Hosea 4
4
1 Barnedigaethau Duw yn erbyn pechodau y bobl, 6 a’r offeiriaid; 12 ac yn erbyn eu delw‐addoliaeth hwy. 15 Annog Jwda i gymryd rhybudd wrth ofidiau Israel.
1Meibion Israel, gwrandewch air yr Arglwydd: canys #Esa 1:18; 3:13; Jer 25:31; Pen 12:2; Micha 6:2 y mae cwyn rhwng yr Arglwydd a thrigolion y wlad, am nad oes na gwirionedd, na thrugaredd na gwybodaeth o Dduw, yn y wlad. 2Trwy dyngu, a dywedyd celwydd, a lladd celain, a lladrata, a thorri priodas, y maent yn torri allan, a gwaed a gyffwrdd â gwaed. 3Am hynny #Jer 4:28; 12:4; Seff 1:3y galara y wlad, ac y llesgâ oll sydd yn trigo ynddi, ynghyd â bwystfilod y maes, ac ehediaid y nefoedd; pysgod y môr hefyd a ddarfyddant. 4Er hynny nac ymrysoned, ac na cherydded neb ei gilydd: canys dy bobl sydd megis rhai yn ymryson â’r offeiriad. 5Am hynny ti a syrthi y dydd, a’r proffwyd hefyd a syrth gyda thi y nos, a mi a #4:5 Heb. dorraf ymaith.ddifethaf dy fam.
6 #
Esa 5:13
Fy mhobl a #4:6 Heb. dorrir ymaith.ddifethir o eisiau gwybodaeth: am i ti ddiystyru gwybodaeth, minnau a’th ddiystyraf dithau, fel na byddych offeiriad i mi; ac am i ti anghofio cyfraith dy Dduw, minnau a anghofiaf dy blant dithau hefyd. 7Fel yr amlhasant, felly y pechasant i’m herbyn: am hynny #Phil 3:19eu gogoniant a newidiaf yn warth. 8Bwyta y maent bechod fy mhobl, ac at eu hanwiredd hwynt y maent yn dyrchafu #4:8 Heb. eu henaid.eu calon. 9A #Esa 24:2bydd yr un fath, bobl ac offeiriad: ac ymwelaf â hwynt am eu ffyrdd, a #4:9 Heb. dychwelaf.thalaf iddynt eu gweithredoedd. 10#Lef 26:26; Micha 6:14; Hag 1:6Bwytânt, ac nis diwellir; puteiniant, ac nid amlhânt; am iddynt beidio â disgwyl wrth yr Arglwydd. 11Godineb, a gwin, a gwin newydd, a ddwg y galon ymaith.
12Fy mhobl a ofynnant gyngor i’w cyffion, a’u ffon a ddengys iddynt: canys #Esa 44:20; Pen 5:4ysbryd godineb a’u cyfeiliornodd hwynt, a phuteiniasant oddi wrth eu Duw. 13#Esa 1:29; 57:5, 7; Esec 6:13; 20:28Ar bennau y mynyddoedd yr aberthant, ac ar y bryniau y llosgant arogl‐darth, dan y dderwen, a’r boplysen, a’r llwyfen, am fod yn dda eu cysgod: #Amos 7:17; Rhuf 1:28am hynny y puteinia eich merched chwi, a’ch gwragedd a dorrant briodas. 14#4:14 Neu, Onid ymwelaf, &cNid ymwelaf â’ch merched pan buteiniont, nac â’ch gwragedd pan dorront briodas: am fod y rhai hyn yn ymddidoli gyda phuteiniaid, ac aberthasant gyda dihirogod; a’r bobl ni ddeallant, #4:14 Neu, a gosbir.a dramgwyddant.
15Er i ti, Israel, buteinio, eto na pheched Jwda: nac ewch i #Pen 9:15; 12:11; Amos 4:4Gilgal, nac ewch i fyny i #1 Bren 12:29Beth‐afen; ac #Seff 1:5na #Amos 8:14thyngwch, Byw yw yr Arglwydd. 16Fel anner anhywaith yr anhyweithiodd Israel: yr Arglwydd yr awr hon a’u portha hwynt fel oen mewn ehangder. 17Effraim a ymgysylltodd ag eilunod: gad iddo. 18#4:18 Neu, Chwaethodd.Surodd eu diod hwy; gan buteinio y puteiniasant: #Micha 7:3hoff yw, Moeswch, trwy gywilydd gan ei #4:18 Heb. thariannau.llywodraethwyr hi. 19Y gwynt a’i rhwymodd hi yn ei hadenydd, a #Jer 2:26bydd arnynt gywilydd oherwydd eu haberthau.
Dewis Presennol:
Hosea 4: BWM1955C
Uwcholeuo
Copi
Cymharu
Rhanna
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society