Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Amos 8

8
1 Wrth gawell o ffrwythydd haf, y dangosir mor agos yw diwedd Israel. 4 Argyhoeddi trais a thraha. 11 Bygwth newyn gair Duw.
1Fel hyn y dangosodd yr Arglwydd i mi; ac wele gawellaid o ffrwythydd haf. 2Ac efe a ddywedodd, Beth a weli di, Amos? A mi a ddywedais, Cawellaid o ffrwythydd haf. Yna y dywedodd yr Arglwydd wrthyf, Daeth y diwedd ar fy mhobl Israel; #Pen 7:8nid af heibio iddynt mwyach. 3Caniadau y deml hefyd #8:3 Heb. a udant.a droir yn udo ar y dydd hwnnw, medd yr Arglwydd Dduw: llawer o gelaneddau a fydd ym mhob lle; bwrir hwynt allan #Pen 6:10#8:3 Heb. distawa.yn ddistaw.
4Gwrandewch hyn, y sawl ydych #Diar 30:14yn llyncu yr anghenog, i ddifa tlodion y tir, 5Gan ddywedyd, Pa bryd yr â y #8:5 Neu, newyddloer.mis heibio, fel y gwerthom ŷd? a’r #Neh 13:15, 16Saboth, fel #8:5 Heb. yr agorom.y dygom allan y gwenith, #Micha 6:10gan brinhau yr effa, a helaethu y sicl, #8:5 Heb. a gwyro cloriannau twyll? Hos 12:7ac anghyfiawnu y cloriannau trwy dwyll? 6I #Pen 2:6brynu y tlawd er arian, a’r anghenus er pâr o esgidiau, ac i werthu gwehilion y gwenith? 7Tyngodd yr Arglwydd i #Pen 6:8ragorfraint Jacob, Diau nid anghofiaf byth yr un o’u gweithredoedd hwynt. 8Oni chrŷn y ddaear am hyn? ac #Pen 9:5oni alara ei holl breswylwyr? cyfyd hefyd i gyd fel llif; a bwrir hi ymaith, a hi a foddir, megis gan afon yr Aifft. 9A’r dydd hwnnw, medd yr Arglwydd Dduw, y gwnaf i’r #Job 5:14; Esa 59:9, 10; Jer 15:9haul fachludo hanner dydd, a thywyllaf y ddaear liw dydd golau. 10Troaf hefyd eich gwyliau yn alar, a’ch holl ganiadau yn oernad: #Esa 15:2; Jer 48:37; Esec 7:18dygaf sachliain ar yr holl lwynau, a moelni ar bob pen: a #Jer 6:26; Sech 12:10mi a’i gwnaf fel galar am unmab, a’i ddiwedd fel dydd chwerw.
11Wele, y mae y dyddiau yn dyfod, medd yr Arglwydd Dduw, yr anfonaf newyn i’r tir; nid newyn am fara, ac nid syched am ddwfr, ond #1 Sam 3:1; Salm 74:9am wrando geiriau yr Arglwydd. 12A hwy a grwydrant o fôr i fôr, ac a wibiant o’r gogledd hyd y dwyrain, i geisio gair yr Arglwydd, ac nis cânt. 13Y diwrnod hwnnw y gwyryfon glân a’r meibion ieuainc a ddiffoddant o syched. 14Y rhai #Hos 4:15a dyngant i #Deut 9:21bechod Samaria, ac a ddywedant, Byw yw dy dduw di, O Dan; a, Byw yw #Edrych Act 9:2; 18:25; 19:9, 23ffordd #Pen 5:5Beerseba; hwy a syrthiant, ac ni chodant mwy.

Dewis Presennol:

Amos 8: BWM1955C

Uwcholeuo

Copi

Cymharu

Rhanna

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda