Logo YouVersion
Eicon Chwilio

2 Timotheus 4

4
A.D. 66. —
1 Y mae yn ei annog i fod yn ofalus ac yn ddiwyd i gwblhau ei swydd: 6 yn ei rybuddio nesed oedd ei farwolaeth ef: 9 yn ewyllysio iddo ddyfod ato ef ar fyrder: 14 yn ei rybuddio i ochelyd Alexander y gof: 16 yn dangos iddo beth a ddigwyddasai iddo wrth ei ateb cyntaf: 19 ac ar ôl hynny y mae yn dibennu.
1 # 1 Tim 6:13; Pen 2:14 Yr ydwyf fi gan hynny yn #4:1 dir‐dystiolaethu.gorchymyn gerbron Duw, a’r Arglwydd Iesu Grist, #Act 10:42yr hwn a farna’r byw a’r meirw yn ei ymddangosiad a’i deyrnas; 2Pregetha’r gair; bydd daer mewn amser, allan o amser; argyhoedda, cerydda, annog gyda phob hirymaros ac athrawiaeth. 3Canys daw’r amser pryd na ddioddefont athrawiaeth iachus; eithr yn ôl eu chwantau eu hunain y pentyrrant iddynt eu hunain athrawon, gan fod eu clustiau yn merwino; 4Ac oddi wrth y gwirionedd y troant ymaith eu clustiau, ac #1 Tim 1:4; 4:7at chwedlau y troant. 5Eithr gwylia di ym mhob peth, #Pen 1:8; 2:3dioddef adfyd, gwna waith #Act 21:8; Eff 4:11efengylwr, #4:5 llawn‐brifia.cyflawna dy weinidogaeth. 6Canys #Phil 2:17myfi yr awron a aberthir, ac amser #Phil 1:23; 2 Pedr 1:14fy ymddatodiad i a nesaodd. 7#1 Cor 9:24, 25; Phil 3:14; 1 Tim 6:12Mi a ymdrechais ymdrech deg, mi a orffennais fy ngyrfa, mi a gedwais y ffydd. 8O hyn allan rhoddwyd #Iago 1:12; 1 Pedr 5:4coron cyfiawnder i’w chadw i mi, yr hon a rydd yr Arglwydd, y Barnwr cyfiawn, i mi yn y dydd hwnnw: ac nid yn unig i mi, ond hefyd i bawb a garant ei ymddangosiad ef. 9#4:9 Cais ddyfod.Bydd ddyfal i ddyfod ataf yn ebrwydd: 10Canys #Col 4:15; Philem 24Demas a’m gadawodd, gan garu’r byd presennol, ac a aeth ymaith i Thesalonica; Crescens i Galatia, Titus i Dalmatia. 11#Col 4:14Luc #Pen 1:15yn unig sydd gyda mi. Cymer #Act 15:37Marc, a dwg gyda thi: canys buddiol yw efe i mi i’r weinidogaeth. 12#Act 20:4Tychicus hefyd a ddanfonais i Effesus. 13Y cochl a adewais i yn Nhroas gyda Carpus, pan ddelych, dwg gyda thi, a’r llyfrau, yn enwedig y memrwn. 14#1 Tim 1:20Alexander y gof copr a wnaeth i mi ddrygau lawer: #Salm 28:4; Dat 18:6taled yr Arglwydd iddo yn ôl ei weithredoedd: 15Yr hwn hefyd gochel dithau; canys efe a safodd yn ddirfawr yn erbyn ein #4:15 Neu, pregethiadau.hymadroddion ni. 16Yn fy ateb cyntaf ni safodd neb gyda mi, eithr pawb a’m gadawsant: mi a archaf ar Dduw nas cyfrifer iddynt. 17Eithr yr Arglwydd a safodd gyda mi, ac a’m nerthodd; fel trwof fi y byddai’r pregethiad yn #4:17 gyflawn.llawn hysbys, ac y clywai’r holl Genhedloedd: ac mi #Salm 22:21a waredwyd o enau y llew. 18A’r Arglwydd a’m gwared i rhag pob gweithred ddrwg, ac a’m ceidw i’w deyrnas nefol: i’r hwn y byddo gogoniant yn oes oesoedd. Amen. 19Annerch #Act 18:2Prisca ac Acwila, a #2 Tim 1:16#4:19 thŷ.theulu Onesifforus. 20#Act 19:22Erastus a arhosodd yng Nghorinth: ond #Act 20:4; 21:29Troffimus a adewais ym Miletus yn glaf. 21#4:21 Cais ddyfod.Bydd ddyfal i ddyfod cyn y gaeaf. Y mae Eubulus yn dy annerch, a Phudens, a Linus, a Chlaudia, a’r brodyr oll. 22Yr Arglwydd Iesu Grist fyddo gyda’th ysbryd di. Gras fyddo gyda chwi. Amen.
Yr ail epistol at Timotheus, yr esgob cyntaf a ddewiswyd ar eglwys yr Effesiaid, a ysgrifennwyd o Rufain, pan ddygwyd Paul yr ail waith gerbron #4:22 yr ymerawdr Nero.Cesar Nero.

Dewis Presennol:

2 Timotheus 4: BWM1955C

Uwcholeuo

Copi

Cymharu

Rhanna

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda