Salm 38:11-22
Salm 38:11-22 BNET
Mae fy ffrindiau a’m teulu yn cadw draw oddi wrtho i; a’m cymdogion yn sefyll yn bell i ffwrdd. Mae’r rhai sydd am fy lladd i yn gosod trap i mi, a’r rhai sydd am wneud niwed i mi yn siarad yn faleisus ac yn dweud pethau twyllodrus drwy’r adeg. Ond dw i’n ymateb fel tawn i’n fyddar – yn gwrthod gwrando. Dw i’n ymddwyn fel rhywun sy’n fud – yn dweud dim. Dw i’n clywed dim, a dw i ddim am ddadlau gyda nhw. Ond ARGLWYDD, dw i’n disgwyl amdanat ti; byddi di’n eu hateb nhw, fy meistr a’m Duw. Dw i’n gweddïo, “Paid rhoi’r pleser iddyn nhw o gael eu ffordd!” Roedden nhw mor falch, ac yn gwawdio pan wnes i lithro. Mae hi ar ben arna i! Dw i mewn poen ofnadwy drwy’r adeg. Dw i’n cyfaddef mod i wedi gwneud drwg. Dw i’n poeni am fy mhechod. Ond mae gen i gymaint o elynion heb achos, cymaint o rai sy’n fy nghasáu i am ddim rheswm: pobl sy’n talu drwg am dda, ac yn tynnu’n groes am i mi geisio gwneud beth sy’n iawn. Paid gadael fi, ARGLWYDD! O Dduw, paid ti cadw draw! Brysia! Helpa fi, O ARGLWYDD, fy achubwr!

