Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Hosea 12

12
1 Argyhoeddi Effraim, Jwda, a Jacob. 3 Y mae yn eu hannog i edifarhau, oherwydd y daioni a gawsent. 7 Pechodau Effraim yn cyffroi Duw.
1Effraim sydd yn ymborthi ar wynt, ac yn dilyn gwynt y dwyrain: ar hyd y dydd yr amlhaodd gelwydd a dinistr; #Pen 5:13; 7:11amod a wnaethant â’r Asyriaid; ac #Esa 30:6; 57:9olew a ddygwyd i’r Aifft. 2Ac y mae gan yr Arglwydd gŵyn ar Jwda; ac efe a ymwêl â Jacob yn ôl ei ffyrdd: yn ôl ei weithredoedd y tâl iddo y pwyth.
3Yn y groth #Gen 25:26y daliodd efe sawdl ei frawd, ac yn ei nerth #12:3 Heb. y bu dywysog, neu, yr ymddûg yn dywysogaidd.#Gen 32:24 &cy cafodd allu gyda Duw. 4Ie, cafodd nerth ar yr angel, a gorchfygodd; wylodd, ac ymbiliodd ag ef: #Gen 28:12; 35:9, 10cafodd ef yn Bethel, ac yno yr ymddiddanodd â ni; 5Sef Arglwydd Dduw y lluoedd: #Exod 3:15yr Arglwydd yw ei goffadwriaeth. 6#Pen 14:1Tro dithau at dy Dduw; cadw drugaredd a barn, a disgwyl wrth dy Dduw bob amser.
7 # 12:7 Neu, Canaan. Marsiandwr yw efe; yn ei law ef y mae cloriannau twyll: da ganddo #12:7 Neu, dwyllo.orthrymu. 8A dywedodd Effraim, #Sech 11:5Eto mi a gyfoethogais, cefais i mi olud; #12:8 Neu, fy holl lafuriau ni’m digonant: efe a gaiff gosb anwiredd yr hwn y mae pechod ynddo.ni chafwyd yn fy holl lafur anwiredd ynof, a fyddai bechod. 9A #Pen 13:4mi, yr hwn yw yr Arglwydd dy Dduw a’th ddug o dir yr Aifft, #Lef 23:42, 43; Sech 14:16a wnaf i ti drigo eto mewn pebyll, megis ar ddyddiau uchel ŵyl. 10Ymddiddenais trwy y proffwydi, a mi a amlheais weledigaethau, ac a arferais gyffelybiaethau, trwy law y proffwydi. 11A oes #Pen 6:8anwiredd yn Gilead? yn ddiau gwagedd ydynt; yn #Pen 4:15; 9:15; Amos 4:4; 5:5Gilgal yr aberthant ychen: #Pen 8:11; 10:1eu hallorau hefyd sydd fel carneddau yn rhychau y meysydd. 12#Gen 28:5Ffodd Jacob hefyd i wlad Syria, a #Gen 29:20, 28gwasanaethodd Israel am wraig, ac am wraig y cadwodd ddefaid. 13A #Exod 12:50, 51; 13:3; Salm 77:20; Esa 63:11thrwy broffwyd y dug yr Arglwydd Israel o’r Aifft, a thrwy broffwyd y cadwyd ef. 14Effraim a’i cyffrôdd ef i ddig ynghyd â chwerwedd; am hynny y gad efe ei waed ef arno, a’i Arglwydd a dâl iddo ei waradwydd.

Dewis Presennol:

Hosea 12: BWM1955C

Uwcholeuo

Copi

Cymharu

Rhanna

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda