Hosea 6
6
1 Annog i edifeirwch. 4 Achwyn mor anhynaws ac mor annuwiol ydynt.
1Deuwch, a dychwelwn at yr Arglwydd: canys #Deut 32:39; 1 Sam 2:6; Job 5:18efe a’n drylliodd, ac efe a’n hiachâ ni; efe a drawodd, ac efe a’n meddyginiaetha ni. 2#1 Cor 15:4Efe a’n bywha ni ar ôl deuddydd, a’r trydydd dydd y cyfyd ni i fyny, a byddwn fyw ger ei fron ef. 3Yna yr adnabyddwn, os dilynwn adnabod yr Arglwydd: ei fynediad a ddarperir fel y bore; ac #Salm 72:6efe a ddaw #Job 29:23fel glaw atom, fel y diweddar law a’r cynnar law i’r ddaear.
4Beth a wnaf i ti, #Pen 11:8Effraim? beth a wnaf i ti, Jwda? eich #6:4 Neu, daioni, neu, trugaredd.mwynder sydd yn ymado #Pen 13:3fel cwmwl y bore, ac fel gwlith boreol. 5Am hynny y trewais hwynt trwy y proffwydi; lleddais hwynt â geiriau fy ngenau: #6:5 Neu, fel y byddai dy farnedigaethau fel goleuni.a’th farnedigaethau sydd fel goleuni yn myned allan. 6Canys ewyllysiais #1 Sam 15:22; Preg 5:1; Mat 9:13; 12:7drugaredd, ac #Salm 50:8; Diar 21:3; Esa 1:11nid aberth; a gwybodaeth o Dduw, yn fwy na phoethoffrymau. 7A’r rhai hyn, fel #6:7 Neu, Adda, Job 31:33dynion, #Pen 8:1a dorasant y cyfamod: yno y buant anffyddlon i’m herbyn. 8#Pen 12:11Dinas gweithredwyr anwiredd yw Gilead, #6:8 Neu, cyfarwydd, neu, cyfrwys am waed.wedi ei halogi gan waed. 9Ac fel y mae mintai o ladron yn disgwyl gŵr, felly #Jer 11:9; Esec 22:26y mae cynulleidfa yr offeiriaid yn lladd ar y ffordd #6:9 Neu, ag un ysgwydd, neu, i Sichem.yn gytûn: canys gwnânt ysgelerder. 10Gwelais yn nhŷ Israel beth erchyll: yno y mae godineb Effraim; halogwyd Israel. 11Gosododd hefyd gynhaeaf i tithau, Jwda, a mi yn dychwelyd caethiwed fy mhobl.
Dewis Presennol:
Hosea 6: BWM1955C
Uwcholeuo
Copi
Cymharu
Rhanna
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society