Iago 3
3
A.D. cylch 60. —
1 Na ddylem ni fod yn brysur i feio ar eraill; 5 ond yn hytrach ffrwyno y tafod; yr hwn, er nad ydyw ond aelod bychan, eto y mae efe yn achos llawer o ddaioni, ac o ddrygioni. 13 Y rhai sydd wir‐synhwyrol, y maent yn fwynion, yn heddychlon, heb genfigennu, ac heb ymryson.
1 #
Mat 23:8; Rhuf 2:20, 21 Na fyddwch feistriaid lawer, fy mrodyr: #Luc 6:37gan wybod y derbyniwn ni farnedigaeth fwy. 2Canys #1 Bren 8:46; 2 Cron 6:36; Diar 20:9; Preg 7:20; 1 Ioan 1:8mewn llawer o bethau yr ydym ni bawb yn llithro. #Salm 34:13; Pen 1:26Od oes neb heb lithro ar air, #Mat 12:37gŵr perffaith yw hwnnw, yn gallu ffrwyno’r holl gorff hefyd. 3Wele, #Salm 32:9yr ydym ni yn rhoddi ffrwynau ym mhennau’r meirch, i’w gwneuthur yn ufudd i ni; ac yr ydym yn troi eu holl gorff hwy oddi amgylch. 4Wele, y llongau hefyd, er eu maint, ac er eu gyrru gan wyntoedd creulon, a droir oddi amgylch â llyw bychan, lle y mynno’r llywydd. 5Felly hefyd #Diar 12:18; 15:2y tafod, aelod bychan yw, ac #Salm 12:3; 73:8, 9yn ffrostio pethau mawrion. Wele, faint o ddefnydd y mae ychydig dân yn ei ennyn! 6A’r tafod, tân ydyw, byd o anghyfiawnder. Felly y mae’r tafod wedi ei osod ymhlith ein haelodau ni, fel #Mat 15:11, 18, 19; Marc 7:15, 20, 23y mae yn halogi’r holl gorff, ac yn gosod #3:6 chwŷl.troell naturiaeth yn fflam; ac wedi ei wneuthur yn fflam gan uffern. 7Canys #3:7 pob rhyw o wylltfilod.holl natur gwylltfilod, ac adar, ac ymlusgiaid, a’r pethau yn y môr, a ddofir ac a ddofwyd gan #3:7 ddynol ryw.natur ddynol: 8Eithr y tafod ni ddichon un dyn ei ddofi; drwg anllywodraethus ydyw, yn llawn gwenwyn marwol. 9Ag ef yr ydym yn bendithio Duw a’r Tad; ag ef hefyd yr ydym yn melltithio dynion, #Gen 1:26a wnaethpwyd ar lun Duw. 10O’r un genau y mae’n dyfod allan fendith a melltith. Fy mrodyr, ni ddylai’r pethau hyn fod felly. 11A ydyw ffynnon o’r un #3:11 lle.llygad yn rhoi dwfr melys a chwerw? 12A ddichon y pren ffigys, fy mrodyr, ddwyn olifaid? neu winwydden, ffigys? felly ni ddichon un ffynnon roddi dwfr hallt a chroyw. 13Pwy sydd ŵr doeth a #3:13 chyfarwydd.deallus yn eich plith? dangosed, trwy ymarweddiad da, ei weithredoedd mewn mwyneidd‐dra doethineb. 14Eithr od oes gennych #Rhuf 13:13genfigen chwerw ac ymryson yn eich calon, #Rhuf 2:17, 23na fyddwch ffrostwyr a chelwyddog yn erbyn y gwirionedd. 15Nid yw’r doethineb hwn yn disgyn oddi uchod; ond daearol, #Jwdas 19anianol, cythreulig yw. 16Canys #1 Cor 3:3; Gal 5:20lle mae cenfigen ac ymryson, yno y mae #3:16 annhrefn.terfysg, a phob gweithred ddrwg. 17Eithr #1 Cor 2:6, 7y ddoethineb sydd oddi uchod, yn gyntaf pur ydyw, wedi hynny heddychlon, boneddigaidd, hawdd ei thrin, llawn trugaredd a ffrwythau da, #3:17 diddadleugar.diduedd, a diragrith. 18A #Diar 11:18; Hos 10:12; Heb 12:11ffrwyth cyfiawnder a heuir mewn heddwch i’r rhai sydd yn gwneuthur heddwch.
Dewis Presennol:
Iago 3: BWM1955C
Uwcholeuo
Copi
Cymharu
Rhanna
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society