Hosea 8
8
1, 12 Bygwth dinistr am annuwioldeb y bobl, 5 a’u gau‐dduwiaeth.
1At #8:1 Heb. daflod dy enau.dy safn â’r #Pen 5:8utgorn. #Deut 28:49; Jer 4:13; Hab 1:8Fel yr eryr y daw yn erbyn tŷ yr Arglwydd, am iddynt #Pen 6:7droseddu fy nghyfamod, a phechu yn erbyn fy nghyfraith. 2Israel a lefant arnaf, Fy Nuw, nyni a’th adwaenom di. 3Israel a fwriodd heibio ddaioni: y gelyn a’i herlid yntau. 4Hwy a wnaethant frenhinoedd, ac nid trwof fi; gwnaethant dywysogion, ac nis gwybûm: #Pen 2:8o’u harian a’u haur y gwnaethant iddynt eu hun ddelwau, fel y torrer hwynt ymaith.
5Samaria, dy lo a’th fwriodd heibio: fy nig a gyneuodd i’w herbyn; pa hyd ni fedrant ddilyn diniweidrwydd? 6Canys o Israel y mae; y saer a’i gwnaeth; am hynny nid yw efe Dduw: ond yn ddrylliau y bydd llo Samaria. 7Canys #Pen 10:12, 13gwynt a heuasant, a chorwynt a fedant: #8:7 Neu, ŷd ar ei droed.corsen ni bydd iddo: y dywysen ni wna flawd: ac os gwna, dieithriaid a’i llwnc. 8Israel a lyncwyd: bellach y byddant ymysg y cenhedloedd #Jer 22:28; 48:38fel dodrefnyn heb hoffter ynddo. 9Canys hwy a aethant i fyny i Asyria, yn asyn gwyllt unig iddo ei hun: Effraim #Esa 30:6; Esec 16:33, 34a gyflogodd gariadau. 10Hefyd er iddynt gyflogi rhai ymysg y cenhedloedd, yn awr #Pen 10:10mi a’u casglaf hwynt: canys #8:10 Neu, dechreuant ychydig.tristânt ychydig, oherwydd baich brenin y tywysogion. 11Oherwydd amlhau o Effraim #Esa 10:8; Dan 2:37; Pen 12:11allorau i bechu, allorau fydd ganddo i bechu. 12Mi a ysgrifennais iddo bethau mawrion fy nghyfraith, ac fel dieithrbeth y cyfrifwyd. 13#Jer 7:21; Sech 7:6#8:13 Neu, Yn ebyrth, &cYn lle ebyrth fy offrymau, cig a aberthant, ac a fwytânt; yr Arglwydd nid yw fodlon iddynt: efe a gofia bellach eu hanwiredd, ac efe a ofwya eu pechodau; #Pen 9:3; 11:5dychwelant i’r Aifft. 14Canys anghofiodd Israel #Esa 29:23; Eff 2:10ei Wneuthurwr, ac a adeiladodd demlau; a Jwda a amlhaodd ddinasoedd caerog: ond myfi a anfonaf dân i’w ddinasoedd, ac efe a ysa ei balasau.
Dewis Presennol:
Hosea 8: BWM1955C
Uwcholeuo
Copi
Cymharu
Rhanna
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society