Logo Ap Beibl
Eicon Chwilio

Iago 4

4
A.D. cylch 60. —
1 Rhaid i ni ymryson yn erbyn trachwant, 4 ac anghymedrolder, 5 a balchder, 11 ac enllib, a barnu ar eraill; 13 ac na roddom ormod hyder ar lwyddiant bydol, nac ar einioes dyn; ond rhoi y cwbl ar Dduw.
1O ba le y mae rhyfeloedd ac #4:1 ymgynhenau.ymladdau yn eich plith chwi? onid oddi wrth hyn, sef eich melyschwantau #Rhuf 7:23; Gal 5:17; 1 Pedr 2:11y rhai sydd yn rhyfela yn eich aelodau? 2Chwenychu yr ydych, ac nid ydych yn cael: #4:2 lladd.cenfigennu yr ydych ac eiddigeddu, ac nid ydych yn gallu cyrhaeddyd: ymladd a rhyfela yr ydych, ond nid ydych yn cael, am nad ydych yn gofyn. 3#Job 27:9; 35:12; Salm 18:41; Esa 1:15; Jer 11:11; Sech 7:13Gofyn yr ydych, ac nid ydych yn derbyn, #Salm 66:18; 1 Ioan 3:22; 5:14oherwydd eich bod yn gofyn ar gam, fel y galloch eu treulio ar eich melyschwantau. 4#Salm 73:27Chwi odinebwyr a godinebwragedd, oni wyddoch chwi fod #1 Ioan 2:15cyfeillach y byd yn elyniaeth i Dduw? #Ioan 15:19; 17:14; Gal 1:10pwy bynnag gan hynny a ewyllysio fod yn gyfaill i’r byd, y mae’n elyn i Dduw. 5A ydych chwi yn tybied fod yr ysgrythur yn dywedyd yn ofer, #Edrych Gen 6:5; 8:21; Num 11:29; Diar 21:10At #4:5 fwythau.genfigen y mae chwant yr ysbryd a gartrefa ynom ni? 6Eithr rhoddi gras mwy y mae: oherwydd paham y mae yn dywedyd, #Salm 138:6; Diar 3:34; 1 Pedr 5:5Y mae Duw yn gwrthwynebu’r beilchion, ond yn rhoddi gras i’r rhai gostyngedig. 7Ymddarostyngwch gan hynny i Dduw. #Eff 4:27; 1 Pedr 5:9Gwrthwynebwch ddiafol, ac efe a ffy oddi wrthych. 8#2 Cron 15:2Nesewch at Dduw, ac efe a nesâ atoch chwi. #Esa 1:16Glanhewch eich dwylo, chwi bechaduriaid; a phurwch eich calonnau, chwi #Pen 1:8â’r meddwl dauddyblyg. 9#Mat 5:4Ymofidiwch, a galerwch, ac wylwch: troer eich chwerthin chwi yn alar, a’ch llawenydd yn dristwch. 10#Luc 14:11; 18:14; 1 Pedr 5:6Ymddarostyngwch gerbron yr Arglwydd, ac efe a’ch dyrchafa chwi. 11Na ddywedwch yn erbyn eich gilydd, frodyr. Y neb sydd yn dywedyd yn erbyn ei frawd, ac yn barnu ei frawd, y mae efe yn dywedyd yn erbyn y gyfraith, ac yn barnu’r gyfraith: ac od wyt ti #Mat 7:1; Luc 6:37; Rhuf 2:1; 1 Cor 4:5yn barnu’r gyfraith, nid wyt ti wneuthurwr y gyfraith, eithr barnwr. 12Un gosodwr cyfraith sydd, yr hwn a ddichon gadw a cholli. #Rhuf 14:4Pwy wyt ti yr hwn wyt yn barnu arall? 13#4:13 Felly.#Diar 27:1; Luc 12:18Iddo yn awr, y rhai ydych yn dywedyd, Heddiw neu yfory ni a awn i gyfryw ddinas, ac a arhoswn yno flwyddyn, ac a farchnatawn, ac a enillwn: 14Y rhai ni wyddoch beth a fydd yfory. Canys beth ydyw eich einioes chwi? #Job 7:7; Salm 102:3; Edrych pen 1:10Canys tarth ydyw, yr hwn sydd dros ychydig yn ymddangos, ac wedi hynny yn diflannu. 15Lle y dylech ddywedyd, #Act 18:21; 1 Cor 4:19Os yr Arglwydd a’i myn, #4:15 byddwn fyw, ac a wnawn. ac os byddwn byw, ni a wnawn hyn, neu hynny. 16Eithr yn awr gorfoleddu yr ydych yn eich ymffrost: #1 Cor 5:6pob cyfryw orfoledd, drwg ydyw. 17Am hynny #Luc 12:47; Ioan 9:41; 15:22; Rhuf 1:20, 21, 32; 2:17, 18, 23i’r neb a fedr wneuthur daioni, ac nid yw yn ei wneuthur, pechod ydyw iddo.

Dewis Presennol:

Iago 4: BWM1955C

Uwcholeuo

Copi

Cymharu

Rhanna

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda