Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Hosea 7

7
1 Argyhoeddi amryw bechodau. 11 Digofaint Duw yn erbyn y bobl am eu rhagrith.
1A mi yn ewyllysio iacháu Israel, datguddiwyd anwiredd Effraim, a drygioni Samaria: canys gwnânt ffalster; a’r lleidr a ddaw i mewn, a mintai o ysbeilwyr a anrheithia oddi allan. 2Ac nid ydynt yn #7:2 Heb. dywedyd wrth eu calonnau.meddwl yn eu calonnau fy mod i yn cofio eu holl ddrygioni hwynt: weithian eu gweithredoedd eu hun a’u hamgylchynodd: y maent gerbron fy wyneb. 3Llawenhânt y brenin â’u drygioni, a’r tywysogion â’u celwyddau. 4Pawb ohonynt sydd yn torri priodas, fel ffwrn wedi ei thwymo gan y pobydd, #7:4 Neu, paid y cyfodydd. yr hwn a baid â #7:4 Neu, deffro.chodi wedi iddo dylino y toes, hyd oni byddo wedi ei lefeinio. 5Yn niwrnod ein brenin y tywysogion a’i gwnaethant yn glaf #7:5 Neu, â gwres gan win.â chostrelau gwin: estynnodd ei law gyda gwatwarwyr. 6Fel yr oeddynt yn cynllwyn, darparasant eu calon fel ffwrn: eu pobydd a gwsg ar hyd y nos; y bore y llysg fel fflam dân. 7Pawb ohonynt a wresogant fel y ffwrn, ac a ysant eu barnwyr: eu holl frenhinoedd a gwympasant, #Esa 64:7heb un ohonynt yn galw arnaf fi. 8Effraim #Salm 106:35a ymgymysgodd â’r bobloedd; Effraim sydd fel teisen heb ei throi. 9Estroniaid a fwytânt ei gryfder, ac nis gŵyr efe: ymdaenodd penwynni ar hyd‐ddo, ac nis gwybu efe. 10Ac y mae #Pen 5:5balchder Israel yn tystiolaethu yn ei wyneb; ac er hyn oll ni throant at yr Arglwydd eu Duw, ac nis ceisiant ef.
11Effraim sydd fel colomen ynfyd heb galon; #Edrych 2 Bren 15:19; 17:4; Pen 5:13; 12:1galwant ar yr Aifft, ânt i Asyria. 12Pan elont, taenaf fy rhwyd drostynt, a thynnaf hwynt i lawr fel ehediaid y nefoedd: cosbaf hwynt, fel y clybu eu cynulleidfa hwynt. 13Gwae hwynt! canys ffoesant oddi wrthyf: #7:13 Neu, anrhaith.dinistr arnynt; oherwydd gwnaethant gamwedd i’m herbyn: er i mi eu gwared hwynt, eto hwy a ddywedasant gelwydd arnaf fi. 14Ac #Job 35:9, 10ni lefasant arnaf â’u calon, pan udasant ar eu gwelyau: am ŷd a melys win yr ymgasglant; ciliasant oddi wrthyf. 15Er i mi #7:15 Neu, geryddu.rwymo a nerthu eu breichiau hwynt, eto meddyliasant ddrwg i mi. 16Dychwelasant, nid at y Goruchaf: y maent #Salm 78:57fel bwa twyllodrus: eu tywysogion a syrthiant gan y cleddyf am #Salm 73:9gynddaredd eu tafod. Dyma eu gwatwar hwynt yng ngwlad yr Aifft.

Dewis Presennol:

Hosea 7: BWM1955C

Uwcholeuo

Copi

Cymharu

Rhanna

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda