Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Amos 6

6
1 Cosbir anlladrwydd Israel 7 a’i gwneud yn anghyfannedd. 12 Mor anodd ganddynt wellhau.
1 # Luc 6:24 Gwae y rhai #6:1 Neu, diofal, neu, difraw.esmwyth arnynt yn Seion, ac sydd yn ymddiried ym mynydd Samaria, y rhai a enwir #Exod 19:5yn #6:1 Neu, flaenffrwyth y cenhedloedd.bennaf o’r cenhedloedd, y rhai y daeth tŷ Israel atynt! 2#Nahum 3:8Tramwywch i #Esa 10:9Calne, ac edrychwch, ac ewch oddi yno i Hamath fwyaf; yna disgynnwch i #2 Cron 26:6Gath y Philistiaid: ai gwell ydynt na’r teyrnasoedd hyn? ai helaethach eu terfyn hwy na’ch terfyn chwi? 3Y rhai ydych #Esec 12:27yn pellhau y dydd #Pen 5:18drwg, ac yn nesáu #Salm 94:20#6:3 Neu, trigle.eisteddle trais; 4Gorwedd y maent ar welyau ifori, ac #6:4 Neu, amlhau mewn gormodedd.ymestyn ar eu glythau, a bwyta yr ŵyn o’r praidd, a’r lloi o ganol y cut; 5#Esa 5:12Y rhai a #6:5 Neu, bynciant.ddatganant gyda llais y nabl; dychmygasant iddynt eu hun offer cerdd, #1 Cron 23:5megis Dafydd; 6Y rhai a yfant #6:6 Neu, mewn ffiolau gwin.win mewn ffiolau, ac a ymirant â’r ennaint pennaf; ond nid ymofidiant am ddryllio Joseff.
7Am hynny yr awr hon hwy a ddygir yn gaeth gyda’r cyntaf a ddygir yn gaeth; a gwledd y rhai a ymestynnant, a symudir. 8#Jer 51:14; Heb 6:13, 17Tyngodd yr Arglwydd Dduw iddo ei hun, Ffiaidd gennyf odidowgrwydd Jacob, a chaseais ei balasau: am hynny y rhoddaf i fyny y ddinas #6:8 Heb. a’i chyflawnder.ac sydd ynddi, medd Arglwydd Dduw y lluoedd. 9A bydd, os gweddillir mewn un tŷ ddeg o ddynion, y byddant feirw. 10Ei ewythr a’i cyfyd i fyny, a’r hwn a’i llysg, i ddwyn yr esgyrn allan o’r tŷ, ac a ddywed wrth yr hwn a fyddo wrth ystlysau y tŷ, A oes eto neb gyda thi? ac efe a ddywed, Nac oes: yna y dywed yntau, #Pen 5:13; 8:3Taw; am na wasanaetha cofio enw yr Arglwydd. 11Oherwydd wele yr Arglwydd yn gorchymyn, ac efe a dery y tŷ mawr #6:11 Neu, â defni.ag agennau, a’r tŷ bychan â holltau.
12A red meirch ar y graig? a ardd neb hi ag ychen? canys #Hos 10:4; Pen 5:7troesoch farn yn fustl, a ffrwyth cyfiawnder yn wermod. 13O chwi y rhai sydd yn llawenychu mewn peth diddim, yn dywedyd, Onid o’n nerth ein hun y cymerasom i ni #6:13 Heb. gyrn.gryfder? 14Ond wele, mi a gyfodaf i’ch erbyn chwi, tŷ Israel, medd Arglwydd Dduw y lluoedd, genedl; a hwy a’ch cystuddiant chwi, o’r ffordd yr ewch i Hamath, hyd #6:14 Neu, ddyffryn.afon y diffeithwch.

Dewis Presennol:

Amos 6: BWM1955C

Uwcholeuo

Copi

Cymharu

Rhanna

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda