Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Hosea 13

13
1 Gogoniant Effraim, oherwydd eu gau‐dduwiaeth, yn diflannu. 5 Digofaint Duw wrthynt am eu diffyg cariad brawdol. 9 Addewid o drugaredd Duw. 15 Barnedigaeth am anufudd‐dod.
1Pan lefarodd Effraim â dychryn, ymddyrchafodd efe yn Israel; ond pan bechodd gyda Baal, y bu farw. 2Ac yr awr hon ychwanegasant bechu, ac #Pen 2:8; 8:4o’u harian y gwnaethant iddynt ddelwau tawdd, ac eilunod, yn ôl eu deall eu hun, y cwbl o waith y crefftwyr, am y rhai y maent yn dywedyd, Y rhai #13:2 Neu, a aberthant ddyn.a aberthant, #Edrych 1 Bren 19:18cusanant y lloi. 3Am hynny y byddant #Pen 6:4fel y bore‐gwmwl, ac megis y gwlith yr ymedy yn fore, #Dan 2:35fel mân us a chwaler gan gorwynt allan o’r llawr dyrnu, ac fel mwg o’r #13:3 Neu, simnai.ffumer. 4Eto #Esa 43:1; Pen 12:9myfi yw yr Arglwydd dy Dduw, a’th ddug di o dir yr Aifft; ac ni chei gydnabod Duw ond myfi: ac #Esa 43:11; 45:21nid oes Iachawdwr ond myfi.
5Mi a’th adnabûm yn y diffeithwch, #Deut 8:15; 32:10yn nhir sychder mawr. 6#Deut 32:15Fel yr oedd eu porfa, y cawsant eu gwala: cawsant eu gwala, a chodasant eu calonnau; ac #Pen 8:14anghofiasant fi. 7Ond #Galar 3:10; Pen 5:14mi a fyddaf fel llew iddynt; megis #Jer 5:6llewpard ar y ffordd y disgwyliaf hwynt. 8Cyfarfyddaf â hwynt #2 Sam 17:8; Diar 17:12fel arth wedi colli ei chenawon; rhwygaf orchudd eu calon hwynt; ac yna fel llew y difâf hwynt: bwystfil y maes a’u llarpia hwynt.
9O Israel, tydi a’th ddinistriaist dy hun; ond ynof fi y mae #13:9 Heb. yn dy gymorth.dy gymorth. 10Dy frenin fyddaf: #Pen 10:3pa le y mae arall a’th waredo di yn dy holl ddinasoedd? a’th frawdwyr, am y rhai y dywedaist, Dyro i mi frenin a thywysogion? 11Rhoddais i ti #1 Sam 8:5, &c; 15:22; 16:1frenin yn fy nig, a dygais ef ymaith yn fy llid. 12#Job 14:17Rhwymwyd anwiredd Effraim; cuddiwyd ei bechod ef. 13#Esa 13:8; Jer 30:6Gofid un yn esgor a ddaw arno: mab angall yw efe; canys ni ddylasai efe sefyll #13:13 Heb. amser.yn hir yn esgoreddfa y plant. 14#Esa 25:8O law y bedd yr achubaf hwynt; oddi wrth angau y gwaredaf hwynt: #1 Cor 15:54, 55byddaf #13:14 Neu, blâu.angau i ti, O angau; byddaf dranc i ti, y bedd: cuddir edifeirwch o’m golwg.
15Er #Edrych Gen 41:52; 48:19ei fod yn ffrwythlon ymysg ei frodyr, daw #Esec 17:10; 19:12gwynt y dwyrain, gwynt yr Arglwydd o’r anialwch a ddyrchafa, a’i ffynhonnell a sych, a’i ffynnon a â yn hesb: efe a ysbeilia drysor pob llestr dymunol. 16Diffeithir Samaria, am ei bod yn anufudd i’w Duw: syrthiant ar y cleddyf: #2 Bren 8:12; Pen 10:14; Nahum 3:10eu plant a ddryllir, a’u gwragedd beichiogion a rwygir.

Dewis Presennol:

Hosea 13: BWM1955C

Uwcholeuo

Copi

Cymharu

Rhanna

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda