Ioan 6:1-24
Ioan 6:1-24 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Beth amser ar ôl hyn croesodd Iesu i ochr draw Llyn Galilea (hynny ydy, Llyn Tiberias). Aeth tyrfa fawr o bobl ar ei ôl am eu bod wedi gweld ei arwyddion gwyrthiol yn iacháu pobl oedd yn sâl. Dringodd Iesu i ben y bryn, ac eistedd yno gyda’i ddisgyblion. Roedd Gŵyl y Pasg (un o wyliau’r Iddewon) yn agos. Pan welodd Iesu dyrfa fawr yn dod ato, gofynnodd i Philip, “Ble dŷn ni’n mynd i brynu bwyd i’r bobl yma i gyd?” (Roedd eisiau gweld beth fyddai ymateb Philip, achos roedd Iesu’n gwybod beth roedd e’n mynd i’w wneud.) Atebodd Philip, “Byddai angen ffortiwn i brynu digon o fwyd i bob un ohonyn nhw gael tamaid bach!” Yna dyma un o’r disgyblion eraill, Andreas (brawd Simon Pedr), yn dweud, “Mae bachgen yma sydd â phum torth haidd a dau bysgodyn bach ganddo. Ond dydy hynny fawr o werth hefo cymaint o bobl!” Dwedodd Iesu, “Gwnewch i’r bobl eistedd.” Roedd digon o laswellt lle roedden nhw, a dyma’r dyrfa (oedd yn cynnwys tua pum mil o ddynion) yn eistedd. Yna cymerodd Iesu y torthau, ac ar ôl adrodd gweddi o ddiolch, eu rhannu i’r bobl oedd yn eistedd. Yna gwnaeth yr un peth gyda’r pysgod, a chafodd pawb gymaint ag oedden nhw eisiau. Ar ôl i bawb gael llond eu boliau, dwedodd Iesu wrth ei ddisgyblion, “Casglwch y tameidiau sydd dros ben. Peidiwch gwastraffu dim.” Felly dyma nhw’n eu casglu a llenwi deuddeg basged gyda’r tameidiau o’r pum torth haidd oedd heb eu bwyta. Ar ôl i’r bobl weld yr arwydd gwyrthiol yma, roedden nhw’n dweud, “Mae’n rhaid mai hwn ydy’r Proffwyd ddwedodd Moses ei fod yn dod i’r byd.” Gan fod Iesu’n gwybod eu bod nhw’n bwriadu ei orfodi i fod yn frenin, aeth i ffwrdd i fyny’r mynydd unwaith eto ar ei ben ei hun. Pan oedd hi’n dechrau nosi, aeth ei ddisgyblion i lawr at y llyn, a mynd i gwch i groesi’r llyn yn ôl i Capernaum. Roedd hi’n dechrau tywyllu, a doedd Iesu ddim wedi dod yn ôl atyn nhw eto. Roedd y tonnau’n dechrau mynd yn arw am fod gwynt cryf yn chwythu. Pan oedden nhw wedi rhwyfo rhyw dair neu bedair milltir, gwelon nhw Iesu yn cerdded ar y dŵr i gyfeiriad y cwch. Roedden nhw wedi dychryn, ond meddai Iesu wrthyn nhw, “Fi ydy e. Peidiwch bod ag ofn.” Yna roedden nhw’n fodlon ei dderbyn i’r cwch, ond yn sydyn roedd y cwch wedi cyrraedd y lan roedden nhw’n anelu ati. Y diwrnod wedyn roedd tyrfa o bobl yn dal i ddisgwyl yr ochr draw i’r llyn. Roedden nhw’n gwybod mai dim ond un cwch bach oedd wedi bod yno, a bod y disgyblion wedi mynd i ffwrdd yn hwnnw eu hunain. Doedd Iesu ddim wedi mynd gyda nhw. Roedd cychod eraill o Tiberias wedi glanio heb fod ymhell o’r lle roedden nhw wedi bwyta ar ôl i’r Arglwydd roi diolch. Felly, pan sylweddolodd y dyrfa fod Iesu ddim yno, na’i ddisgyblion chwaith, dyma nhw’n mynd i mewn i’r cychod hynny a chroesi i Capernaum i chwilio amdano.
Ioan 6:1-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ar ôl hyn aeth Iesu ymaith ar draws Môr Galilea (hynny yw, Môr Tiberias). Ac yr oedd tyrfa fawr yn ei ganlyn, oherwydd yr oeddent wedi gweld yr arwyddion yr oedd wedi eu gwneud ar y cleifion. Aeth Iesu i fyny'r mynydd ac eistedd yno gyda'i ddisgyblion. Yr oedd y Pasg, gŵyl yr Iddewon, yn ymyl. Yna cododd Iesu ei lygaid a gwelodd fod tyrfa fawr yn dod tuag ato, ac meddai wrth Philip, “Ble y gallwn brynu bara i'r rhain gael bwyta?” Dweud hyn yr oedd i roi prawf arno, oherwydd gwyddai ef ei hun beth yr oedd yn mynd i'w wneud. Atebodd Philip ef, “Ni byddai bara gwerth dau gant o ddarnau arian yn ddigon i roi tamaid bach i bob un ohonynt.” A dyma un o'i ddisgyblion, Andreas, brawd Simon Pedr, yn dweud wrtho, “Y mae bachgen yma a phum torth haidd a dau bysgodyn ganddo, ond beth yw hynny rhwng cynifer?” Dywedodd Iesu, “Gwnewch i'r bobl eistedd i lawr.” Yr oedd llawer o laswellt yn y lle, ac eisteddodd y dynion i lawr, rhyw bum mil ohonynt. Yna cymerodd Iesu y torthau, ac wedi diolch fe'u rhannodd i'r rhai oedd yn eistedd. Gwnaeth yr un peth hefyd â'r pysgod, gan roi i bob un faint a fynnai. A phan oeddent wedi cael digon, meddai wrth ei ddisgyblion, “Casglwch y tameidiau sy'n weddill, rhag i ddim fynd yn wastraff.” Fe'u casglasant, felly, a llenwi deuddeg basged â'r tameidiau yr oedd y bwytawyr wedi eu gadael yn weddill o'r pum torth haidd. Pan welodd y bobl yr arwydd hwn yr oedd Iesu wedi ei wneud, dywedasant, “Hwn yn wir yw'r Proffwyd sy'n dod i'r byd.” Yna synhwyrodd Iesu eu bod am ddod a'i gipio ymaith i'w wneud yn frenin, a chiliodd i'r mynydd eto ar ei ben ei hun. Pan aeth hi'n hwyr, aeth ei ddisgyblion i lawr at y môr ac i mewn i gwch, a dechrau croesi'r môr i Gapernaum. Yr oedd hi eisoes yn dywyll, ac nid oedd Iesu wedi dod atynt hyd yn hyn. Yr oedd gwynt cryf yn chwythu a'r môr yn arw. Yna, wedi iddynt rwyfo am ryw bum neu chwe chilomedr, dyma hwy'n gweld Iesu yn cerdded ar y môr ac yn nesu at y cwch, a daeth ofn arnynt. Ond meddai ef wrthynt, “Myfi yw; peidiwch ag ofni.” Yr oeddent am ei gymryd ef i'r cwch, ond ar unwaith cyrhaeddodd y cwch i'r lan yr oeddent yn hwylio ati. Trannoeth, sylwodd y dyrfa oedd wedi aros ar yr ochr arall i'r môr na fu ond un cwch yno. Gwyddent nad oedd Iesu wedi mynd i'r cwch gyda'i ddisgyblion, ond eu bod wedi hwylio ymaith ar eu pennau eu hunain. Ond yr oedd cychod eraill o Tiberias wedi dod yn agos i'r fan lle'r oeddent wedi bwyta'r bara ar ôl i'r Arglwydd roi diolch. Felly, pan welodd y dyrfa nad oedd Iesu yno, na'i ddisgyblion chwaith, aethant hwythau i'r cychod hyn a hwylio i Gapernaum i chwilio am Iesu.
Ioan 6:1-24 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Wedi’r pethau hyn yr aeth yr Iesu dros fôr Galilea, hwnnw yw môr Tiberias. A thyrfa fawr a’i canlynodd ef; canys hwy a welsent ei arwyddion, y rhai a wnaethai efe ar y cleifion. A’r Iesu a aeth i fyny i’r mynydd, ac a eisteddodd yno gyda’i ddisgyblion. A’r pasg, gŵyl yr Iddewon, oedd yn, agos. Yna yr Iesu a ddyrchafodd ei lygaid, ac a welodd fod tyrfa fawr yn dyfod ato; ac a ddywedodd wrth Philip, O ba le y prynwn ni fara, fel y caffo y rhai hyn fwyta? (A hyn a ddywedodd efe i’w brofi ef: canys efe a wyddai beth yr oedd efe ar fedr ei wneuthur.) Philip a’i hatebodd ef, Gwerth dau can ceiniog o fara nid yw ddigon iddynt hwy, fel y gallo pob un ohonynt gymryd ychydig. Un o’i ddisgyblion a ddywedodd wrtho, Andreas, brawd Simon Pedr, Y mae yma ryw fachgennyn, a chanddo bum torth haidd, a dau bysgodyn: ond beth yw hynny rhwng cynifer? A’r Iesu a ddywedodd, Perwch i’r dynion eistedd i lawr. Ac yr oedd glaswellt lawer yn y fan honno. Felly y gwŷr a eisteddasant i lawr, ynghylch pum mil o nifer. A’r Iesu a gymerth y torthau, ac wedi iddo ddiolch, efe a’u rhannodd i’r disgyblion, a’r disgyblion i’r rhai oedd yn eistedd; felly hefyd o’r pysgod, cymaint ag a fynasant. Ac wedi eu digoni hwynt, efe a ddywedodd wrth ei ddisgyblion, Cesglwch y briwfwyd gweddill, fel na choller dim. Am hynny hwy a’u casglasant, ac a lanwasant ddeuddeg basgedaid o’r briwfwyd o’r pum torth haidd a weddillasai gan y rhai a fwytasent. Yna y dynion, pan welsant yr arwydd a wnaethai’r Iesu, a ddywedasant, Hwn yn ddiau yw’r proffwyd oedd ar ddyfod i’r byd. Yr Iesu gan hynny, pan wybu eu bod hwy ar fedr dyfod, a’i gipio ef i’w wneuthur yn frenin, a giliodd drachefn i’r mynydd, ei hunan yn unig. A phan hwyrhaodd hi, ei ddisgyblion a aethant i waered at y môr. Ac wedi iddynt ddringo i long, hwy a aethant dros y môr i Gapernaum. Ac yr oedd hi weithian yn dywyll, a’r Iesu ni ddaethai atynt hwy. A’r môr, gan wynt mawr yn chwythu, a gododd. Yna, wedi iddynt rwyfo ynghylch pump ar hugain neu ddeg ar hugain o ystadiau, hwy a welent yr Iesu yn rhodio ar y môr, ac yn nesáu at y llong; ac a ofnasant. Ond efe a ddywedodd wrthynt, Myfi yw; nac ofnwch. Yna y derbyniasant ef yn chwannog i’r llong: ac yn ebrwydd yr oedd y llong wrth y tir yr oeddynt yn myned iddo. Trannoeth, pan welodd y dyrfa oedd yn sefyll y tu hwnt i’r môr, nad oedd un llong arall yno ond yr un honno i’r hon yr aethai ei ddisgyblion ef, ac nad aethai’r Iesu gyda’i ddisgyblion i’r llong, ond myned o’i ddisgyblion ymaith eu hunain; (Eithr llongau eraill a ddaethent o Diberias yn gyfagos i’r fan lle y bwytasent hwy fara, wedi i’r Arglwydd roddi diolch:) Pan welodd y dyrfa gan hynny nad oedd yr Iesu yno, na’i ddisgyblion, hwythau a aethant i longau, ac a ddaethant i Gapernaum, dan geisio yr Iesu.