Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Amos 4

4
1 Y mae yn ceryddu Israel am eu trais, 4 a’u delw‐addoliaeth, 6 ac am nad oeddynt yn gwellhau wrth eu ceryddu.
1Gwrandewch y gair hwn, #Salm 22:12; Esec 39:18gwartheg Basan, y rhai ydych ym mynydd Samaria, y rhai ydych yn gorthrymu y tlawd, yn ysigo yr anghenog, yn dywedyd wrth eu meistriaid, Dygwch, ac yfwn. 2Tyngodd yr Arglwydd Dduw i’w sancteiddrwydd, y daw, wele, y dyddiau arnoch, y dwg efe chwi ymaith #Jer 16:16; Hab 1:15â drain, a’ch hiliogaeth â bachau pysgota. 3A #Esec 12:5, 12chwi a ewch allan i’r adwyau, bob un ar ei chyfer; a chwi #4:3 Neu, a deflwch ymaith bethau y palas.a’u teflwch hwynt i’r palas, medd yr Arglwydd.
4Deuwch i Bethel, a throseddwch; #Hos 4:15; 12:11; Pen 5:5i Gilgal, a throseddwch fwyfwy: dygwch bob bore eich aberthau, a’ch degymau wedi tair blynedd o ddyddiau; 5#Lef 7:13#4:5 Heb. A llosgaberthwch.Ac offrymwch o surdoes aberth diolch, cyhoeddwch a hysbyswch aberthau gwirfodd: canys #4:5 Heb. felly yr hoffwch.hyn a hoffwch, meibion Israel, medd yr Arglwydd Dduw.
6A rhoddais i chwi lendid dannedd yn eich holl ddinasoedd, ac eisiau bara yn eich holl leoedd: eto ni ddychwelasoch ataf fi, medd yr Arglwydd. 7Myfi hefyd a ateliais y glaw rhagoch, pan oedd eto dri mis hyd y cynhaeaf: glawiais hefyd ar un ddinas, ac ni lawiais ar ddinas arall: un rhan a gafodd law; a’r rhan ni chafodd law a wywodd. 8Gwibiodd dwy ddinas neu dair i un ddinas, i yfed dwfr; ond nis diwallwyd: eto ni ddychwelasoch ataf fi, medd yr Arglwydd. 9#Deut 28:22; Hag 2:17Trewais chwi â diflaniad, ac â mallter: #4:9 Neu, amlder eich gerddi, &c a ysodd y lindys.pan amlhaodd eich gerddi, a’ch gwinllannoedd, a’ch ffigyswydd, a’ch olewydd, #Joel 1:4; 2:25y lindys a’u hysodd: eto ni throesoch ataf fi, medd yr Arglwydd. 10Anfonais yr haint yn eich mysg, megis #4:10 Neu, ar ddull.yn ffordd yr Aifft: eich gwŷr ieuainc a leddais â’r cleddyf, gyda #4:10 Heb. chaethglud.chaethgludo eich meirch; a chodais ddrewi eich gwersylloedd i’ch ffroenau: eto ni throesoch ataf fi, medd yr Arglwydd. 11Mi a ddymchwelais rai ohonoch, fel yr ymchwelodd Duw #Gen 19:24, 25; Esa 13:19; Jer 49:18Sodom a Gomorra; #Sech 3:2ac yr oeddech fel pentewyn wedi ei achub o’r gynnau dân: eto ni throesoch ataf fi, medd yr Arglwydd. 12Oherwydd hynny yn y modd yma y gwnaf i ti, Israel: ac oherwydd mai hyn a wnaf i ti, #Edrych Esec 13:5; 22:30; Luc 14:31, 32bydd barod, Israel, i gyfarfod â’th Dduw. 13Canys wele, Lluniwr y mynyddoedd, a Chreawdwr #4:13 Neu, yr ysbryd.y gwynt, yr hwn a fynega i ddyn beth yw ei feddwl, ac #Pen 5:8a wna y bore yn dywyllwch, ac #Deut 32:13; 33:29; Micha 1:3a gerdd ar uchelderau y ddaear, yr Arglwydd, Duw y lluoedd, yw ei enw.

Dewis Presennol:

Amos 4: BWM1955C

Uwcholeuo

Copi

Cymharu

Rhanna

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda