a Jerwsalem o genhedlaeth i genhedlaeth. 21Canys glanhaf waed y rhai nis glanheais: #3:21 Neu, ie, myfi yr Arglwydd, yr hwn sydd, &ccanys #Dat 21:3yr Arglwydd sydd yn trigo yn Seion.
Dewis Presennol:
Joel 3: BWM1955C
Uwcholeuo
Copi
Cymharu
Rhanna
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society