Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Hosea 5

5
1 Barnedigaethau Duw yn erbyn offeiriaid, a phobl, a thywysogion Israel, am eu hamryw bechodau, 15 nes iddynt edifarhau.
1Clywch hyn, chwi offeiriaid; gwrandewch, tŷ Israel; a thŷ y brenin, rhoddwch glust: canys y mae barn tuag atoch, am eich bod yn fagl ar Mispa, ac yn rhwyd wedi ei lledu ar Tabor. 2Y rhai a wyrant i ladd a ânt i’r dwfn, #5:2 Neu, ac mi a’u ceryddais hwynt oll.er i mi eu ceryddu hwynt oll. 3Myfi a adwaen Effraim, ac nid yw Israel guddiedig oddi wrthyf: canys yn awr ti, Effraim, a buteiniaist, ac Israel a halogwyd. 4#5:4 Neu, Ni ddioddef eu gwaith iddynt droi.Ni roddant eu gwaith ar droi at eu Duw; am fod #Pen 4:12ysbryd godineb o’u mewn, ac nid adnabuant yr Arglwydd. 5A #Pen 7:10balchder Israel a ddwg dystiolaeth yn ei wyneb: am hynny Israel ac Effraim a syrthiant yn eu hanwiredd; Jwda hefyd a syrth gyda hwynt. 6#Diar 1:28; Esa 1:15; Jer 11:11; Esec 8:18; Micha 3:4; Ioan 7:34A’u defaid ac â’u gwartheg y deuant i geisio yr Arglwydd; ond nis cânt ef: ciliodd efe oddi wrthynt. 7Yn erbyn yr Arglwydd y buant anffyddlon: canys cenedlasant blant dieithr: #Sech 11:8mis bellach a’u difa hwynt ynghyd â’u rhannau. 8#Pen 8:1Cenwch y corn yn Gibea, yr utgorn yn Rama; bloeddiwch yn Beth‐afen ar dy ôl di, Benjamin. 9Effraim fydd yn anrhaith yn nydd y cerydd: ymysg llwythau Israel y perais wybod yr hyn fydd yn sicr. 10Bu dywysogion Jwda fel #Deut 19:14symudwyr terfyn: am hynny y tywalltaf arnynt fy llid fel dwfr. 11Gorthrymwyd Effraim, drylliwyd ef mewn barn, am iddo yn ewyllysgar fyned ar ôl y gorchymyn. 12Am hynny y byddaf fel gwyfyn i Effraim, ac fel #5:12 Neu, pryf.pydredd i dŷ Jwda. 13Pan welodd Effraim ei lesgedd, a Jwda ei archoll; yna yr aeth Effraim #Pen 7:11; 12:1at yr Asyriad, ac a hebryngodd #5:13 Neu, at y brenin a ddadleuai.at frenin Jareb: eto ni allai efe eich meddyginiaethu, na’ch iacháu o’ch archoll. 14Canys #Galar 3:10mi a fyddaf i Effraim fel llew, ac i dŷ Jwda fel cenau llew: myfi a ysglyfaethaf, ac a af ymaith; dygaf ymaith, ac ni bydd a achubo.
15Af a dychwelaf i’m lle, hyd oni #5:15 Heb. byddant euog o’u.#Lef 26:40; Jer 29:12; Esec 6:9; 20:43; 36:31chydnabyddont eu bai, a cheisio fy wyneb: #Salm 78:34pan fyddo adfyd arnynt, y’m boregeisiant.

Dewis Presennol:

Hosea 5: BWM1955C

Uwcholeuo

Copi

Cymharu

Rhanna

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda