Hosea 14
14
1 Annog i edifeirwch. 4 Addewid o fendithion Duw.
1 #
Pen 12:6
Ymchwel, Israel, at yr Arglwydd dy Dduw; canys ti a syrthiaist trwy dy anwiredd. 2Cymerwch eiriau gyda chwi, a dychwelwch at yr Arglwydd: dywedwch wrtho, Maddau yr holl anwiredd; #14:2 Neu, dyro ddaioni.derbyn ni yn ddaionus: a thalwn i ti #Heb 13:15loi ein gwefusau. 3#Pen 5:13; 12:1Ni all Assur ein hachub ni; #Salm 33:17; Esa 30:16; 31:1ni farchogwn ar feirch; ac ni ddywedwn mwyach wrth waith ein dwylo, O ein duwiau: oherwydd ynot ti y caiff yr amddifad drugaredd.
4Meddyginiaethaf eu hymchweliad hwynt, caraf hwynt yn rhad: canys trodd fy nig oddi wrtho. 5Byddaf fel gwlith i Israel: efe a #14:5 Neu, dardda.flodeua fel y lili, ac a #14:5 Heb. dery.leda ei wraidd megis Libanus. 6Ei geinciau a #14:6 Neu, ymwasgarant.gerddant, a bydd #Salm 52:8; Can 4:11ei degwch fel yr olewydden, a’i arogl fel Libanus. 7Y rhai a arhosant dan ei gysgod ef a ddychwelant: adfywiant fel ŷd, #14:7 Neu, tarddant.blodeuant hefyd fel y winwydden: bydd ei #14:7 Neu, arogl.goffadwriaeth fel gwin Libanus. 8Effraim a ddywed, Beth sydd i mi mwyach a wnelwyf ag eilunod? Gwrandewais, ac edrychais arno: myfi sydd fel ffynidwydden ir; ohonof fi y ceir dy ffrwyth di. 9#Salm 107:43; Jer 9:12; Dan 12:10Pwy sydd ddoeth, ac efe a ddeall hyn? a deallgar, ac efe a’i gwybydd? canys #Diar 10:29; Luc 2:34; 2 Cor 2:16union yw ffyrdd yr Arglwydd, a’r rhai cyfiawn a rodiant ynddynt: ond y troseddwyr a dramgwyddant ynddynt.
Dewis Presennol:
Hosea 14: BWM1955C
Uwcholeuo
Copi
Cymharu
Rhanna
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society