Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Daniel 2

2
1 Nebuchodonosor yn anghofio ei freuddwyd, a thrwy addewidion a bygythion yn ceisio gan y Caldeaid ei ddangos iddo: 10 hwythau yn cydnabod nas gallent, ac yn cael barn marwolaeth. 14 Daniel, wedi cael peth amser, yn dehongli’r freuddwyd; 19 yn bendithio Duw; 24 yn atal y farn, ac yn dyfod ger bron y brenin. 31 Y freuddwyd, 36 a’i dehongliad; 46 a dyrchafiad Daniel.
1Ac yn yr ail flwyddyn o deyrnasiad Nebuchodonosor, y breuddwydiodd Nebuchodonosor freuddwydion, a thrallodwyd ei ysbryd ef, a’i gwsg a dorrodd oddi wrtho. 2A’r brenin a archodd alw am y dewiniaid, ac am yr astronomyddion, ac am yr hudolion, ac am y Caldeaid, i fynegi i’r brenin ei freuddwydion: a hwy a ddaethant ac a safasant gerbron y brenin. 3A’r brenin a ddywedodd wrthynt, Breuddwydiais freuddwyd, a thrallodwyd fy ysbryd am wybod y breuddwyd. 4Yna y Caldeaid a lefarasant wrth y brenin yn Syriaeg, #1 Bren 1:31; Pen 3:9; 6:6, 21O frenin, bydd fyw yn dragywydd: adrodd dy freuddwyd i’th weision, a mynegwn y dehongliad. 5Atebodd y brenin a dywedodd wrth y Caldeaid, Aeth y peth oddi wrthyf: oni fynegwch y breuddwyd i mi, a’i ddehongliad, #Pen 3:29gwneir chwi yn ddrylliau, a’ch #Esra 6:11tai a osodir yn domen. 6Ond os y breuddwyd a’i ddehongliad a ddangoswch, cewch roddion, a gwobrau, ac anrhydedd mawr o’m blaen i: am hynny dangoswch y breuddwyd, a’i ddehongliad. 7Atebasant eilwaith a dywedasant, Dyweded y brenin y breuddwyd i’w weision, ac ni a ddangoswn ei ddehongliad ef. 8Atebodd y brenin a dywedodd, Mi a wn yn hysbys mai #2:8 Cald. prynu.oedi yr amser yr ydych chwi; canys gwelwch fyned y peth oddi wrthyf. 9Ond oni wnewch i mi wybod y breuddwyd, #Est 4:11un gyfraith fydd i chwi: canys gair celwyddog a llygredig a ddarparasoch ei ddywedyd o’m blaen, nes newid yr amser: am hynny dywedwch i mi y breuddwyd, a mi a gaf wybod y medrwch ddangos i mi ei ddehongliad ef.
10Y Caldeaid a atebasant o flaen y brenin, ac a ddywedasant, Nid oes dyn ar y ddaear a ddichon ddangos yr hyn y mae y brenin yn ei ofyn; ac ni cheisiodd un brenin, na phennaeth, na llywydd, y fath beth â hwn gan un dewin, nac astronomydd, na Chaldead. 11Canys dieithr yw y peth a gais y brenin, ac nid oes neb arall a fedr ei ddangos o flaen y brenin, ond y duwiau, y rhai nid yw eu trigfa gyda chnawd. 12O achos hyn y digiodd y brenin ac y creulonodd yn ddirfawr, ac a orchmynnodd ddifetha holl ddoethion Babilon. 13Yna yr aeth y gyfraith allan am ladd y doethion; ceisiasant hefyd Daniel a’i gyfeillion i’w lladd.
14Yna #2:14 Cald. y trodd.yr atebodd Daniel trwy gyngor a doethineb i Arioch, #2:14 Neu, tywysog y filwriaeth. Cald. pen‐lleiddiad, Gen 37:36pen‐distain y brenin, yr hwn a aethai allan i ladd doethion Babilon: 15Efe a lefarodd ac a ddywedodd wrth Arioch, distain y brenin, Paham y mae y gyfraith yn myned ar y fath frys oddi wrth y brenin? Yna Arioch a fynegodd y peth i Daniel. 16Yna Daniel a aeth i mewn, ac a ymbiliodd â’r brenin am roddi iddo amser, ac y dangosai efe y dehongliad i’r brenin. 17Yna yr aeth Daniel i’w dŷ, ac a fynegodd y peth i’w gyfeillion, Hananeia, Misael, ac Asareia; 18Fel y ceisient drugareddau #2:18 Cald. o flaen Duw, neu, oddi ger bron Duw.gan Dduw y nefoedd yn achos y dirgelwch hwn; fel na ddifethid Daniel a’i gyfeillion gyda’r rhan arall o ddoethion Babilon.
