Iago 5
5
A.D. cylch 60. —
1 Rhaid i gyfoethogion drygionus ofni dialedd Duw. 7 Dylem fod yn ddioddefgar mewn adfyd, yn ôl esiampl y proffwydi, a Job; 12 a gochelyd tyngu; 13 a gweddïo mewn adfyd, a chanu mewn hawddfyd; 16 a chyfaddef ein beiau i’n gilydd, a gweddïo dros ein gilydd; 19 a dwyn i’r iawn y brawd a fyddo yn myned ar gyfeiliorn.
1 # 5:1 Felly. #
Diar 11:28; Luc 6:24; 1 Tim 6:9 Iddo yn awr, chwi gyfoethogion, wylwch ac udwch am eich trueni sydd yn dyfod arnoch. 2Eich cyfoeth a bydrodd, #Mat 6:20a’ch gwisgoedd a fwytawyd gan bryfed. 3Eich aur a’ch arian a rydodd; a’u rhwd hwynt a fydd yn dystiolaeth #5:3 i chwi.yn eich erbyn chwi, ac a fwyty eich cnawd chwi fel tân. #Rhuf 2:5Chwi a gasglasoch drysor yn y dyddiau diwethaf. 4Wele, #Lef 19:13; Mal 3:5y mae cyflog y gweithwyr, a fedasant eich meysydd chwi, yr hwn a gamataliwyd gennych, yn llefain: a #Deut 24:15llefain y rhai a fedasant a ddaeth i mewn i glustiau Arglwydd y lluoedd. 5#Luc 16:19, 25; 1 Tim 5:6Moethus fuoch ar y ddaear, a thrythyll; meithrin eich calonnau a wnaethoch, megis mewn dydd lladdedigaeth. 6Condemniasoch a lladdasoch y cyfiawn: ac yntau heb sefyll i’ch erbyn. 7Byddwch gan hynny yn #5:7 hir‐amyneddgar.ymarhous, frodyr, hyd ddyfodiad yr Arglwydd. Wele, y mae’r llafurwr yn disgwyl am werthfawr ffrwyth y ddaear, yn dda ei amynedd amdano, nes iddo dderbyn #Deut 11:14; Sech 10:1y glaw cynnar a diweddar. 8Byddwch chwithau hefyd dda eich amynedd; cadarnhewch eich calonnau: oblegid dyfodiad yr Arglwydd a nesaodd. 9Na #5:9 roddwch ochenaid ar eich gilydd.rwgnechwch yn erbyn eich gilydd, frodyr, fel na’ch condemnier: wele, y mae’r Barnwr #Mat 24:33; 1 Cor 4:5yn sefyll wrth y drws. 10Cymerwch, fy mrodyr, y proffwydi, y rhai a lefarasant yn enw yr Arglwydd, yn siampl o ddioddef blinder, ac o hirymaros. 11Wele, #Mat 5:10, 11dedwydd yr ydym yn #5:11 cyfrif.gadael y rhai sydd ddioddefus. Chwi a glywsoch am #Job 1:21, 22amynedd Job, ac a welsoch #Job 42:10ddiwedd yr Arglwydd: oblegid #Num 14:18; Salm 103:8tosturiol iawn yw’r Arglwydd, a thrugarog. 12Eithr o flaen pob peth, fy mrodyr, #Mat 5:34na thyngwch, nac i’r nef, nac i’r ddaear, nac un llw arall: eithr bydded eich ie chwi yn ie, a’ch nage yn nage; fel na syrthioch i farnedigaeth. 13A oes neb yn eich plith mewn adfyd? gweddïed. A oes neb yn esmwyth arno? #Eff 5:19; Col 3:16caned salmau. 14A oes neb yn eich plith yn glaf? galwed ato henuriaid yr eglwys; a gweddïant hwy #5:14 uwch ei ben.drosto, #Marc 6:13; 16:18gan ei eneinio ef ag olew yn enw’r Arglwydd: 15A gweddi’r ffydd a iachâ’r claf, a’r Arglwydd a’i cyfyd ef i fyny; ac os bydd wedi gwneuthur pechodau, hwy a faddeuir iddo. 16Cyffeswch eich camweddau bawb i’ch gilydd, a gweddïwch dros eich gilydd, fel y’ch iachaer. #Salm 10:17; 34:15, 18; 145:18; Diar 15:29; 28:9; Ioan 9:31; 1 Ioan 3:22Llawer a ddichon taer weddi’r cyfiawn. 17Eleias oedd ddyn #Act 14:15yn rhaid iddo ddioddef fel ninnau, ac #1 Bren 17:1mewn gweddi efe a weddïodd na byddai law: ac ni bu glaw ar y ddaear dair blynedd a chwe mis. 18Ac efe #1 Bren 18:42, 45a weddïodd drachefn; a’r nef a roddes law, a’r ddaear a ddug ei ffrwyth. 19Fy mrodyr, #Mat 18:15od aeth neb ohonoch ar gyfeiliorn oddi wrth y gwirionedd, a throi o ryw un ef; 20Gwybydded, y bydd i’r hwn a drodd bechadur oddi wrth gyfeiliorni ei ffordd, #Rhuf 11:14; 1 Cor 9:22; 1 Tim 4:16gadw enaid rhag angau, a #Diar 10:12; 1 Pedr 4:8chuddio lliaws o bechodau.
Dewis Presennol:
Iago 5: BWM1955C
Uwcholeuo
Copi
Cymharu
Rhanna
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society