Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Eseia 8:11-22 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion

Eseia 8:11-22 BNET (beibl.net 2015, 2024)

Dyma ddwedodd yr ARGLWYDD wrtho i – fel petai’n gafael ynof fi a’m rhybuddio i beidio mynd yr un ffordd â’r bobl yma: “Peidiwch dweud, ‘Cynllwyn ydy e!’ bob tro mae’r bobl yma’n dweud fod cynllwyn! Does dim rhaid dychryn na bod ag ofn beth maen nhw’n ei ofni. Yr ARGLWYDD hollbwerus ydy’r un i’w barchu! Fe ydy’r unig un i’w ofni, a dychryn rhagddo! Bydd e’n gysegr – ond i ddau deulu brenhinol Israel bydd yn garreg sy’n baglu pobl a chraig sy’n gwneud iddyn nhw syrthio. Bydd fel trap neu fagl i’r rhai sy’n byw yn Jerwsalem. Bydd llawer yn baglu, yn syrthio ac yn cael eu dryllio; ac eraill yn cael eu rhwymo a’u dal.” Bydd y rhybudd yma’n cael ei rwymo, a’r ddysgeidiaeth yn cael ei selio a’i chadw gan fy nisgyblion i. Dw i’n mynd i ddisgwyl am yr ARGLWYDD, er ei fod e wedi troi cefn ar bobl Jacob – dw i’n ei drystio fe! Dyma fi, a’r plant mae’r ARGLWYDD wedi’u rhoi i mi. Maen nhw’n arwyddion ac yn rhybudd i Israel oddi wrth yr ARGLWYDD hollbwerus, sy’n byw ar Fynydd Seion. Bydd pobl yn dweud wrthoch chi, “Ewch i holi’r swynwyr a’r dewiniaid sy’n sgrechian a griddfan. Oni ddylai pobl geisio’u ‘duwiau’ – holi’r meirw ar ran y byw?” “At y gyfraith a’r dystiolaeth! Os nad ydyn nhw’n siarad yn gyson â’r neges yma, maen nhw yn y tywyllwch.” Maen nhw’n cerdded o gwmpas mewn eisiau a newyn. Am eu bod yn llwgu byddan nhw’n gwylltio ac yn melltithio’u brenin a’u ‘duwiau’, wrth edrych i fyny. Wrth edrych ar y tir does dim i’w weld ond trwbwl a thywyllwch, düwch a gwewyr meddwl – bydd wedi’i daflu i dywyllwch dudew.

Eseia 8:11-22 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)

Fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, pan oedd yn gafael yn dynn ynof ac yn fy rhybuddio rhag rhodio yn llwybrau'r bobl hyn: “Peidiwch â dweud ‘Cynllwyn!’ am bob peth a elwir yn gynllwyn gan y bobl hyn; a pheidiwch ag ofni'r hyn y maent hwy yn ei ofni, nac arswydo rhagddo. Ond ystyriwch yn sanctaidd ARGLWYDD y Lluoedd; ofnwch ef, ac arswydwch rhagddo ef. Bydd ef yn fagl, ac i ddau dŷ Israel bydd yn faen tramgwydd ac yn graig rhwystr; bydd yn rhwyd ac yn fagl i drigolion Jerwsalem. A bydd llawer yn baglu drostynt; syrthiant, ac fe'u dryllir; cânt eu baglu a'u dal.” Rhwyma'r dystiolaeth, selia'r gyfraith ymhlith fy nisgyblion. Disgwyliaf finnau am yr ARGLWYDD, sy'n cuddio'i wyneb rhag tŷ Jacob; arhosaf yn eiddgar amdano. Wele fi a'r meibion a roes yr ARGLWYDD i mi yn arwyddion ac yn argoelion yn Israel oddi wrth ARGLWYDD y Lluoedd, sy'n trigo ym Mynydd Seion. A phan fydd y bobl yn dweud wrthych, “Ewch i ymofyn â'r swynwyr a'r dewiniaid sy'n sisial a sibrwd”, onid yw'r bobl yn ymhél â'r duwiau, ac yn ymofyn â'r meirw dros y byw am gyfarwyddyd a thystiolaeth? Dyma'r gair a ddywedant, ac nid oes oleuni ynddo. Bydd yn tramwy trwy'r wlad mewn caledi a newyn; a phan newyna bydd yn chwerwi, ac yn melltithio ei frenin a'i Dduw. A phan fydd yn troi ei olwg tuag i fyny neu'n edrych tua'r ddaear, wele drallod a thywyllwch, caddug cyfyngder; bydd wedi ei fwrw i dywyllwch du.

Eseia 8:11-22 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)

Canys fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf â llaw gref, ac efe a’m dysgodd na rodiwn yn ffordd y bobl hyn, gan ddywedyd, Na ddywedwch, Cydfwriad, wrth y rhai oll y dywedo y bobl hyn, Cydfwriad: nac ofnwch chwaith eu hofn hwynt, ac na arswydwch. ARGLWYDD y lluoedd ei hun a sancteiddiwch; a bydded efe yn ofn i chwi, a bydded efe yn arswyd i chwi: Ac efe a fydd yn noddfa; ond yn faen tramgwydd ac yn graig rhwystr i ddau dŷ Israel, yn fagl ac yn rhwyd i breswylwyr Jerwsalem. A llawer yn eu mysg a dramgwyddant, ac a syrthiant, ac a ddryllir, ac a rwydir, ac a ddelir. Rhwym y dystiolaeth, selia y gyfraith ymhlith fy nisgyblion. A minnau a ddisgwyliaf am yr ARGLWYDD sydd yn cuddio ei wyneb oddi wrth dŷ Jacob, ac a wyliaf amdano. Wele fi a’r plant a roddes yr ARGLWYDD i mi, yn arwyddion ac yn rhyfeddodau yn Israel: oddi wrth ARGLWYDD y lluoedd, yr hwn sydd yn trigo ym mynydd Seion. A phan ddywedant wrthych, Ymofynnwch â’r swynyddion, ac â’r dewiniaid, y rhai sydd yn hustyng, ac yn sibrwd: onid â’u DUW yr ymofyn pobl? dros y byw at y meirw? At y gyfraith, ac at y dystiolaeth: oni ddywedant yn ôl y gair hwn, hynny sydd am nad oes oleuni ynddynt. A hwy a dramwyant trwyddi, yn galed arnynt ac yn newynog: a bydd pan newynont, yr ymddigiant, ac y melltithiant eu brenin a’u DUW, ac a edrychant i fyny. A hwy a edrychant ar y ddaear; ac wele drallod a thywyllwch, niwl cyfyngder; a byddant wedi eu gwthio i dywyllwch.