Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Amos 3

3
1 Rheidrwydd barnedigaethau Duw yn erbyn Israel: 9 cyhoeddi hynny, a’i achos hefyd.
1Gwrandewch y gair a lefarodd yr Arglwydd i’ch erbyn chwi, plant Israel, yn erbyn yr holl deulu a ddygais i fyny o wlad yr Aifft, gan ddywedyd, 2#Deut 7:6; 10:15Chwi yn unig a adnabûm o holl deuluoedd y ddaear: #Edrych Mat 11:22; Luc 12:47; Rhuf 2:9; 1 Pedr 4:17am hynny ymwelaf â chwi am eich holl anwireddau. 3A rodia dau ynghyd, heb fod yn gytûn? 4A rua y llew yn y goedwig, heb ganddo ysglyfaeth? #3:4 Heb. a rydd y cenau llew ei lais?a leisia cenau llew o’i ffau, heb ddal dim? 5A syrth yr aderyn yn y fagl ar y ddaear, heb fod croglath iddo? a gyfyd un y fagl oddi ar y ddaear, heb ddal dim? 6A genir utgorn yn y ddinas, heb #3:6 Neu, redeg o’r bobl ynghyd?ddychrynu o’r bobl? #Esa 45:7a fydd niwed yn y ddinas, #3:6 Neu, ac oni wna yr Arglwydd ryw beth?heb i’r Arglwydd ei wneuthur? 7Canys ni wna yr Arglwydd ddim, #Gen 6:13; 18:17; Salm 25:14; Ioan 15:15a’r nas dangoso ei gyfrinach i’w weision y proffwydi. 8Rhuodd y llew, pwy nid ofna? yr Arglwydd IÔR a lefarodd, #Act 4:20; 5:20, 29pwy ni phroffwyda?
9Cyhoeddwch o fewn y palasau yn Asdod, ac yn y palasau yng ngwlad yr Aifft, a dywedwch, Deuwch ynghyd ar fynyddoedd Samaria, a gwelwch derfysgoedd lawer o’i mewn, a’r gorthrymedigion yn ei chanol hi. 10Canys ni fedrant wneuthur uniondeb, medd yr Arglwydd: pentyrru y maent drais ac #3:10 Neu, anrhaith.ysbail yn eu palasau. 11Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Gelyn fydd o amgylch y tir; ac efe a dynn i lawr dy nerth oddi wrthyt, a’th balasoedd a ysbeilir. 12Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Fel yr achub y bugail o safn y llew y ddwy goes, neu ddarn o glust; felly yr achubir meibion Israel y rhai sydd yn trigo yn Samaria mewn cwr gwely, #3:12 Neu, ac yn nhraed y gwely.ac yn Damascus mewn gorweddle. 13Gwrandewch, a thystiolaethwch yn nhŷ Jacob, medd yr Arglwydd Dduw, Duw y lluoedd, 14Mai y dydd #3:14 Neu, y cosbaf Israel am anwiredd.yr ymwelaf ag anwiredd Israel arno ef, y gofwyaf hefyd allorau Bethel: a chyrn yr allor a dorrir, ac a syrthiant i’r llawr. 15A mi a drawaf #Barn 3:20; Jer 36:22y gaeafdy a’r hafdy; a derfydd am #1 Bren 22:39y tai ifori, a bydd diben ar y teiau mawrion, medd yr Arglwydd.

Dewis Presennol:

Amos 3: BWM1955C

Uwcholeuo

Copi

Cymharu

Rhanna

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda