Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Eseia 8:11-22

Eseia 8:11-22 BNET

Dyma ddwedodd yr ARGLWYDD wrtho i – fel petai’n gafael ynof fi a’m rhybuddio i beidio mynd yr un ffordd â’r bobl yma: “Peidiwch dweud, ‘Cynllwyn ydy e!’ bob tro mae’r bobl yma’n dweud fod cynllwyn! Does dim rhaid dychryn na bod ag ofn beth maen nhw’n ei ofni. Yr ARGLWYDD hollbwerus ydy’r un i’w barchu! Fe ydy’r unig un i’w ofni, a dychryn rhagddo! Bydd e’n gysegr – ond i ddau deulu brenhinol Israel bydd yn garreg sy’n baglu pobl a chraig sy’n gwneud iddyn nhw syrthio. Bydd fel trap neu fagl i’r rhai sy’n byw yn Jerwsalem. Bydd llawer yn baglu, yn syrthio ac yn cael eu dryllio; ac eraill yn cael eu rhwymo a’u dal.” Bydd y rhybudd yma’n cael ei rwymo, a’r ddysgeidiaeth yn cael ei selio a’i chadw gan fy nisgyblion i. Dw i’n mynd i ddisgwyl am yr ARGLWYDD, er ei fod e wedi troi cefn ar bobl Jacob – dw i’n ei drystio fe! Dyma fi, a’r plant mae’r ARGLWYDD wedi’u rhoi i mi. Maen nhw’n arwyddion ac yn rhybudd i Israel oddi wrth yr ARGLWYDD hollbwerus, sy’n byw ar Fynydd Seion. Bydd pobl yn dweud wrthoch chi, “Ewch i holi’r swynwyr a’r dewiniaid sy’n sgrechian a griddfan. Oni ddylai pobl geisio’u ‘duwiau’ – holi’r meirw ar ran y byw?” “At y gyfraith a’r dystiolaeth! Os nad ydyn nhw’n siarad yn gyson â’r neges yma, maen nhw yn y tywyllwch.” Maen nhw’n cerdded o gwmpas mewn eisiau a newyn. Am eu bod yn llwgu byddan nhw’n gwylltio ac yn melltithio’u brenin a’u ‘duwiau’, wrth edrych i fyny. Wrth edrych ar y tir does dim i’w weld ond trwbwl a thywyllwch, düwch a gwewyr meddwl – bydd wedi’i daflu i dywyllwch dudew.