2 Corinthiaid 4
4
A.D. 60. —
1 Y mae yn dangos arferu ohono ef bob math ar burdeb a diwydrwydd ffyddlon wrth bregethu yr efengyl; 7 a bod y blinderau a’r erlid yr oedd efe beunydd yn eu dioddef o achos yr efengyl, er moliant i allu Duw, 12 a llesâd i’r eglwys, 16 a gogoniant tragwyddol yntau.
1Am hynny gan fod i ni y weinidogaeth hon, #1 Cor 7:25megis y cawsom drugaredd, nid ydym yn pallu; 2Eithr ni a ymwrthodasom â chuddiedig bethau #Rhuf 1:16#4:2 anonestcywilydd, heb rodio mewn cyfrwystra, #Pen 2:17; 1 Thess 2:3, 5na thrin gair Duw yn dwyllodrus, eithr #Pen 5:11trwy eglurhad y gwirionedd #Pen 6:4yr ydym yn ein canmol ein hun wrth bob cydwybod dynion yng ngolwg Duw. 3Ac os cuddiedig yw ein hefengyl ni, #1 Cor 1:18; Pen 2:15; 2 Thess 2:10yn y rhai colledig y mae yn guddiedig: 4Yn y rhai y #Esa 6:10dallodd #Ioan 12:31; 14:30duw’r byd hwn feddyliau y rhai di‐gred, fel na thywynnai iddynt lewyrch efengyl #Pen 3:18gogoniant Crist, #Ioan 1:18; 12:45; 14:9; Phil 2:6; Col 1:15; Heb 1:3yr hwn yw delw Duw. 5Canys nid ydym yn ein pregethu ein hunain, ond Crist Iesu yr Arglwydd; a #Pen 1:24ninnau yn weision i chwi er mwyn Iesu. 6Canys Duw, #Gen 1:3yr hwn a orchmynnodd i’r goleuni lewyrchu o dywyllwch, yw yr hwn a #2 Pedr 1:19lewyrchodd yn ein calonnau, i roddi goleuni gwybodaeth gogoniant Duw, yn wyneb Iesu Grist. 7Eithr y mae gennym y trysor hwn mewn #Pen 5:1llestri pridd, #1 Cor 2:5fel y byddai godidowgrwydd y gallu o Dduw, ac nid ohonom ni. 8Ym mhob peth yr ŷm yn gystuddiol, ond nid mewn ing; yr ydym mewn cyfyng gyngor, ond nid yn ddiobaith; 9Yn cael ein herlid, ond heb ein llwyr adael; #Salm 37:24yn cael ein bwrw i lawr, eithr heb ein difetha; 10Gan gylcharwain yn y corff bob amser #Pen 1:5farweiddiad yr Arglwydd Iesu, #Rhuf 8:17; 2 Tim 2:11, 12; 1 Pedr 4:13fel yr eglurer hefyd fywyd Iesu yn ein corff ni. 11Canys #Salm 44:22; 1 Cor 15:31, 49yr ydys yn ein rhoddi ni, y rhai ydym yn fyw, yn wastad i farwolaeth er mwyn Iesu, fel yr eglurer hefyd fywyd Iesu yn ein marwol gnawd ni. 12Felly #Pen 13:9y mae angau yn gweithio ynom ni, ac einioes ynoch chwithau. 13A chan fod gennym #Rhuf 1:12; 2 Pedr 1:1yr un ysbryd ffydd, yn ôl yr hyn a ysgrifennwyd, #Salm 116:10Credais, am hynny y lleferais; yr ydym ninnau hefyd yn credu, ac am hynny yn llefaru; 14Gan wybod y bydd #Rhuf 8:11; 1 Cor 6:14i’r hwn a gyfododd yr Arglwydd Iesu, ein cyfodi ninnau hefyd trwy Iesu, a’n gosod gerbron gyda chwi. 15Canys #Pen 1:6; Col 1:24; 2 Tim 2:10pob peth sydd er eich mwyn chwi, fel #Pen 1:11y byddo i ras wedi amlhau, trwy ddiolchgarwch llaweroedd, ymhelaethu i ogoniant Duw. 16Oherwydd paham nid ydym yn pallu; eithr er llygru ein dyn oddi allan, er hynny #Rhuf 7:22; Eff 3:16; Col 3:10; 1 Pedr 3:4y dyn oddi mewn a adnewyddir o ddydd i ddydd. 17Canys #Rhuf 8:18; 1 Pedr 1:6; 5:10ein byr ysgafn gystudd ni sydd yn odidog ragorol yn gweithredu tragwyddol bwys gogoniant i ni; 18Tra na byddom yn edrych ar y pethau a welir, ond ar y pethau ni welir: canys y pethau a welir sydd dros amser, ond y pethau ni welir sydd dragwyddol.
Dewis Presennol:
2 Corinthiaid 4: BWM1955C
Uwcholeuo
Copi
Cymharu
Rhanna
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society