Amos 7
7
1 Troi heibio farnedigaethau y ceiliogod rhedyn, 4 a’r tân, trwy weddi Amos. 7 Trwy weledigaeth o fur a llinyn mesur, y dangosir gwrthodiad Israel. 10 Amaseia yn achwyn ar Amos. 14 Amos yn dangos ei alwedigaeth ei hun, 16 a barnedigaeth Amaseia.
1Fel hyn y dangosodd yr Arglwydd i mi; ac wele ef yn ffurfio #7:1 Neu, glas‐bryfed.ceiliogod rhedyn pan ddechreuodd yr adladd godi; ac wele, adladd wedi lladd gwair y brenin oedd. 2A phan ddarfu iddynt fwyta glaswellt y tir, yna y dywedais, Arbed, Arglwydd, atolwg: #7:2 Neu, trwy bwy y cyfyd Jacob? neu, pwy o (neu, tros) Jacob a gyfyd?pwy a gyfyd Jacob? canys bychan yw. 3#Jona 3:10Edifarhaodd yr Arglwydd am hyn: Ni bydd hyn, eb yr Arglwydd.
4Fel hyn y dangosodd yr Arglwydd Dduw i mi: ac wele yr Arglwydd Dduw yn galw i #7:4 Neu, gynnau.farn trwy dân; a difaodd y tân y dyfnder mawr, ac a ysodd beth. 5Yna y dywedais, Arglwydd Dduw, paid, atolwg: pwy a gyfyd Jacob? canys bychan yw. 6Edifarhaodd yr Arglwydd am hyn: Ni bydd hyn chwaith, eb yr Arglwydd Dduw.
7Fel hyn y dangosodd efe i mi: ac wele yr Arglwydd yn sefyll ar gaer a wnaethpwyd wrth linyn, ac yn ei law linyn. 8A’r Arglwydd a ddywedodd wrthyf, Beth a weli di, Amos? a mi a ddywedais, Llinyn. A’r Arglwydd a ddywedodd, Wele, #Edrych 2 Bren 21:13; Esa 34:11; Galar 2:8gosodaf linyn yng nghanol fy mhobl Israel, #Pen 8:2 ac ni chwanegaf fyned heibio iddynt mwyach. 9Uchelfeydd Isaac hefyd a wneir yn anghyfannedd, a chysegrau Israel a ddifethir; a #Cyflawnwyd 2 Bren 15:10mi a gyfodaf yn erbyn tŷ Jeroboam â’r cleddyf.
10Yna Amaseia #1 Bren 12:32offeiriad Bethel a anfonodd at #2 Bren 14:23Jeroboam brenin Israel, gan ddywedyd, Cydfwriadodd Amos i’th erbyn yng nghanol tŷ Israel: ni ddichon y tir ddwyn ei holl eiriau ef. 11Canys fel hyn y dywed Amos, Jeroboam a fydd farw trwy y cleddyf, ac Israel a gaethgludir yn llwyr allan o’i wlad. 12Dywedodd Amaseia hefyd wrth Amos, Ti weledydd, dos, ffo ymaith i wlad Jwda; a bwyta fara yno, a phroffwyda yno: 13#Pen 2:12Na chwanega broffwydo yn Bethel mwy: canys capel #7:13 Neu, cysegr.y brenin #7:13 Heb. tŷ y frenhiniaeth yw.a llys y brenin yw.
14Yna Amos a atebodd ac a ddywedodd wrth Amaseia, Nid proffwyd oeddwn i, ac nid #1 Bren 20:35mab i broffwyd oeddwn i: namyn #Pen 1:1bugail oeddwn i, a chasglydd #7:14 Neu, ffrwyth y sycamorwydd.ffigys gwylltion: 15A’r Arglwydd a’m cymerodd oddi ar ôl y praidd; a’r Arglwydd a ddywedodd wrthyf, Dos, a phroffwyda i’m pobl Israel.
16Yr awr hon gan hynny gwrando air yr Arglwydd; Ti a ddywedi, Na phroffwyda yn erbyn Israel, #Esec 21:2#7:16 Heb. na ddefnynna air.ac nac yngan yn erbyn tŷ Isaac. 17#Edrych Jer 28:12; 29:21, 25Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd; #Hos 4:13Dy wraig a buteinia yn y ddinas, dy feibion a’th ferched a syrthiant gan y cleddyf, a’th dir a rennir wrth linyn; a thithau a fyddi farw mewn tir halogedig, a chan gaethgludo y caethgludir Israel allan o’i wlad.
Dewis Presennol:
Amos 7: BWM1955C
Uwcholeuo
Copi
Cymharu
Rhanna
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society