Amos 1
1
1 Amos yn dangos barnedigaethau Duw ar Syria, 6 ac ar y Philistiaid, 9 ac ar Tyrus, 11 ac ar Edom, 13 ac ar Ammon.
1Geiriau Amos, (#Pen 7:14yr hwn oedd ymysg bugeiliaid Tecoa,) y rhai a welodd efe am Israel, #Hos 1:1yn nyddiau Usseia brenin Jwda, ac yn nyddiau Jeroboam mab Joas brenin Israel, ddwy flynedd o flaen y #Sech 14:5ddaeargryn. 2Ac efe a ddywedodd, #Jer 25:30; Joel 3:16Yr Arglwydd a rua o Seion, ac a rydd ei lef o Jerwsalem; a chyfanheddau y bugeiliaid a alarant, a phen Carmel a wywa. 3Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Oherwydd tair o anwireddau #Esa 8:4; 17:1; Jer 49:23; Sech 9:1Damascus, ac oherwydd pedair, ni #1:3 Neu, dychwelaf, neu, llonyddaf ef: Felly ad. 6, &cthroaf ymaith ei chosb hi: am iddynt #2 Bren 13:7ddyrnu Gilead ag offer dyrnu o heyrn. 4Ond #Jer 17:27; 49:27; ad. 7, 10, 12; Pen 2:2, 5anfonaf dân i dŷ Hasael, ac efe a ddifa balasau Benhadad. 5Drylliaf drosol Damascus, a thorraf ymaith y preswylwyr o #1:5 Neu, Bicathafen.ddyffryn Afen, a’r hwn sydd yn dal teyrnwialen #1:5 Neu, o Betheden.o dŷ Eden; a #Cyflawnwyd 2 Bren 16:9phobl Syria a ânt yn gaeth i Cir, medd yr Arglwydd.
6Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Am dair o anwireddau #2 Cron 28:18; Esa 14:29; Jer 47:4, 5; Esec 25:15; Seff 2:4Gasa, ac am bedair, ni throaf ymaith ei chosb hi; am iddynt gaethgludo #1:6 Neu, â chaethiwed gyflawn: 2 Cron 21:16, 17; Joel 3:6y gaethiwed gyflawn, i’w rhoddi i fyny i Edom. 7Eithr anfonaf dân ar fur Gasa, ac efe a ddifa ei phalasau hi. 8A mi a dorraf y preswylwyr o Asdod, a’r hwn a ddeil deyrnwialen o Ascalon; a throaf fy llaw yn erbyn Ecron, a derfydd am weddill y Philistiaid, medd yr Arglwydd Dduw.
9Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Am dair o anwireddau #Esa 23:1; Jer 47:4; Esec 26; 27; 28; Joel 3:4, 5Tyrus, ac am bedair, ni throaf ymaith ei chosb hi; oherwydd iddynt hwy roddi i fyny gwbl o’r gaethiwed i Edom, ac na chofiasant #1:9 Heb. gyfamod brodyr, 2 Sam 5:11; 1 Bren 5:1; 9:14y cyfamod brawdol. 10Eithr anfonaf dân i fur Tyrus, ac efe a ddifa ei phalasau hi.
11Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Am dair o anwireddau #Esa 21:11; 34:5; Jer 49:8; Esec 25:12; Joel 3:19; Obad 1; Mal 1:4Edom, ac am bedair, ni throaf ymaith ei chosb hi; am iddo erlid #Gen 27:41; Deut 23:7ei frawd â’r cleddyf, a #1:11 Neu, bwrw ymaith bob tosturi.llygru ei drugaredd, a bod ei ddig yn rhwygo yn wastadol, a’i fod yn cadw ei lid yn dragwyddol. 12Eithr #Obad 9, 10anfonaf dân i Teman, yr hwn a ddifa balasau Bosra.
13Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Am dair o anwireddau #Jer 49:1; Esec 25:2; Seff 2:9meibion Ammon, ac am bedair, ni throaf ymaith ei chosb hi; am iddynt hwy rwygo #1:13 Neu, mynyddoedd Gilead.gwragedd beichiogion Gilead, er mwyn helaethu eu terfynau. 14Eithr cyneuaf dân ym mur #Deut 3:11; 2 Sam 12:26Rabba, ac efe a ddifa ei phalasau, gyda gwaedd ar ddydd y rhyfel, gyda thymestl ar ddydd corwynt. 15#Jer 49:3A’u brenin a â yn gaeth, efe a’i benaethiaid ynghyd, medd yr Arglwydd.
Dewis Presennol:
Amos 1: BWM1955C
Uwcholeuo
Copi
Cymharu
Rhanna
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society