Joel 2
2
1 Y mae yn dangos i Seion mor ofnadwy ydyw barnedigaethau Duw; 12 yn annog edifeirwch; 15 yn gorchymyn ympryd, 18 ac yn addo bendith arno. 21 Y mae yn cysuro Seion â bendithion presennol, 28 ac â rhai a ddeuai.
1Cenwch yr utgorn yn Seion, a bloeddiwch ar fynydd fy sancteiddrwydd: dychryned holl breswylwyr y wlad; canys daeth #Pen 1:15; Seff 1:14, 15dydd yr Arglwydd, canys y mae yn agos. 2#Amos 5:18Diwrnod tywyll du, diwrnod cymylog a niwlog, fel y wawr wedi ymwasgaru ar y mynyddoedd: #ad. 11, 25; Pen 1:6pobl fawr a chryfion, #Exod 10:14ni bu eu bath erioed, ac ni bydd eilwaith ar eu hôl, hyd flynyddoedd cenhedlaeth a chenhedlaeth. 3#Pen 1:19O’u blaen y difa y tân, ac ar eu hôl y fflam; mae y wlad o’u blaen fel #Gen 2:8; 13:10gardd baradwys, ac ar eu hôl yn ddiffeithwch anrheithiedig; a hefyd ni ddianc dim ganddynt. 4#Dat 9:7Yr olwg arnynt sydd megis golwg o feirch; ac fel marchogion, felly y rhedant. 5#Dat 9:9Megis sŵn cerbydau ar bennau y mynyddoedd y llamant, fel sŵn tân ysol yn difa y sofl, ac fel pobl gryfion wedi ymosod i ryfel. 6O’u blaen yr ofna y #Nahum 2:10bobl; pob wyneb a gasgl barddu. 7Rhedant fel glewion, dringant y mur fel rhyfelwyr, a cherddant bob un yn ei ffordd ei hun, ac ni wyrant oddi ar eu llwybrau. 8Ni wthiant y naill y llall; cerddant bob un ei lwybr ei hun: ac er eu syrthio ar y #2:8 Neu, gwayw.cleddyf, nid archollir hwynt. 9Gwibiant ar hyd y ddinas; rhedant ar y mur, dringant i’r tai; ânt i mewn trwy y ffenestri fel lleidr. 10O’u blaen y crŷn y ddaear, y nefoedd a gynhyrfir; #Esa 13:10; Esec 32:7; ad. 31 Pen 3:15yr haul a’r lleuad a dywyllir, a’r sêr a ataliant eu llewyrch. 11A’r Arglwydd a rydd ei lef o flaen ei lu: canys mawr iawn yw ei wersyll ef: canys cryf yw yr hwn sydd yn gwneuthur ei air ef: oherwydd #Jer 30:7; Amos 5:18; Seff 1:15mawr yw dydd yr Arglwydd, ac ofnadwy iawn; a phwy a’i herys?
12Ond yr awr hon, medd yr Arglwydd, #Jer 4:1Dychwelwch ataf fi â’ch holl galon, ag ympryd hefyd, ac ag wylofain, ac â galar. 13A #Salm 51:17rhwygwch eich calon, ac nid eich dillad; ac ymchwelwch at yr Arglwydd eich Duw: oherwydd #Exod 34:6; Salm 86:5, 15; Jona 4:2graslon a thrugarog yw efe, hwyrfrydig i ddigofaint, a mawr ei drugaredd, ac edifeiriol am ddrwg. 14#Jos 14:12; 2 Sam 12:22; Amos 5:15; Jona 3:9; Seff 2:3Pwy a ŵyr a dry efe, ac edifarhau, a gweddill #Esa 65:8bendith ar ei ôl, sef #Pen 1:9bwyd‐offrwm a diod‐offrwm i’r Arglwydd eich Duw?
