Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Mathew 26:20-54

Mathew 26:20-54 BNET

Yn gynnar y noson honno eisteddodd Iesu wrth y bwrdd gyda’r deuddeg disgybl. Tra oedden nhw’n bwyta, meddai wrthyn nhw, “Wir i chi, mae un ohonoch chi’n mynd i’m bradychu i.” Roedden nhw’n drist iawn, ac yn dweud wrtho, un ar ôl y llall, “Meistr, dim fi ydy’r un, nage?” Atebodd Iesu, “Bydd un ohonoch chi’n fy mradychu i – un sydd yma, ac wedi trochi ei fwyd yn y ddysgl saws gyda mi. Rhaid i mi, Mab y Dyn, farw yn union fel mae’r ysgrifau sanctaidd yn dweud. Ond gwae’r un sy’n mynd i’m bradychu i! Byddai’n well arno petai erioed wedi cael ei eni!” Wedyn dyma Jwdas, yr un oedd yn mynd i’w fradychu, yn dweud, “Rabbi, dim fi ydy’r un, nage?” “Ti sy’n dweud,” atebodd Iesu. Tra oedden nhw’n bwyta, dyma Iesu’n cymryd torth, ac yna, ar ôl adrodd y weddi o ddiolch, ei thorri a’i rhannu i’w ddisgyblion. “Cymerwch y bara yma, a’i fwyta,” meddai. “Dyma fy nghorff i.” Yna cododd y cwpan, adrodd y weddi o ddiolch eto, a’i basio iddyn nhw, a dweud, “Yfwch o hwn, bob un ohonoch chi. Dyma fy ngwaed, sy’n selio ymrwymiad Duw i’w bobl. Mae’n cael ei dywallt ar ran llawer o bobl, i faddau eu pechodau nhw. Wir i chi, fydda i ddim yn yfed y gwin yma eto nes daw’r dydd y bydda i’n ei yfed o’r newydd gyda chi pan fydd fy Nhad yn teyrnasu.” Wedyn, ar ôl canu emyn, dyma nhw’n mynd allan i Fynydd yr Olewydd. “Dych chi i gyd yn mynd i droi cefn arna i heno” meddai Iesu wrthyn nhw. “Mae’r ysgrifau sanctaidd yn dweud: ‘Bydda i’n taro’r bugail, a bydd y praidd yn mynd ar chwâl.’ Ond ar ôl i mi ddod yn ôl yn fyw, af i o’ch blaen chi i Galilea.” Dyma Pedr yn dweud yn bendant, “Wna i byth droi cefn arnat ti, hyd yn oed os bydd pawb arall yn gwneud hynny!” “Wir i ti,” meddai Iesu wrtho, “heno, cyn i’r ceiliog ganu, byddi di wedi gwadu dair gwaith dy fod di’n fy nabod i.” Ond meddai Pedr, “Na! Wna i byth wadu mod i’n dy nabod di! Hyd yn oed os bydd rhaid i mi farw gyda ti!” Ac roedd y disgyblion eraill i gyd yn dweud yr un peth. Dyma Iesu’n mynd gyda’i ddisgyblion i le o’r enw Gethsemane. “Eisteddwch chi yma,” meddai wrthyn nhw, “dw i’n mynd draw acw i weddïo.” Aeth â Pedr a dau fab Sebedeus gydag e, a dechreuodd deimlo tristwch ofnadwy a gwewyr meddwl oedd yn ei lethu. “Mae’r tristwch dw i’n ei deimlo yn ddigon i’m lladd i,” meddai wrthyn nhw, “Arhoswch yma i wylio gyda mi.” Aeth yn ei flaen ychydig, a syrthio ar ei wyneb ar lawr a gweddïo, “Fy Nhad, gad i’r cwpan chwerw yma fynd i ffwrdd os ydy hynny’n bosib. Ond paid gwneud beth dw i eisiau, gwna beth rwyt ti eisiau.” Pan aeth yn ôl at ei ddisgyblion roedden nhw’n cysgu. A meddai wrth Pedr, “Felly, allech chi ddim cadw golwg gyda mi am un awr fechan? Cadwch yn effro, a gweddïwch y byddwch chi ddim yn syrthio pan gewch chi’ch profi. Mae’r ysbryd yn frwd, ond y corff yn wan.” Yna aeth i ffwrdd a gweddïo eto, “Fy Nhad, os ydy hi ddim yn bosib cymryd y cwpan chwerw yma i ffwrdd heb i mi yfed ohono, gwna i beth rwyt ti eisiau.” Ond pan ddaeth yn ôl, roedden nhw wedi syrthio i gysgu eto – roedden nhw’n methu’n lân â chadw eu llygaid ar agor. Felly gadawodd nhw a mynd i ffwrdd i weddïo yr un peth eto y drydedd waith. Yna daeth yn ôl at ei ddisgyblion a dweud wrthyn nhw, “Dych chi’n cysgu eto? Yn dal i orffwys? Edrychwch! Mae’r foment wedi dod. Dw i, Mab y Dyn, ar fin cael fy mradychu i afael pechaduriaid. Codwch, gadewch i ni fynd! Mae’r bradwr wedi cyrraedd!” Wrth iddo ddweud y peth, dyma Jwdas, un o’r deuddeg disgybl, yn ymddangos gyda thyrfa yn cario cleddyfau a phastynau. Roedd y prif offeiriaid a’r arweinwyr Iddewig eraill wedi’u hanfon nhw i ddal Iesu. Roedd Jwdas y bradwr wedi trefnu y byddai’n rhoi arwydd iddyn nhw: “Yr un fydda i’n ei gyfarch â chusan ydy’r dyn i’w arestio.” Aeth Jwdas yn syth at Iesu. “Helo Rabbi!”, meddai, ac yna ei gyfarch â chusan. “Gwna be ti wedi dod yma i’w wneud, gyfaill,” meddai Iesu wrtho. Yna gafaelodd y lleill yn Iesu a’i arestio. Ond yn sydyn, dyma un o ffrindiau Iesu yn tynnu cleddyf allan a tharo gwas yr archoffeiriad. Torrodd ei glust i ffwrdd. “Cadw dy gleddyf!” meddai Iesu wrtho, “Bydd pawb sy’n trin y cleddyf yn cael eu lladd â’r cleddyf. Wyt ti ddim yn sylweddoli y gallwn i alw ar fy Nhad am help, ac y byddai’n anfon miloedd ar filoedd o angylion ar unwaith? Ond sut wedyn fyddai’r ysgrifau sanctaidd sy’n dweud fod rhaid i hyn i gyd ddigwydd yn dod yn wir?”