Joel 1
1
1 Joel yn datgan amryw farnedigaethau Duw; ac yn annog i ddal arnynt, 8 ac i alaru: 14 yn gosod ympryd i gwynfan.
1Gair yr Arglwydd yr hwn a ddaeth at Joel mab Pethuel. 2Gwrandewch hyn, chwi henuriaid; a rhoddwch glust, holl drigolion y wlad: a fu hyn yn eich dyddiau, neu yn nyddiau eich tadau? 3Mynegwch hyn i’ch plant, a’ch plant i’w plant hwythau, a’u plant hwythau i genhedlaeth arall. 4Gweddill y lindys a fwytaodd y ceiliog rhedyn, a gweddill y ceiliog rhedyn a ddifaodd pryf y rhwd, a gweddill pryf y rhwd a ysodd y locust. 5Deffrowch, feddwyr, ac wylwch; ac udwch, holl yfwyr gwin, am y gwin newydd; canys torrwyd ef oddi wrth eich min. 6Oherwydd #Felly Diar 30:25, 26, 27cenhedlaeth gref annifeiriol a ddaeth i fyny ar fy nhir; dannedd llew yw ei dannedd, a childdannedd hen lew sydd iddi. 7Gosododd fy ngwinwydden yn ddifrod, a’m ffigysbren #1:7 Heb. yn ddirisgl.a ddirisglodd: gan ddinoethi dinoethodd hi, a thaflodd hi ymaith: ei changau a wynasant.
8Uda fel gwyry wedi ymwregysu mewn sachliain am briod ei hieuenctid. 9Torrwyd oddi wrth dŷ yr Arglwydd #ad. 13; Pen 2:14yr offrwm bwyd, a’r offrwm diod: y mae yr offeiriaid, gweinidogion yr Arglwydd, yn galaru. 10Difrodwyd y maes, y ddaear a alara; canys gwnaethpwyd difrod ar yr ŷd: #1:10 Neu, cywilyddiodd.sychodd y gwin newydd, llesgaodd yr olew. 11Cywilyddiwch, y llafurwyr; udwch, y gwinwyddwyr, am y gwenith, ac am yr haidd: canys darfu am gynhaeaf y maes. 12Gwywodd y winwydden, llesgaodd y ffigysbren, y pren pomgranad, y balmwydden hefyd, a’r afallen, a holl brennau y maes, a wywasant; am #Jer 48:33wywo llawenydd oddi wrth feibion dynion. 13Ymwregyswch a griddfenwch, chwi offeiriaid; udwch, weinidogion yr allor; deuwch, weinidogion fy Nuw, gorweddwch ar hyd y nos mewn sachliain: canys atelir oddi wrth dŷ eich Duw #ad. 9yr offrwm bwyd, a’r offrwm diod.
14 #
Pen 2:15
Cysegrwch ympryd, gelwch #Lef 23:36#1:14 Neu, ddydd gwaharddiad.gymanfa, cesglwch yr henuriaid, a holl drigolion y wlad, i dŷ yr Arglwydd eich Duw, a gwaeddwch ar yr Arglwydd; 15#Jer 30:7Och o’r diwrnod! canys #Esa 13:6dydd yr Arglwydd sydd yn agos, ac fel difrod oddi wrth yr Hollalluog y daw. 16Oni thorrwyd yng ngŵydd #1:16 eich.ein llygaid ni oddi wrth dŷ ein Duw, y bwyd, #Deut 16:11, 14, 15y llawenydd, a’r digrifwch? 17Pydrodd #1:17 Heb. y grawn.yr hadau dan eu priddellau, yr ysguboriau a anrheithiwyd, yr ydlannau a fwriwyd i lawr; canys yr ŷd a wywodd. 18O o’r griddfan y mae yr anifeiliaid! y mae yn gyfyng ar y minteioedd gwartheg, am nad oes borfa iddynt; y diadellau defaid hefyd a anrheithiwyd. 19Arnat ti, Arglwydd, y llefaf; canys #Pen 2:3y tân a ddifaodd #1:19 Neu, drigfeydd.borfeydd yr anialwch, y fflam a oddeithiodd holl brennau y maes. 20Anifeiliaid y maes hefyd sydd #Salm 104:21yn brefu arnat; canys sychodd y ffrydiau dwfr, a’r tân a ysodd borfeydd yr anialwch.
Dewis Presennol:
Joel 1: BWM1955C
Uwcholeuo
Copi
Cymharu
Rhanna
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society