15 #
Num 10:3
Cenwch utgorn yn Seion, #Pen 1:14cysegrwch ympryd, gelwch gymanfa: 16Cesglwch y bobl; #Exod 19:10, 22cysegrwch y gynulleidfa: cynullwch yr henuriaid; cesglwch y plant, a’r rhai yn sugno bronnau: #1 Cor 7:5deued y priodfab allan o’i ystafell, a’r briodferch allan o ystafell ei gwely. 17Wyled yr offeiriaid, gweinidogion yr Arglwydd, #Esec 8:16; Mat 23:35rhwng y porth a’r allor, a dywedant, Arbed dy bobl, O Arglwydd, ac na ddyro dy etifeddiaeth i warth, #2:17 Neu, i’w gwatwar o’r cenhedloedd.i lywodraethu o’r cenhedloedd arnynt: #Salm 42:10; 79:10; 115:2; Micha 7:10paham y dywedent ymhlith y bobloedd, Pa le y mae eu Duw hwynt?
18Yna yr Arglwydd a eiddigedda am ei dir, ac a arbed ei bobl. 19A’r Arglwydd a etyb, ac a ddywed wrth ei bobl, Wele fi yn anfon i chwi ŷd, a gwin, ac olew; a diwellir chwi ohono: ac ni wnaf chwi mwyach yn waradwydd ymysg y cenhedloedd. 20Eithr #Edrych Exod 10:19bwriaf yn bell oddi wrthych y gogleddlu, a gyrraf ef i dir sych diffaith, a’i wyneb tua môr y dwyrain, a’i ben ôl tua’r môr eithaf: a’i ddrewi a gyfyd, a’i ddrycsawr a â i fyny, am iddo #2:20 Neu, fawrygu gwneuthur.wneuthur mawrhydri.
21Nac ofna di, ddaear; gorfoledda a llawenycha: canys yr Arglwydd a wna fawredd. 22Nac ofnwch, anifeiliaid y maes: canys tarddu y mae #Sech 8:12porfeydd yr anialwch; canys y pren a ddwg ei ffrwyth, y ffigysbren a’r winwydden a roddant eu cnwd. 23Chwithau, plant Seion, gorfoleddwch, ac ymlawenhewch yn yr Arglwydd eich Duw: canys #Lef 26:4; Deut 11:14efe a roddes i chwi #Iago 5:7#2:23 Neu, athro cyfiawnder.y cynnar law #2:23 Heb. yn ôl cyfiawnder.yn gymedrol, ac a wna i’r cynnar law a’r diweddar law ddisgyn i chwi yn y mis cyntaf. 24A’r ysguboriau a lenwir o ŷd, a’r gwin newydd a’r olew a â dros y llestri. 25A mi a dalaf i chwi y blynyddoedd #Pen 1:4a ddifaodd y ceiliog rhedyn, pryf y rhwd, a’r locust, a’r lindys, fy llu mawr i, yr hwn a anfonais yn eich plith. 26Yna y bwytewch, gan fwyta ac ymddigoni; ac y moliennwch enw yr Arglwydd eich Duw, yr hwn a wnaeth â chwi yn rhyfedd: ac ni waradwyddir fy mhobl byth. 27#Pen 3:17A chewch wybod fy mod i yng nghanol Israel, ac mai myfi yw yr Arglwydd eich Duw, ac nid neb arall: a’m pobl nis gwaradwyddir byth.
28 #
Esa 44:3; Esec 39:29; Act 2:17 A bydd ar ôl hynny, #Sech 12:10; Ioan 7:39y tywalltaf fy ysbryd ar bob cnawd; a’ch meibion a’ch merched a broffwydant, eich henuriaid a welant freuddwydion, eich gwŷr ieuainc a welant weledigaethau: 29Ac ar y gweision hefyd ac ar y morynion y tywalltaf fy ysbryd yn y dyddiau hynny. 30A #Mat 24:29; Marc 13:24; Luc 21:25gwnaf ryfeddodau yn y nefoedd; ac yn y ddaear, gwaed, a thân, a cholofnau mwg. 31#ad. 10; Pen 3:15; Mat 24:29; Marc 13:24; Luc 21:25Yr haul a droir yn dywyllwch, a’r lleuad yn waed, o flaen dyfod mawr ac ofnadwy ddydd yr Arglwydd. 32A bydd, #Rhuf 10:13yr achubir pob un a alwo ar enw yr Arglwydd: canys #Obad 17bydd ymwared, fel y dywedodd yr Arglwydd, ym mynydd Seion, ac yn Jerwsalem, ac yn y gweddillion a alwo yr Arglwydd.
Dewis Presennol:
Joel 2: BWM1955C
Uwcholeuo
Copi
Cymharu
Rhanna
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society