Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Daniel 1

1
1 Caethiwed Jehoiacim. 3 Aspenas yn cymryd Daniel, Hananeia, Misael, ac Asareia, i’w dysgu yng ngwybodaeth y Caldeaid: 8 a hwythau yn gwrthod rhan o fwyd y brenin; ac wrth fwyta ffa, ac yfed dwfr, yn myned yn dda arnynt. 17 Eu godidog ddoethineb hwy.
1Yn y drydedd flwyddyn o deyrnasiad Jehoiacim brenin Jwda, #2 Bren 24:1; 2 Cron 36:6y daeth Nebuchodonosor brenin Babilon i Jerwsalem, ac a warchaeodd arni. 2A’r Arglwydd a roddes i’w law ef Jehoiacim brenin Jwda, a rhan o lestri tŷ Dduw; yntau a’u dug hwynt i wlad Sinar, i dŷ ei dduw ef; ac i drysordy ei dduw y dug efe y llestri.
3A dywedodd y brenin wrth Aspenas ei ben‐ystafellydd, am ddwyn o feibion Israel, ac o’r had brenhinol, ac o’r tywysogion, 4Fechgyn y rhai ni byddai ynddynt ddim gwrthuni, eithr yn dda yr olwg, a deallgar ym mhob doethineb, ac yn gwybod gwybodaeth, ac yn deall cyfarwyddyd, a’r rhai y byddai grym ynddynt i sefyll yn llys y brenin, #Act 7:22i’w dysgu ar lyfr ac yn iaith y Caldeaid. 5A’r brenin a ddognodd iddynt ran beunydd o fwyd y brenin, #1:5 Heb. ac o win ei ddiod ef.ac o’r gwin a yfai efe; felly i’w maethu hwynt dair blynedd, fel #ad. 19y safent ar ôl hynny gerbron y brenin. 6Ac yr ydoedd yn eu plith hwynt o feibion Jwda, Daniel, Hananeia, Misael, ac Asareia: 7#Pen 5:12A’r pen‐ystafellydd a osododd arnynt enwau: canys ar Daniel y gosododd efe #Pen 4:8Beltesassar; ac ar Hananeia, Sadrach; ac ar Misael, Mesach; ac ar Asareia, Abednego.
8A Daniel a roddes ei fryd #Hos 9:3nad ymhalogai efe trwy ran o fwyd y brenin, na thrwy y gwin a yfai efe: am hynny efe a ddymunodd ar y pen‐ystafellydd, na byddai raid iddo ymhalogi. 9A #Edrych Gen 39:21; Salm 106:46; Diar 16:7 Duw a roddes Daniel mewn ffafr a thiriondeb gyda’r pen‐ystafellydd. 10A’r pen‐ystafellydd a ddywedodd wrth Daniel, Ofni yr ydwyf fi fy arglwydd y brenin, yr hwn a osododd eich bwyd chwi a’ch diod chwi: oherwydd paham y gwelai efe eich wynebau yn #1:10 Neu, waeth. Heb. dristach.gulach na’r bechgyn sydd #1:10 Neu, o’ch dull, neu, o’ch amser chwi?fel chwithau? felly y parech fy mhen yn ddyledus i’r brenin. 11Yna y dywedodd Daniel wrth #1:11 Neu, y goruchwyliwr.Melsar, yr hwn a osodasai y pen‐ystafellydd ar Daniel, Hananeia, Misael, ac Asareia, 12Prawf, atolwg, dy weision ddeg diwrnod, a rhoddant i ni #1:12 Heb. o ffa.ffa #1:12 Heb. a ni a fwytawn.i’w bwyta, a dwfr i’w yfed. 13Yna edrycher ger dy fron di ein gwedd ni, a gwedd y bechgyn sydd yn bwyta rhan o fwyd y brenin: ac fel y gwelych, gwna â’th weision. 14Ac efe a wrandawodd arnynt yn y peth hyn, ac a’u profodd hwynt ddeg o ddyddiau. 15Ac ymhen y deng niwrnod y gwelid eu gwedd hwynt yn decach, ac yn dewach o gnawd, na’r holl fechgyn oedd yn bwyta rhan o fwyd y brenin. 16Felly Melsar a gymerodd ymaith ran eu bwyd hwynt, a’r gwin a yfent; ac a roddes iddynt ffa.
17A’r bechgyn hynny ill pedwar, Duw a roddes iddynt #Act 7:22wybodaeth a deall ym mhob dysg a doethineb: a Daniel #Num 12:6; 2 Cron 26:5; Pen 10:1#1:17 Neu, oedd ddeallus.a hyfforddiodd efe ym mhob gweledigaeth a breuddwydion. 18Ac ymhen y dyddiau y dywedasai y brenin am eu dwyn hwynt i mewn, yna y pen‐ystafellydd a’u dug hwynt gerbron Nebuchodonosor. 19A’r brenin a chwedleuodd â hwynt; ac ni chafwyd ohonynt oll un fel Daniel, Hananeia, Misael, ac Asareia: am hynny #Gen 41:46y safasant hwy gerbron y brenin. 20Ac ym mhob rhyw #1:20 Heb. ddoethineb deall.ddoethineb a deall a’r a ofynnai y brenin iddynt, efe a’u cafodd hwynt yn ddeg gwell na’r holl ddewiniaid a’r astronomyddion oedd o fewn ei holl frenhiniaeth ef. 21A bu Daniel hyd y flwyddyn gyntaf i’r brenin #Pen 6:28; 10:1Cyrus.

Dewis Presennol:

Daniel 1: BWM1955C

Uwcholeuo

Copi

Cymharu

Rhanna

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda