Salm 38:11-22
Salm 38:11-22 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Mae fy ffrindiau a’m teulu yn cadw draw oddi wrtho i; a’m cymdogion yn sefyll yn bell i ffwrdd. Mae’r rhai sydd am fy lladd i yn gosod trap i mi, a’r rhai sydd am wneud niwed i mi yn siarad yn faleisus ac yn dweud pethau twyllodrus drwy’r adeg. Ond dw i’n ymateb fel tawn i’n fyddar – yn gwrthod gwrando. Dw i’n ymddwyn fel rhywun sy’n fud – yn dweud dim. Dw i’n clywed dim, a dw i ddim am ddadlau gyda nhw. Ond ARGLWYDD, dw i’n disgwyl amdanat ti; byddi di’n eu hateb nhw, fy meistr a’m Duw. Dw i’n gweddïo, “Paid rhoi’r pleser iddyn nhw o gael eu ffordd!” Roedden nhw mor falch, ac yn gwawdio pan wnes i lithro. Mae hi ar ben arna i! Dw i mewn poen ofnadwy drwy’r adeg. Dw i’n cyfaddef mod i wedi gwneud drwg. Dw i’n poeni am fy mhechod. Ond mae gen i gymaint o elynion heb achos, cymaint o rai sy’n fy nghasáu i am ddim rheswm: pobl sy’n talu drwg am dda, ac yn tynnu’n groes am i mi geisio gwneud beth sy’n iawn. Paid gadael fi, ARGLWYDD! O Dduw, paid ti cadw draw! Brysia! Helpa fi, O ARGLWYDD, fy achubwr!
Salm 38:11-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Cilia fy nghyfeillion a'm cymdogion rhag fy mhla, ac y mae fy mherthnasau'n cadw draw. Y mae'r rhai sydd am fy einioes wedi gosod maglau, a'r rhai sydd am fy nrygu yn sôn am ddinistr ac yn myfyrio am ddichellion drwy'r dydd. Ond yr wyf fi fel un byddar, heb fod yn clywed, ac fel mudan, heb fod yn agor ei enau. Bûm fel un heb fod yn clywed, a heb ddadl o'i enau. Ond amdanat ti, O ARGLWYDD, y disgwyliais; ti sydd i ateb, O Arglwydd, fy Nuw. Oherwydd dywedais, “Na fydded llawenydd o'm plegid i'r rhai sy'n ymffrostio pan lithra fy nhroed.” Yn wir, yr wyf ar fedr syrthio, ac y mae fy mhoen gyda mi bob amser. Yr wyf yn cyffesu fy nghamwedd, ac yn pryderu am fy mhechod. Cryf yw'r rhai sy'n elynion imi heb achos, a llawer yw'r rhai sy'n fy nghasáu ar gam, yn talu imi ddrwg am dda ac yn fy ngwrthwynebu am fy mod yn dilyn daioni. Paid â'm gadael, O ARGLWYDD; paid â mynd yn bell oddi wrthyf, O fy Nuw. Brysia i'm cynorthwyo, O Arglwydd, fy iachawdwriaeth.
Salm 38:11-22 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Fy ngharedigion a’m cyfeillion a safent oddi ar gyfer fy mhla; a’m cyfneseifiaid a safent o hirbell. Y rhai hefyd a geisient fy einioes, a osodasent faglau; a’r rhai a geisient fy niwed, a draethent anwireddau, ac a ddychmygent ddichellion ar hyd y dydd. A minnau fel byddar ni chlywn; eithr oeddwn fel mudan heb agoryd ei enau. Felly yr oeddwn fel gŵr ni chlywai, ac heb argyhoeddion yn ei enau. Oherwydd i mi obeithio ynot, ARGLWYDD; ti, ARGLWYDD fy NUW, a wrandewi. Canys dywedais, Gwrando fi, rhag llawenychu ohonynt i’m herbyn: pan lithrai fy nhroed, ymfawrygent i’m herbyn. Canys parod wyf i gloffi, a’m dolur sydd ger fy mron yn wastad. Diau y mynegaf fy anwiredd, ac y pryderaf oherwydd fy mhechod. Ac y mae fy ngelynion yn fyw, ac yn gedyrn: amlhawyd hefyd y rhai a’m casânt ar gam. A’r rhai a dalant ddrwg dros dda, a’m gwrthwynebant; am fy mod yn dilyn daioni. Na ad fi, O ARGLWYDD: fy NUW, nac ymbellha oddi wrthyf. Brysia i’m cymorth, O ARGLWYDD fy iachawdwriaeth.