Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Amos 5

5
1 Cwynfan dros Israel. 4 Annog i edifeirwch. 21 Duw yn gwrthod eu gwasanaeth rhagrithiol hwy.
1Gwrandewch y gair hwn a godaf i’ch erbyn, sef galarnad, O dŷ Israel. 2Y wyry Israel a syrthiodd; ni chyfyd mwy: gadawyd hi ar ei thir; nid oes a’i cyfyd. 3Canys y modd hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Y ddinas a aeth allan â mil, a weddill gant; a’r hon a aeth allan ar ei chanfed, a weddill ddeg i dŷ Israel.
4Oherwydd fel hyn y dywed yr Arglwydd wrth dŷ Israel; Ceisiwch fi, a byw fyddwch. 5Ond nac ymgeisiwch â #Pen 4:4Bethel, ac nac ewch i Gilgal, ac na thramwywch i #Pen 8:14Beerseba: oherwydd gan gaethgludo y caethgludir Gilgal, a #Hos 4:15; 10:15Bethel a fydd yn ddiddim. 6Ceisiwch yr Arglwydd, a byw fyddwch; rhag iddo dorri allan yn nhŷ Joseff fel tân, a’i ddifa, ac na byddo a’i diffoddo yn Bethel. 7Y rhai #Pen 6:12a drowch farn yn wermod, ac a adewch gyfiawnder ar y llawr, 8Ceisiwch yr hwn a wnaeth #Job 9:9; 38:31y saith seren, ac Orion, ac a dry gysgod angau yn foreddydd, ac #Pen 4:13a dywylla y dydd yn nos; yr hwn #Pen 9:6a eilw ddyfroedd y môr, ac a’u tywallt ar wyneb y ddaear: Yr Arglwydd yw ei enw: 9Yr hwn sydd yn nerthu yr #5:9 Heb. anrhaith.anrheithiedig yn erbyn y cryf, fel y delo yr anrheithiedig yn erbyn yr amddiffynfa. 10#Esa 29:21Cas ganddynt a geryddo yn y porth, a ffiaidd ganddynt a lefaro yn berffaith. 11Oherwydd hynny am i chwi sathru y tlawd, a dwyn y beichiau gwenith oddi arno; #Deut 28:38, 39; Seff 1:13; Hag 1:6chwi a adeiladasoch dai o gerrig nadd, ond ni thrigwch ynddynt; planasoch winllannoedd #5:11 Heb. dymuniant.hyfryd, ac nid yfwch eu gwin hwynt. 12Canys mi a adwaen eich anwireddau lawer, a’ch pechodau cryfion: y maent yn blino y cyfiawn, yn cymryd #5:12 Neu, gwobr.iawn, ac yn troi heibio y tlawd yn y porth. 13Am hynny #Pen 6:10y neb a fyddo gall a ostega yr amser hwnnw: canys amser drwg yw. 14Ceisiwch ddaioni, ac nid drygioni; fel y byddoch fyw: ac felly yr Arglwydd, Duw y lluoedd, fydd gyda chwi, fel y dywedasoch. 15#Salm 34:14; 97:10; Rhuf 12:9Casewch ddrygioni, a hoffwch ddaioni, a gosodwch farn yn y porth: #Exod 32:30; Joel 2:14fe allai y bydd Arglwydd Dduw y lluoedd yn raslon i weddill Joseff. 16Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd, Duw y lluoedd, yr Arglwydd; Ym mhob heol y bydd cwynfan, ac ym mhob priffordd y dywedant, O! O! a galwant yr arddwr i alaru; #Jer 9:17a’r neb a fedro alaru, i gwynfan. 17Ac ym mhob gwinllan y bydd cwynfan: canys #Exod 12:12tramwyaf trwy dy ganol di, medd yr Arglwydd. 18#Esa 5:19; Jer 17:15; 30:7; Joel 2:2; Seff 1:15; 2 Pedr 3:4Gwae y neb sydd yn dymuno dydd yr Arglwydd! beth yw hwnnw i chwi? tywyllwch, ac nid goleuni yw dydd yr Arglwydd. 19#Jer 48:44Megis pe ffoai gŵr rhag llew, ac arth yn cyfarfod ag ef; a myned i’r tŷ, a phwyso ei law ar y pared, a’i frathu o sarff. 20Oni bydd dydd yr Arglwydd yn dywyllwch, ac nid yn oleuni? yn dywyll iawn, ac heb lewyrch ynddo?
21 # Esa 1:11; Jer 6:20 Caseais a ffieiddiais eich gwyliau, ac #Lef 26:31nid aroglaf #5:21 Neu, eich uchelwyliau.yn eich cymanfaoedd. 22Canys er i chwi offrymu i mi boethoffrymau, a’ch offrymau bwyd, ni fyddaf fodlon iddynt; ac nid edrychaf ar #5:22 Neu, offrwm diolch.hedd‐offrwm eich pasgedigion. 23Symud oddi wrthyf drwst dy ganiadau: canys ni wrandawaf beroriaeth dy nablau. 24Ond #5:24 Heb. ymdreigled.rheded barn fel dyfroedd, a chyfiawnder fel ffrwd gref. 25#Act 7:42; Edrych Esa 43:23A offrymasoch chwi i mi aberthau a bwyd‐offrymau yn y diffeithwch ddeugain mlynedd, tŷ Israel? 26Ond dygasoch #5:26 Siccuth eich brenin.babell eich Moloch a Chïwn, eich delwau, seren eich duw, a wnaethoch i chwi eich hunain. 27Am hynny y caethgludaf chwi i’r tu hwnt i Damascus, medd yr Arglwydd; Duw y lluoedd yw ei enw.

Dewis Presennol:

Amos 5: BWM1955C

Uwcholeuo

Copi

Cymharu

Rhanna

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda