Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Hosea 10:1-13

Hosea 10:1-13 BNET

Roedd Israel fel gwinwydden iach a’i ffrwyth yn drwm ar ei changhennau. Ond po fwya o ffrwyth gafwyd, mwya o allorau a godwyd. Wrth i gnydau’r tir lwyddo byddai’r colofnau cysegredig yn cael eu haddurno. Maen nhw’n rhagrithio, felly byddan nhw’n cael eu cosbi. Bydd yr ARGLWYDD ei hun yn chwalu’r allorau ac yn malu’r colofnau. Yn fuan iawn byddan nhw’n cyfaddef, “Does dim brenin am ein bod heb barchu’r ARGLWYDD. Ond beth wnaeth brenin i ni beth bynnag?” Maen nhw’n llawn geiriau gwag, addewidion wedi’u torri, a chytundebau diwerth. Mae achosion llys yn lledu fel chwyn gwenwynig mewn cae wedi’i aredig. Bydd pobl Samaria yn ofni beth ddigwydd i lo Beth-afen. Bydd y bobl yn galaru gyda’r offeiriaid ffals a fu’n dathlu, am fod ei ysblander wedi’i gipio, a’i gario i Asyria yn anrheg i’r brenin mawr. Bydd Effraim yn destun sbort, ac Israel yn cywilyddio o achos yr eilun o bren. Bydd Samaria’n cael ei dinistrio, a’i brenin yn cael ei gipio fel brigyn yn cael ei gario ar lif afon. Bydd yr allorau paganaidd yn cael eu dinistrio – sef y lleoedd lle bu Israel yn pechu. Bydd drain ac ysgall yn tyfu dros yr allorau. Byddan nhw’n dweud wrth y mynyddoedd, “Cuddiwch ni!” ac wrth y bryniau, “Syrthiwch arnon ni!” ARGLWYDD “Israel, ti wedi pechu ers y digwyddiad erchyll yn Gibea. A does dim byd wedi newid! Onid rhyfel oedd canlyniad yr holl ddrwg yn Gibea? A dw i’n barod i gosbi eto. Dw i’n mynd i gasglu’r cenhedloedd i ymosod arnat ti a dy gymryd yn gaeth am y ddau bechod. Roedd Effraim fel heffer wedi’i hyfforddi, ac wrth ei bodd yn sathru’r grawn. Ond dw i’n mynd i roi iau trwm ar ei gwddf, a gêr i wneud i Effraim aredig. Bydd rhaid i Jwda aredig a Jacob lyfnu’r tir ei hun! Heuwch hadau cyfiawnder, a chewch gynhaeaf o gariad gen i. Trin tir eich calon galed – ceisio’r ARGLWYDD nes iddo ddod gyda chawodydd achubiaeth. Ond rwyt wedi plannu drygioni, a medi anghyfiawnder, ac yna bwyta ffrwyth y twyll. Ti wedi dibynnu ar gerbydau rhyfel, a phwyso ar faint dy fyddin.