Actau 7:20-51
Actau 7:20-51 BNET
“Dyna pryd cafodd Moses ei eni. Doedd hwn ddim yn blentyn cyffredin! Roedd ei rieni wedi’i fagu o’r golwg yn eu cartref am dri mis. Ond pan gafodd ei adael allan, dyma ferch y Pharo yn dod o hyd iddo, ac yn ei gymryd a’i fagu fel petai’n blentyn iddi hi ei hun. Felly cafodd Moses yr addysg orau yn yr Aifft; roedd yn arweinydd galluog iawn, ac yn llwyddo beth bynnag roedd e’n wneud. “Pan oedd yn bedwar deg mlwydd oed, penderfynodd fynd i ymweld â’i bobl ei hun, sef pobl Israel. Dyna pryd y gwelodd un ohonyn nhw yn cael ei gam-drin gan ryw Eifftiwr. Ymyrrodd Moses i’w amddiffyn a lladd yr Eifftiwr. Roedd yn rhyw obeithio y byddai ei bobl yn dod i weld fod Duw wedi’i anfon i’w hachub nhw, ond wnaethon nhw ddim. Y diwrnod wedyn gwelodd ddau o bobl Israel yn ymladd â’i gilydd. Ymyrrodd eto, a cheisio eu cael i gymodi. ‘Dych chi’n frodyr i’ch gilydd ffrindiau! Pam dych chi’n gwneud hyn?’ “Ond dyma’r dyn oedd ar fai yn gwthio Moses o’r ffordd ac yn dweud wrtho, ‘Pwy sydd wedi rhoi’r hawl i ti ein rheoli ni a’n barnu ni? Wyt ti am fy lladd i fel gwnest ti ladd yr Eifftiwr yna ddoe?’ Clywed hynny wnaeth i Moses ddianc o’r wlad. Aeth i Midian. Er ei fod yn ddieithryn yno, setlodd i lawr a chafodd dau fab eu geni iddo. “Bedwar deg o flynyddoedd yn ddiweddarach, yn yr anialwch wrth ymyl Mynydd Sinai, dyma angel yn ymddangos i Moses yng nghanol fflamau perth oedd ar dân. Doedd ganddo ddim syniad beth oedd yn ei weld. Wrth gamu ymlaen i weld yn agosach, clywodd lais yr Arglwydd yn dweud, ‘Duw dy gyndeidiau di ydw i, Duw Abraham, Isaac a Jacob.’ Erbyn hyn roedd Moses yn crynu drwyddo gan ofn, a ddim yn meiddio edrych ar yr hyn oedd o’i flaen. Ond dyma’r Arglwydd yn dweud wrtho, ‘Tynna dy sandalau; rwyt ti’n sefyll ar dir cysegredig. Dw i wedi gweld y ffordd mae fy mhobl i’n cael eu cam-drin yn yr Aifft. Dw i wedi’u clywed nhw’n griddfan a dw i’n mynd i’w rhyddhau nhw. Tyrd, felly; dw i’n mynd i dy anfon di yn ôl i’r Aifft.’ “Moses oedd yr union ddyn oedden nhw wedi’i wrthod pan wnaethon nhw ddweud, ‘Pwy sydd wedi rhoi’r hawl i ti ein rheoli ni a’n barnu ni?’ Drwy gyfrwng yr angel a welodd yn y berth cafodd ei anfon gan Dduw ei hun i’w harwain nhw a’u hachub nhw! Drwy wneud gwyrthiau rhyfeddol oedd yn dangos fod Duw gydag e, arweiniodd y bobl allan o’r Aifft, drwy’r Môr Coch ac yn yr anialwch am bedwar deg o flynyddoedd. “Moses ddwedodd wrth bobl Israel, ‘Bydd Duw yn codi proffwyd arall fel fi o’ch plith chi.’ Roedd yn arwain y bobl pan oedden nhw gyda’i gilydd yn yr anialwch. Gyda Moses y siaradodd yr angel ar Fynydd Sinai. Derbyniodd neges fywiol i’w phasio ymlaen i ni. Ac eto gwrthododd ein hynafiaid wrando arno! Roedden nhw eisiau mynd yn ôl i’r Aifft! Dyma nhw’n dweud wrth Aaron, ‘Gwna dduwiau i ni i’n harwain ni. Pwy ŵyr beth sydd wedi digwydd i’r Moses hwnnw wnaeth ein harwain ni allan o’r Aifft.’ Felly dyma nhw’n gwneud eilun ar ffurf llo, aberthu iddo a chynnal parti i anrhydeddu rhywbeth roedden nhw wedi’i lunio â’i dwylo eu hunain! Trodd Duw ei gefn arnyn nhw a gadael iddyn nhw fwrw ymlaen i addoli’r sêr a’r planedau yn yr awyr. Dyma’n union beth sydd wedi’i ysgrifennu yn llyfr y proffwydi: ‘Wnaethoch chi gyflwyno aberthau ac offrymau i mi yn ystod y pedwar deg mlynedd yn yr anialwch, O bobl Israel? Na! Mae’n well gynnoch chi anrhydeddu allor Molech a Reffan, duw’r sêr, a’r eilunod wnaethoch chi i’w haddoli nhw. Felly dw i’n mynd i’ch anfon chi’n gaethion ymhell i ffwrdd i Babilon.’ “Roedd ‘pabell y dystiolaeth’ gyda’n hynafiaid ni yn yr anialwch. Roedd wedi cael ei gwneud yn union yn ôl y patrwm oedd Duw wedi’i ddangos i Moses. Pan oedd Josua yn arwain y bobl i gymryd y tir oddi ar y cenhedloedd gafodd eu bwrw allan o’r wlad yma gan Dduw, dyma nhw’n mynd â’r babell gyda nhw. Ac roedd hi’n dal gyda nhw hyd cyfnod y Brenin Dafydd. “Roedd Dafydd wedi profi ffafr Duw, a gofynnodd am y fraint o gael codi adeilad parhaol i Dduw Jacob. Ond Solomon oedd yr un wnaeth adeiladu’r deml. Ond wedyn, dydy’r Duw Goruchaf ddim yn byw mewn adeiladau wedi’u codi gan ddynion! Yn union fel mae’r proffwyd yn dweud: ‘Y nefoedd ydy fy ngorsedd i, a’r ddaear yn stôl i mi orffwys fy nhraed arni. Allech chi adeiladu teml fel yna i mi? meddai’r Arglwydd. Ble dych chi’n mynd i’w roi i mi i orffwys? Onid fi sydd wedi creu popeth sy’n bodoli?’ “Dych chi mor benstiff! Dych chi fel y paganiaid – yn ystyfnig a byddar! Dych chi’n union yr un fath â’ch hynafiaid – byth yn gwrando ar yr Ysbryd Glân!

