2 Timotheus 3
3
A.D. 66. —
1 Y mae yn ei rybuddio ef am amseroedd blinion: 6 yn dangos pa fath ydyw gelynion y gwirionedd: 10 yn ei osod ei hun yn siampl iddo; 16 ac yn canmol yr ysgrythur lân.
1Gwybydd hyn hefyd, y daw amseroedd enbyd #1 Tim 4:1; 2 Pedr 3:3; Jwdas 18yn y dyddiau diwethaf. 2Canys bydd dynion â’u serch arnynt eu hunain, yn ariangar, yn ymffrostwyr, yn feilchion, yn gablwyr, yn anufuddion i rieni, yn anniolchgar, yn annuwiol, 3Yn angharedig, #Rhuf 1:31yn torri cyfamod, yn #3:3 ddiafliaid.enllibaidd, yn anghymesur, yn anfwyn, yn ddiserch i’r rhai da, 4Yn fradwyr, yn waedwyllt, yn chwyddedig, yn caru melyschwant yn fwy nag yn caru Duw; 5A chanddynt rith duwioldeb, eithr #1 Tim 5:8; Titus 1:16wedi gwadu ei grym hi: #2 Thess 3:6a’r rhai hyn gochel di. 6Canys #Mat 23:14; Titus 1:11; 2 Ioan 10o’r rhai hyn y mae’r rhai sydd yn ymlusgo i deiau, ac yn dwyn yn gaeth wrageddos llwythog o bechodau, wedi eu harwain gan amryw chwantau, 7Yn dysgu bob amser, ac heb allu dyfod un amser i wybodaeth y gwirionedd. 8#Exod 7:11Eithr megis y safodd Jannes a Jambres yn erbyn Moses, felly y mae’r rhai hyn hefyd yn sefyll yn erbyn y gwirionedd, #1 Tim 6:5dynion o feddwl llygredig, #Titus 1:16yn #3:8 anghyfarwydd.anghymeradwy o ran y ffydd. 9Eithr nid ânt rhagddynt ymhellach: canys eu hynfydrwydd fydd amlwg i bawb, megis y bu yr eiddynt hwythau. 10Eithr #1 Tim 4:6ti a #3:10 ddiwyd‐ddilynaist.lwyr adwaenost fy nysgeidiaeth, fy muchedd, fy arfaeth, ffydd, hirymaros, cariad, amynedd, 11Yr erlidiau, y dioddefiadau, y rhai a ddigwyddasant i mi #Act 13:45yn Antiochia, #Act 14:2, 5, 19yn Iconium, yn Lystra; pa erlidiau a ddioddefais: eithr #2 Cor 1:10oddi wrthynt oll y’m gwaredodd yr Arglwydd. 12Ie, a #Salm 34:19; Act 14:22; 1 Thess 3:3phawb a’r sydd yn ewyllysio byw yn dduwiol yng Nghrist Iesu, a erlidir. 13Eithr drwg ddynion a thwyllwyr a ânt rhagddynt waethwaeth, gan dwyllo, a chael eu twyllo. 14Eithr aros di yn y pethau a ddysgaist, ac a ymddiriedwyd i ti amdanynt, gan wybod #Pen 2:2gan bwy y dysgaist; 15Ac i ti er yn fachgen wybod yr ysgrythur lân, yr hon sydd abl i’th wneuthur di yn ddoeth i iachawdwriaeth trwy’r ffydd sydd yng Nghrist Iesu. 16#2 Pedr 1:20, 21Yr holl ysgrythur sydd wedi ei rhoddi gan ysbrydoliaeth Duw, ac sydd fuddiol i athrawiaethu, i argyhoeddi, i geryddu, i hyfforddi mewn cyfiawnder: 17Fel y byddo dyn Duw yn berffaith, wedi ei #3:17 gyflawn ddarparu.berffeithio i bob gweithred dda.
Dewis Presennol:
2 Timotheus 3: BWM1955C
Uwcholeuo
Copi
Cymharu
Rhanna
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society