Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Amos 2

2
1 Digofaint Duw yn erbyn Moab, 4 ac ar Jwda, 6 ac ar Israel. 9 Duw yn achwyn rhag eu hanniolchgarwch hwy.
1Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Am dair o anwireddau #Esa 15; Jer 48; Esec 25:8; Seff 2:8Moab, ac am bedair, ni throaf ymaith ei chosb hi; am iddo #2 Bren 3:27losgi esgyrn brenin Edom yn galch. 2Eithr anfonaf dân i Moab, yr hwn a ddifa balasau Cerioth: a Moab fydd marw mewn terfysg, gweiddi, a llais utgorn. 3A mi a dorraf ymaith #Num 24:17y barnwr o’i chanol hi, a’i holl bendefigion a laddaf gydag ef, medd yr Arglwydd.
4Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Am dair o anwireddau Jwda, ac am bedair, ni throaf ymaith ei chosb hi; am iddynt ddirmygu cyfraith yr Arglwydd, ac na chadwasant ei ddeddfau ef; a’u celwyddau a’u cyfeiliornodd hwynt, y rhai yr aeth eu tadau ar eu hôl. 5Eithr anfonaf dân i Jwda, ac efe a ddifa balasoedd Jerwsalem.
6Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Am dair o anwireddau Israel, ac am bedair, ni throaf ymaith ei chosb hi; am iddynt #Pen 8:6werthu y cyfiawn am arian, a’r tlawd er pâr o esgidiau: 7Y rhai a ddyheant ar ôl llwch y ddaear ar ben y tlodion, ac a wyrant ffordd y gostyngedig: a gŵr a’i dad a â at yr un llances, i halogi fy enw sanctaidd. 8Ac ar ddillad #Exod 22:26wedi eu rhoi yng ngwystl y gorweddant wrth bob allor; a gwin #2:8 Neu, y rhai a gondemniwyd.y dirwyol a yfant yn nhŷ eu duw.
9Eto #Num 21:24; Deut 2:31; Jos 24:8myfi a ddinistriais yr Amoriad o’u blaen hwynt, #Num 13:28, 32, 33yr hwn yr oedd ei uchder fel uchder y cedrwydd, ac efe oedd gryf fel derw; eto #Esa 5:24; Mal 4:1mi a ddinistriais ei ffrwythau oddi arnodd, a’i wraidd oddi tanodd. 10#Exod 12:51Myfi hefyd a’ch dygais chwi i fyny o wlad yr Aifft, ac a’ch arweiniais chwi ddeugain mlynedd trwy yr anialwch, i feddiannu gwlad yr Amoriad. 11A mi a gyfodais o’ch meibion chwi rai yn broffwydi, ac o’ch gwŷr ieuainc rai #Num 6:2yn Nasareaid. Oni bu hyn, O meibion Israel? medd yr Arglwydd 12Ond chwi a roesoch i’r Nasareaid win i’w yfed; ac #Esa 30:10; Jer 11:21; Pen 7:12, 13; Micha 2:6a orchmynasoch i’ch proffwydi, gan ddywedyd, Na phroffwydwch. 13Wele #2:13 Neu, gwasgaf eich lle chwi fel y gwasg men lawn o ysgubau.fi wedi fy llethu tanoch fel y llethir y fen lawn o ysgubau. 14A #Pen 9:1, &cmetha gan y buan ddianc, a’r cryf ni chadarnha ei rym, a’r cadarn ni wared ei #2:14 Neu, einioes.enaid ei hun: 15Ni saif a ddalio y bwa, ni ddianc y buan o draed, nid achub marchog march ei einioes ei hun. 16A’r cryfaf ei galon o’r cedyrn a ffy y dwthwn hwnnw yn noeth lymun medd yr Arglwydd.

Dewis Presennol:

Amos 2: BWM1955C

Uwcholeuo

Copi

Cymharu

Rhanna

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda