2 Corinthiaid 3
3
A.D. 60. —
1 Rhag i’w gau‐athrawon hwy roi gwag‐orfoledd yn ei erbyn ef, y mae yn dangos fod ffydd a doniau y Corinthiaid yn canmol ei weinidogaeth ef yn ddigon helaeth: 6 ac ar hyn, trwy gyffelybrwydd rhwng gweinidogion y ddeddf a’r efengyl, 12 y mae yn profi fod ei weinidogaeth ef yn rhagori, o gymaint ag y mae efengyl y bywyd a rhyddid yn fwy gogoneddus na chyfraith damnedigaeth.
1 #
Pen 5:12
; 10:8, 12Ai dechrau yr ydym drachefn ein canmol ein hunain? ai rhaid i ni, megis i rai, wrth lythyrau canmoliaeth atoch chwi, neu rai canmoliaeth oddi wrthych chwi? 2#1 Cor 9:2; Pen 12:12Ein llythyr ni ydych chwi yn ysgrifenedig yn ein calonnau, yr hwn a ddeellir ac a ddarllenir gan bob dyn: 3Gan fod yn eglur mai llythyr Crist ydych, wedi ei weini gennym ni, wedi ei ysgrifennu nid ag inc, ond ag Ysbryd y Duw byw; nid #Exod 24:12; 34:1mewn llechau cerrig, eithr #Salm 40:8; Jer 31:33; Esec 11:19; 36:26; Heb 8:10mewn llechau cnawdol y galon. 4A chyfryw hyder sydd gennym trwy Grist ar Dduw: 5#Pen 2:16Nid oherwydd ein bod yn ddigonol ohonom ein hunain i feddwl dim megis ohonom ein hunain; eithr #Phil 2:13ein digonedd ni sydd o Dduw; 6Yr hwn hefyd a’n gwnaeth ni #Pen 5:18yn weinidogion cymwys #Jer 31:31; Mat 26:28y testament newydd; nid #Rhuf 2:27, 29; 7:6i’r llythyren, ond i’r ysbryd: canys #Rhuf 3:20; 4:15; 7:9, 10, 11y mae’r llythyren yn lladd, ond yr ysbryd sydd yn bywhau. 7Ac os bu gweinidogaeth angau, mewn llythrennau #Deut 10:1, &cwedi eu hargraffu ar gerrig, mewn gogoniant, #Exod 34:29, 30fel na allai plant yr Israel edrych yn graff ar wyneb Moses, gan ogoniant ei wynepryd, yr hwn ogoniant a ddilewyd; 8Pa fodd yn hytrach na bydd gweinidogaeth yr Ysbryd mewn gogoniant? 9Canys os bu gweinidogaeth damnedigaeth yn ogoniant, mwy o lawer y mae gweinidogaeth #Rhuf 1:17; 3:21cyfiawnder yn rhagori mewn gogoniant. 10Canys hefyd ni ogoneddwyd yr hyn a ogoneddwyd yn y rhan hon, oherwydd y gogoniant tra rhagorol. 11Oblegid os bu yr hyn a ddileid yn ogoneddus, mwy o lawer y bydd yr hyn sydd yn aros yn ogoneddus. 12Am hynny gan fod gennym gyfryw obaith, #Eff 6:19yr ydym yn arfer hyfder mawr: 13Ac nid megis #Exod 34:33, 35y gosododd Moses orchudd ar ei wyneb, fel nad edrychai plant Israel yn graff ar #Rhuf 10:4; Gal 3:23ddiwedd yr hyn a ddileid. 14Eithr #3:14 caledwyd.#Esa 6:10; Rhuf 11:8dallwyd eu meddyliau hwynt: canys hyd y dydd heddiw y mae’r un gorchudd, wrth ddarllen yn yr hen destament, yn aros heb ei ddatguddio; yr hwn yng Nghrist a ddileir. 15Eithr hyd y dydd heddiw, pan ddarllenir Moses, y mae’r gorchudd ar eu calon hwynt. 16Ond #Rhuf 11:23, 26pan ymchwelo at yr Arglwydd, #Esa 25:7tynnir ymaith y gorchudd. 17Eithr yr Arglwydd yw’r Ysbryd: a lle mae Ysbryd yr Arglwydd, yno y mae rhyddid. 18Eithr nyni oll ag wyneb agored, yn edrych #Pen 4:4, 6; 1 Tim 1:11ar ogoniant yr Arglwydd #1 Cor 13:12megis mewn drych, #Rhuf 8:28; 1 Cor 15:49; Col 3:10a newidir i’r unrhyw ddelw, o ogoniant i ogoniant, megis #3:18 gan yr Arglwydd yr Ysbrydgan Ysbryd yr Arglwydd.
Dewis Presennol:
2 Corinthiaid 3: BWM1955C
Uwcholeuo
Copi
Cymharu
Rhanna
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society