Hosea 11
11
1 Anniolchgarwch Israel i Dduw am ei ddoniau. 5 Eu barnedigaeth hwy; 8 a thrugaredd Duw tuag atynt.
1Pan oedd Israel yn fachgen, mi a’i cerais ef, ac #Mat 2:15a elwais #Exod 4:22, 23fy mab o’r Aifft. 2Fel y galwent arnynt, felly hwythau a aent o’u gŵydd hwy; aberthasant i Baalim, llosgasant arogl‐darth i ddelwau cerfiedig. 3Myfi hefyd a ddysgais i Effraim gerdded, gan eu cymryd erbyn eu breichiau; ond ni chydnabuant mai myfi a’u meddyginiaethodd hwynt. 4Tynnais hwynt â rheffynnau dynol, â rhwymau cariad; ac oeddwn iddynt megis y rhai a godant yr iau ar eu bochgernau hwynt; a bwriais atynt fwyd.
5 # Edrych pen
9:3
Ni ddychwel efe i wlad yr Aifft; ond yr Asyriad fydd ei frenin, am iddynt wrthod troi. 6A’r cleddyf a erys ar ei ddinasoedd ef, ac a dreulia ac a ysa ei geinciau ef, #Pen 10:6am eu cynghorion eu hun. 7A’m pobl i sydd ar feddwl cilio oddi wrthyf fi; er iddynt eu galw at y Goruchaf, #11:7 Heb. ynghyd ni ddyrchafodd.eto ni ddyrchafai neb ef. 8#Pen 6:4Pa fodd y’th roddaf ymaith, Effraim? y’th roddaf i fyny, Israel? pa fodd y’th wnaf fel #Gen 14:8; 19:24; Deut 29:23; Amos 4:11Adma? ac y’th osodaf megis Seboim? #Esa 63:15; Jer 31:20trodd fy nghalon ynof, a’m hedifeirwch a gydgyneuwyd. 9Ni chyflawnaf angerdd fy llid: ni ddychwelaf i ddinistrio Effraim, #Num 23:19; Mal 3:6canys Duw ydwyf fi, ac nid dyn; y Sanct yn dy ganol di; ac nid af i mewn i’r ddinas. 10Ar ôl yr Arglwydd yr ânt; #Joel 3:16; Amos 1:2efe a rua fel llew: pan ruo efe, yna meibion o’r gorllewin a ddychrynant. 11Dychrynant fel aderyn o’r Aifft, ac #Esa 60:8fel colomen o dir Asyria: a mi a’u gosodaf hwynt yn eu tai, medd yr Arglwydd. 12Effraim a’m hamgylchynodd â chelwydd, a thŷ Israel â thwyll; ond y mae Jwda eto yn llywodraethu gyda Duw, ac yn ffyddlon gyda’r #11:12 Neu, sancteiddiolaf.saint.
Dewis Presennol:
Hosea 11: BWM1955C
Uwcholeuo
Copi
Cymharu
Rhanna
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society