Ioan 6:1-24
Ioan 6:1-24 BNET
Beth amser ar ôl hyn croesodd Iesu i ochr draw Llyn Galilea (hynny ydy, Llyn Tiberias). Aeth tyrfa fawr o bobl ar ei ôl am eu bod wedi gweld ei arwyddion gwyrthiol yn iacháu pobl oedd yn sâl. Dringodd Iesu i ben y bryn, ac eistedd yno gyda’i ddisgyblion. Roedd Gŵyl y Pasg (un o wyliau’r Iddewon) yn agos. Pan welodd Iesu dyrfa fawr yn dod ato, gofynnodd i Philip, “Ble dŷn ni’n mynd i brynu bwyd i’r bobl yma i gyd?” (Roedd eisiau gweld beth fyddai ymateb Philip, achos roedd Iesu’n gwybod beth roedd e’n mynd i’w wneud.) Atebodd Philip, “Byddai angen ffortiwn i brynu digon o fwyd i bob un ohonyn nhw gael tamaid bach!” Yna dyma un o’r disgyblion eraill, Andreas (brawd Simon Pedr), yn dweud, “Mae bachgen yma sydd â phum torth haidd a dau bysgodyn bach ganddo. Ond dydy hynny fawr o werth hefo cymaint o bobl!” Dwedodd Iesu, “Gwnewch i’r bobl eistedd.” Roedd digon o laswellt lle roedden nhw, a dyma’r dyrfa (oedd yn cynnwys tua pum mil o ddynion) yn eistedd. Yna cymerodd Iesu y torthau, ac ar ôl adrodd gweddi o ddiolch, eu rhannu i’r bobl oedd yn eistedd. Yna gwnaeth yr un peth gyda’r pysgod, a chafodd pawb gymaint ag oedden nhw eisiau. Ar ôl i bawb gael llond eu boliau, dwedodd Iesu wrth ei ddisgyblion, “Casglwch y tameidiau sydd dros ben. Peidiwch gwastraffu dim.” Felly dyma nhw’n eu casglu a llenwi deuddeg basged gyda’r tameidiau o’r pum torth haidd oedd heb eu bwyta. Ar ôl i’r bobl weld yr arwydd gwyrthiol yma, roedden nhw’n dweud, “Mae’n rhaid mai hwn ydy’r Proffwyd ddwedodd Moses ei fod yn dod i’r byd.” Gan fod Iesu’n gwybod eu bod nhw’n bwriadu ei orfodi i fod yn frenin, aeth i ffwrdd i fyny’r mynydd unwaith eto ar ei ben ei hun. Pan oedd hi’n dechrau nosi, aeth ei ddisgyblion i lawr at y llyn, a mynd i gwch i groesi’r llyn yn ôl i Capernaum. Roedd hi’n dechrau tywyllu, a doedd Iesu ddim wedi dod yn ôl atyn nhw eto. Roedd y tonnau’n dechrau mynd yn arw am fod gwynt cryf yn chwythu. Pan oedden nhw wedi rhwyfo rhyw dair neu bedair milltir, gwelon nhw Iesu yn cerdded ar y dŵr i gyfeiriad y cwch. Roedden nhw wedi dychryn, ond meddai Iesu wrthyn nhw, “Fi ydy e. Peidiwch bod ag ofn.” Yna roedden nhw’n fodlon ei dderbyn i’r cwch, ond yn sydyn roedd y cwch wedi cyrraedd y lan roedden nhw’n anelu ati. Y diwrnod wedyn roedd tyrfa o bobl yn dal i ddisgwyl yr ochr draw i’r llyn. Roedden nhw’n gwybod mai dim ond un cwch bach oedd wedi bod yno, a bod y disgyblion wedi mynd i ffwrdd yn hwnnw eu hunain. Doedd Iesu ddim wedi mynd gyda nhw. Roedd cychod eraill o Tiberias wedi glanio heb fod ymhell o’r lle roedden nhw wedi bwyta ar ôl i’r Arglwydd roi diolch. Felly, pan sylweddolodd y dyrfa fod Iesu ddim yno, na’i ddisgyblion chwaith, dyma nhw’n mynd i mewn i’r cychod hynny a chroesi i Capernaum i chwilio amdano.

