Hosea 9
9
Cyfyngder a chaethiwed Israel am eu pechodau a’u gau‐dduwiaeth.
1Israel, na orfoledda gan lawenydd, fel pobloedd eraill: canys puteiniaist oddi wrth dy Dduw, #Jer 44:17gwobrau a hoffaist #9:1 Neu, ym mhob.ar bob llawr dyrnu ŷd. 2Y llawr dyrnu na’r #9:2 Neu, gwin‐lestr.gwinwryf nis portha hwynt, a’r gwin newydd a’i twylla hi. 3Ni thrigant yng ngwlad yr Arglwydd; ond #Pen 8:13; 11:5Effraim a ddychwel i’r Aifft, ac #Esec 4:13; Dan 1:8yn Asyria y bwytânt beth aflan. 4Nid offrymant win i’r Arglwydd, a’u haberthau ni bydd melys ganddo; byddant iddynt fel bara galarwyr; pawb a fwytao ohono a halogir: oherwydd eu bara dros eu heneidiau ni ddaw i dŷ yr Arglwydd. 5Beth a wnewch ar ddydd yr uchel ŵyl, ac ar ddydd gŵyl yr Arglwydd? 6Canys wele, aethant ymaith gan #9:6 Neu, anrhaith.ddinistr; yr Aifft a’u casgl hwynt, Memffis a’u cladd hwynt: #9:6 Neu, eu harian a ddeisyfir, danadl a’u goresgyn. Heb. dymuniad eu harglwydd, &c#Esa 32:13; 34:13; Pen 10:8danadl a oresgyn hyfryd leoedd eu harian hwynt; drain a dyf yn eu pebyll. 7Dyddiau i ymweled a ddaethant, dyddiau talu’r pwyth a ddaethant; Israel a gânt wybod hyn: y proffwyd sydd ffôl, #Micha 2:11; Seff 3:4ynfyd yw y gŵr ysbrydol, am amlder dy anwiredd, a’r cas mawr. 8#Esec 3:17Gwyliedydd Effraim a fu gyda’m Duw; aeth y proffwyd yn fagl adarwr yn ei holl lwybrau, ac yn gasineb #9:8 Neu, yn erbyn tŷ, &cyn nhŷ ei Dduw. 9#Esa 31:6; Pen 10:9 Ymlygrasant yn ddwfn, megis #Barn 19:22yn amser Gibea: am hynny efe a goffa eu hanwiredd, efe a ymwêl â’u pechod. 10Cefais Israel fel grawnwin yn yr anialwch; gwelais eich tadau megis #Esa 28:4; Micha 7:1y ffrwyth cynharaf yn y ffigysbren yn ei dechreuad: ond hwy a aethant at #Num 25:3; Salm 106:28Baal‐peor, #Pen 4:14ymddidolasant at #Jer 11:13y gwarth hwnnw; a bu eu ffieidd‐dra fel y carasant. 11Am Effraim, eu gogoniant hwy a eheda fel aderyn; o’r enedigaeth, o’r groth, ac o’r beichiogi. 12#Job 27:14Er iddynt fagu eu plant, gwnaf hwynt yn amddifaid o ddynion: a gwae hwynt, pan ymadawyf oddi wrthynt! 13Effraim, fel y gwelais #Edrych Esec 26; 27; 28Tyrus, a blannwyd mewn hyfryd gyfannedd: eto Effraim a ddwg ei blant allan at y lleiddiad. 14Dyro iddynt, Arglwydd: beth a roddi? dyro iddynt #Luc 23:29groth yn erthylu, a bronnau hysbion. 15Eu holl ddrygioni #Pen 4:15; 12:11 sydd yn Gilgal: canys yno y caseais hwynt: am ddrygioni eu gweithredoedd y bwriaf hwynt allan o’m tŷ; ni chwanegaf eu caru hwynt: #Esa 1:23eu holl dywysogion sydd wrthryfelgar. 16Effraim a drawyd, eu gwraidd a wywodd, dwyn ffrwyth nis gwnânt: ac os cenhedlant, eto lladdaf #9:16 Heb. ddymuniadau.annwyl blant eu crothau. 17Fy Nuw a’u gwrthyd hwynt, am na wrandawsant arno ef: am hynny y byddant grwydraid ymhlith y cenhedloedd.
Dewis Presennol:
Hosea 9: BWM1955C
Uwcholeuo
Copi
Cymharu
Rhanna
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society