19Yna y datguddiwyd y dirgelwch i Daniel mewn gweledigaeth nos: yna Daniel a fendithiodd Dduw y nefoedd. 20Atebodd Daniel a dywedodd, #Salm 113:2; 115:18Bendigedig fyddo enw Duw o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb: canys doethineb a nerth ydynt eiddo ef: 21Ac efe sydd yn newid amserau, a thymhorau: #Job 12:18efe sydd yn symud brenhinoedd, ac yn gosod brenhinoedd: efe sydd yn rhoddi doethineb i’r doethion, a gwybodaeth i’r rhai a fedrant ddeall: 22#Job 12:22Efe sydd yn datguddio y pethau dyfnion a chuddiedig: efe a ŵyr beth sydd yn y tywyllwch, a chydag ef y mae y goleuni yn trigo. 23Tydi Dduw fy nhadau yr ydwyf fi yn diolch iddo, ac yn ei foliannu, oherwydd rhoddi ohonot ddoethineb a nerth i mi, a pheri i mi wybod yn awr yr hyn a geisiasom gennyt: canys gwnaethost i ni wybod #2:23 Cald. ymadrodd, neu, fater y brenin.yr hyn a ofynnodd y brenin.
24Oherwydd hyn yr aeth Daniel at Arioch, yr hwn a osodasai y brenin i ddifetha doethion Babilon: efe a aeth, ac a ddywedodd wrtho fel hyn; Na ddifetha ddoethion Babilon; dwg fi o flaen y brenin, a mi a ddangosaf i’r brenin y dehongliad. 25Yna y dug Arioch Daniel o flaen y brenin ar frys, ac a ddywedodd wrtho fel hyn; #2:25 Cald. Gael ohonof ŵr.Cefais ŵr o blant caethiwed Jwda, yr hwn a fynega i’r brenin y dehongliad. 26Atebodd y brenin, a dywedodd wrth Daniel, yr hwn yr oedd ei enw Beltesassar, A elli di fynegi i mi y breuddwyd a welais, a’i ddehongliad? 27Atebodd Daniel o flaen y brenin, a dywedodd, Ni all doethion, astronomyddion, dewiniaid, na brudwyr, ddangos i’r brenin y dirgelwch y mae y brenin yn ei ofyn: 28Ond y mae Duw yn y nefoedd yn datguddio dirgeledigaethau, ac a fynegodd i’r brenin Nebuchodonosor beth a fydd yn y dyddiau diwethaf. Dy freuddwyd a gweledigaethau dy ben yn dy wely ydoedd hyn yma: 29Ti frenin, dy feddyliau a godasant yn dy ben ar dy wely, beth oedd i ddyfod ar ôl hyn: a’r hwn sydd yn datguddio dirgeledigaethau, a fynegodd i ti beth a fydd. 30#Felly Gen 41:16; Act 3:12Minnau hefyd, nid oherwydd y doethineb sydd ynof fi yn fwy na neb byw, y datguddiwyd i mi y dirgelwch hwn: ond o’u hachos hwynt y rhai a fynegant y dehongliad i’r brenin, ac fel y gwybyddit feddyliau dy galon.
31Ti, frenin, oeddit yn gweled, ac wele ryw ddelw fawr: y ddelw fawr hon, yr oedd ei disgleirdeb yn rhagorol, oedd yn sefyll gyferbyn â thi; a’r olwg arni ydoedd ofnadwy. 32#ad. 38, &cPen y ddelw hon ydoedd o aur da, ei dwyfron a’i breichiau o arian, ei bol a’i #2:32 Neu, hystlysau.morddwydydd o bres, 33Ei choesau o haearn, ei thraed oedd beth ohonynt o haearn, a pheth ohonynt o bridd. 34Edrych yr oeddit hyd oni thorrwyd allan garreg, #2:34 Neu, nid oedd mewn dwylaw: fel ad 45nid trwy waith dwylo, a hi a drawodd y ddelw ar ei thraed o haearn a phridd, ac a’u maluriodd hwynt. 35Yna yr haearn, y pridd, y pres, yr arian, a’r aur, a gydfaluriasant, ac oeddynt #Hos 13:3fel mân us yn dyfod o’r lloriau dyrnu haf; a’r gwynt a’u dug hwynt ymaith, ac ni chaed lle iddynt; a’r garreg yr hon a drawodd y ddelw a aeth yn fynydd mawr, ac a lanwodd yr holl ddaear.
