Hosea 10
10
Argyhoeddi Israel am eu pechodau a’u gau‐dduwiaeth.
1 # 10:1 Neu, Gwinwydden yn gwaghau y ffrwyth a roddo. Gwinwydden #Nahum 2:2wag yw Israel; efe a ddwg ffrwyth iddo ei hun: yn ôl amlder ei ffrwyth #Pen 8:11; 12:11yr amlhaodd efe allorau; yn ôl daioni ei dir gwnaethant #10:1 Heb. sefyllbethau.ddelwau teg. 2#10:2 Neu, Efe a rannodd eu calon, hwynt.Eu calon a ymrannodd; yn awr y ceir hwy yn feius: efe a dyr i lawr eu hallorau hwynt; efe a #10:2 Heb. dorfynygla.ddistrywia eu delwau. 3Canys yr awr hon y dywedant, #Pen 3:4Nid oes i ni frenin, am nad ofnasom yr Arglwydd; a pheth a wnâi brenin i ni? 4Dywedasant eiriau, gan dyngu anudon wrth wneuthur amod; tarddodd barn #Edrych Deut 29:18; Amos 6:12; Act 8:23; Heb 12:15megis wermod yn rhychau y meysydd. 5Preswylwyr Samaria a ofnant oherwydd lloeau Beth‐afen; canys ei bobl a alara drosto, a’i #10:5 Neu, Chemarim.offeiriaid y rhai a lawenychant ynddo, o achos #1 Sam 4:21, 22ei ogoniant, am iddo ymado oddi wrtho ef. 6Hefyd efe a ddygir i Asyria yn anrheg #Pen 5:13i frenin Jareb: Effraim a dderbyn gywilydd, ac Israel a fydd cywilydd #Pen 11:6ganddo ei gyngor ei hun. 7Samaria, ei brenin a dorrir ymaith fel ewyn ar wyneb y dwfr. 8A distrywir uchelfeydd Afen, #Deut 9:21pechod Israel; #Pen 9:6dring drain a mieri ar eu hallorau: a #Esa 2:19; Luc 23:30; Dat 6:16; 9:6dywedant wrth y mynyddoedd, Gorchuddiwch ni; ac wrth y bryniau, Syrthiwch arnom. 9O Israel, ti a bechaist er #Pen 9:9dyddiau Gibea: yno y safasant; a’r rhyfel yn Gibea yn erbyn plant anwiredd ni oddiweddodd hwynt. 10Wrth fy ewyllys y cosbaf hwynt: a #Jer 16:16; Pen 8:10phobl a gesglir yn eu herbyn, #10:10 Neu, pan rwymwyf hwynt am eu dau drosedd, neu, yn eu dwy drigfa.pan ymrwymont yn eu dwy gŵys. 11Ac Effraim sydd anner wedi ei dysgu, yn dda ganddi ddyrnu; a minnau a euthum dros degwch ei gwddf hi: paraf i Effraim farchogaeth: Jwda a ardd, a Jacob a lyfna iddo. 12#Diar 11:18Heuwch i chwi mewn cyfiawnder, medwch mewn trugaredd; #Jer 4:3braenerwch i chwi fraenar: canys y mae yn amser i geisio yr Arglwydd, hyd oni ddelo a glawio cyfiawnder arnoch. 13#Job 4:8; Diar 22:8; Gal 6:7Arddasoch i chwi ddrygioni, medasoch anwiredd, bwytasoch ffrwyth celwydd; am i ti ymddiried yn dy ffordd dy hun, yn lluosowgrwydd dy gedyrn. 14Am hynny y cyfyd terfysg ymysg dy bobl, a’th holl amddiffynfeydd a ddinistrir, fel y darfu i Salman ddinistrio #2 Bren 18:34; 19:13Beth‐arbel yn amser rhyfel; lle #Pen 13:16y drylliwyd y fam ar y plant. 15Fel hynny y gwna Bethel i chwi, #10:15 Heb. am ddrygioni eich drygioni.am eich mawrddrwg: gan ddifetha y difethir brenin Israel ar foregwaith.
Dewis Presennol:
Hosea 10: BWM1955C
Uwcholeuo
Copi
Cymharu
Rhanna
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society