36Dyma y breuddwyd: dywedwn hefyd ei ddehongliad o flaen y brenin. 37#Esra 7:12; Jer 27:6, 7; Esec 26:7; Hos 8:10Ti, frenin, wyt frenin brenhinoedd: canys Duw y nefoedd a roddodd i ti frenhiniaeth, gallu, a nerth, a gogoniant. 38A pha le bynnag y preswylia plant dynion, efe a roddes dan dy law fwystfilod y maes, ac ehediaid y nefoedd, ac a’th osododd di yn arglwydd arnynt oll: ti yw y pen aur hwnnw. 39Ac ar dy ôl di y cyfyd brenhiniaeth arall is na thi, a thrydedd frenhiniaeth arall o bres, yr hon a lywodraetha ar yr holl ddaear. 40Bydd hefyd y bedwaredd frenhiniaeth yn gref fel haearn: canys yr haearn a ddryllia, ac a ddofa bob peth: ac fel haearn, yr hwn a ddryllia bob peth, y maluria ac y dryllia hi. 41A lle y gwelaist y traed a’r bysedd, peth ohonynt o bridd crochenydd, a pheth ohonynt o haearn, brenhiniaeth ranedig fydd; a bydd ynddi beth o gryfder haearn, oherwydd gweled ohonot haearn wedi ei gymysgu â phridd cleilyd. 42Ac fel yr ydoedd bysedd y traed, peth o haearn, a pheth o bridd; felly y bydd y frenhiniaeth, o ran yn gref, ac o ran yn frau. 43A lle y gwelaist haearn wedi ei gymysgu â phridd cleilyd, ymgymysgant â had dyn; ond ni lynant y naill wrth y llall, megis nad ymgymysga haearn â phridd. 44Ac yn nyddiau y brenhinoedd hyn, y cyfyd Duw y nefoedd frenhiniaeth, yr hon ni ddistrywir byth: a’r #Pen 4:3, 34; 6:26; 7:14, 27; Micha 4:7; Luc 1:33frenhiniaeth ni adewir i bobl eraill; ond hi a faluria, ac a dreulia yr holl freniniaethau hyn, a hi a saif yn dragywydd. 45Lle y gwelaist dorri #Esa 28:16carreg o’r mynydd, yr hon ni thorrwyd â llaw, a malurio ohoni yr haearn, y pres, y pridd, yr arian, a’r aur; hysbysodd y Duw mawr i’r brenin beth a fydd wedi hyn: felly y breuddwyd sydd wir, a’i ddehongliad yn ffyddlon.
46Yna y syrthiodd Nebuchodonosor y brenin ar ei wyneb, ac #Edrych Act 10:25; 14:11, 13; 28:6a addolodd Daniel; gorchmynnodd hefyd am offrymu iddo offrwm ac arogl‐darth. 47Atebodd y brenin a dywedodd wrth Daniel, Mewn gwirionedd y gwn mai eich Duw chwi yw Duw y duwiau, ac Arglwydd y brenhinoedd, a datguddydd dirgeledigaethau, oherwydd medru ohonot ddatguddio y dirgelwch hwn. 48Yna y brenin a fawrygodd Daniel, ac a roddes iddo roddion mawrion lawer; ac efe a’i gwnaeth ef yn bennaeth ar holl dalaith Babilon, ac #Pen 4:9yn ben i’r swyddogion ar holl ddoethion Babilon. 49Yna Daniel a ymbiliodd â’r brenin, ac yntau a osododd Sadrach, Mesach, ac Abednego ar lywodraeth talaith Babilon: ond Daniel a eisteddodd ym mhorth y brenin.

Dewis Presennol:

Daniel 2: BWM1955C

Uwcholeuo

Copi

Cymharu

Rhanna

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda