Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Actau 7:20-51 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion

Actau 7:20-51 BNET (beibl.net 2015, 2024)

“Dyna pryd cafodd Moses ei eni. Doedd hwn ddim yn blentyn cyffredin! Roedd ei rieni wedi’i fagu o’r golwg yn eu cartref am dri mis. Ond pan gafodd ei adael allan, dyma ferch y Pharo yn dod o hyd iddo, ac yn ei gymryd a’i fagu fel petai’n blentyn iddi hi ei hun. Felly cafodd Moses yr addysg orau yn yr Aifft; roedd yn arweinydd galluog iawn, ac yn llwyddo beth bynnag roedd e’n wneud. “Pan oedd yn bedwar deg mlwydd oed, penderfynodd fynd i ymweld â’i bobl ei hun, sef pobl Israel. Dyna pryd y gwelodd un ohonyn nhw yn cael ei gam-drin gan ryw Eifftiwr. Ymyrrodd Moses i’w amddiffyn a lladd yr Eifftiwr. Roedd yn rhyw obeithio y byddai ei bobl yn dod i weld fod Duw wedi’i anfon i’w hachub nhw, ond wnaethon nhw ddim. Y diwrnod wedyn gwelodd ddau o bobl Israel yn ymladd â’i gilydd. Ymyrrodd eto, a cheisio eu cael i gymodi. ‘Dych chi’n frodyr i’ch gilydd ffrindiau! Pam dych chi’n gwneud hyn?’ “Ond dyma’r dyn oedd ar fai yn gwthio Moses o’r ffordd ac yn dweud wrtho, ‘Pwy sydd wedi rhoi’r hawl i ti ein rheoli ni a’n barnu ni? Wyt ti am fy lladd i fel gwnest ti ladd yr Eifftiwr yna ddoe?’ Clywed hynny wnaeth i Moses ddianc o’r wlad. Aeth i Midian. Er ei fod yn ddieithryn yno, setlodd i lawr a chafodd dau fab eu geni iddo. “Bedwar deg o flynyddoedd yn ddiweddarach, yn yr anialwch wrth ymyl Mynydd Sinai, dyma angel yn ymddangos i Moses yng nghanol fflamau perth oedd ar dân. Doedd ganddo ddim syniad beth oedd yn ei weld. Wrth gamu ymlaen i weld yn agosach, clywodd lais yr Arglwydd yn dweud, ‘Duw dy gyndeidiau di ydw i, Duw Abraham, Isaac a Jacob.’ Erbyn hyn roedd Moses yn crynu drwyddo gan ofn, a ddim yn meiddio edrych ar yr hyn oedd o’i flaen. Ond dyma’r Arglwydd yn dweud wrtho, ‘Tynna dy sandalau; rwyt ti’n sefyll ar dir cysegredig. Dw i wedi gweld y ffordd mae fy mhobl i’n cael eu cam-drin yn yr Aifft. Dw i wedi’u clywed nhw’n griddfan a dw i’n mynd i’w rhyddhau nhw. Tyrd, felly; dw i’n mynd i dy anfon di yn ôl i’r Aifft.’ “Moses oedd yr union ddyn oedden nhw wedi’i wrthod pan wnaethon nhw ddweud, ‘Pwy sydd wedi rhoi’r hawl i ti ein rheoli ni a’n barnu ni?’ Drwy gyfrwng yr angel a welodd yn y berth cafodd ei anfon gan Dduw ei hun i’w harwain nhw a’u hachub nhw! Drwy wneud gwyrthiau rhyfeddol oedd yn dangos fod Duw gydag e, arweiniodd y bobl allan o’r Aifft, drwy’r Môr Coch ac yn yr anialwch am bedwar deg o flynyddoedd. “Moses ddwedodd wrth bobl Israel, ‘Bydd Duw yn codi proffwyd arall fel fi o’ch plith chi.’ Roedd yn arwain y bobl pan oedden nhw gyda’i gilydd yn yr anialwch. Gyda Moses y siaradodd yr angel ar Fynydd Sinai. Derbyniodd neges fywiol i’w phasio ymlaen i ni. Ac eto gwrthododd ein hynafiaid wrando arno! Roedden nhw eisiau mynd yn ôl i’r Aifft! Dyma nhw’n dweud wrth Aaron, ‘Gwna dduwiau i ni i’n harwain ni. Pwy ŵyr beth sydd wedi digwydd i’r Moses hwnnw wnaeth ein harwain ni allan o’r Aifft.’ Felly dyma nhw’n gwneud eilun ar ffurf llo, aberthu iddo a chynnal parti i anrhydeddu rhywbeth roedden nhw wedi’i lunio â’i dwylo eu hunain! Trodd Duw ei gefn arnyn nhw a gadael iddyn nhw fwrw ymlaen i addoli’r sêr a’r planedau yn yr awyr. Dyma’n union beth sydd wedi’i ysgrifennu yn llyfr y proffwydi: ‘Wnaethoch chi gyflwyno aberthau ac offrymau i mi yn ystod y pedwar deg mlynedd yn yr anialwch, O bobl Israel? Na! Mae’n well gynnoch chi anrhydeddu allor Molech a Reffan, duw’r sêr, a’r eilunod wnaethoch chi i’w haddoli nhw. Felly dw i’n mynd i’ch anfon chi’n gaethion ymhell i ffwrdd i Babilon.’ “Roedd ‘pabell y dystiolaeth’ gyda’n hynafiaid ni yn yr anialwch. Roedd wedi cael ei gwneud yn union yn ôl y patrwm oedd Duw wedi’i ddangos i Moses. Pan oedd Josua yn arwain y bobl i gymryd y tir oddi ar y cenhedloedd gafodd eu bwrw allan o’r wlad yma gan Dduw, dyma nhw’n mynd â’r babell gyda nhw. Ac roedd hi’n dal gyda nhw hyd cyfnod y Brenin Dafydd. “Roedd Dafydd wedi profi ffafr Duw, a gofynnodd am y fraint o gael codi adeilad parhaol i Dduw Jacob. Ond Solomon oedd yr un wnaeth adeiladu’r deml. Ond wedyn, dydy’r Duw Goruchaf ddim yn byw mewn adeiladau wedi’u codi gan ddynion! Yn union fel mae’r proffwyd yn dweud: ‘Y nefoedd ydy fy ngorsedd i, a’r ddaear yn stôl i mi orffwys fy nhraed arni. Allech chi adeiladu teml fel yna i mi? meddai’r Arglwydd. Ble dych chi’n mynd i’w roi i mi i orffwys? Onid fi sydd wedi creu popeth sy’n bodoli?’ “Dych chi mor benstiff! Dych chi fel y paganiaid – yn ystyfnig a byddar! Dych chi’n union yr un fath â’ch hynafiaid – byth yn gwrando ar yr Ysbryd Glân!

Actau 7:20-51 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)

Y pryd hwnnw y ganwyd Moses, ac yr oedd yn blentyn cymeradwy yng ngolwg Duw. Magwyd ef am dri mis yn nhŷ ei dad, a phan fwriwyd ef allan, cymerodd merch Pharo ef ati, a'i fagu yn fab iddi hi ei hun. Hyfforddwyd Moses yn holl ddoethineb yr Eifftwyr, ac yr oedd yn nerthol yn ei eiriau a'i weithredoedd. “Yn ystod ei ddeugeinfed flwyddyn, cododd awydd arno i ymweld â'i gyd-genedl, plant Israel. Pan welodd un ohonynt yn cael cam, fe'i hamddiffynnodd, a dialodd gam y dyn oedd dan orthrwm trwy daro'r Eifftiwr. Yr oedd yn tybio y byddai ei bobl ei hun yn deall fod Duw trwyddo ef yn rhoi gwaredigaeth iddynt. Ond nid oeddent yn deall. Trannoeth daeth ar draws dau ohonynt yn ymladd, a cheisiodd eu cymodi a chael heddwch, gan ddweud, ‘Ddynion, brodyr ydych; pam y gwnewch gam â'ch gilydd?’ Ond dyma'r un oedd yn gwneud cam â'i gymydog yn ei wthio i ffwrdd, gan ddweud, ‘Pwy a'th benododd di yn llywodraethwr ac yn farnwr arnom ni? A wyt ti am fy lladd i fel y lleddaist yr Eifftiwr ddoe?’ A ffodd Moses ar y gair hwn, ac aeth yn alltud yn nhir Midian, lle y ganwyd iddo ddau fab. “Ymhen deugain mlynedd, fe ymddangosodd iddo yn anialwch Mynydd Sinai angel mewn fflam dân mewn perth. Pan welodd Moses ef, bu ryfedd ganddo'r olygfa. Wrth iddo nesu i edrych yn fanwl, daeth llais yr Arglwydd: ‘Myfi yw Duw dy dadau, Duw Abraham a Duw Isaac a Duw Jacob.’ Cafodd Moses fraw, ac ni feiddiai edrych. Yna dywedodd yr Arglwydd wrtho, ‘Datod dy sandalau oddi am dy draed, oherwydd y mae'r lle'r wyt yn sefyll arno yn dir sanctaidd. Gwelais, do, gwelais sut y mae fy mhobl sydd yn yr Aifft yn cael eu cam-drin, a chlywais eu griddfan, a deuthum i lawr i'w gwaredu. Yn awr tyrd, imi gael dy anfon di i'r Aifft.’ Y Moses hwn, y gŵr a wrthodasant gan ddweud, ‘Pwy a'th benododd di yn llywodraethwr ac yn farnwr?’—hwnnw a anfonodd Duw yn llywodraethwr ac yn rhyddhawr, trwy law'r angel a ymddangosodd iddo yn y berth. Hwn a'u harweiniodd hwy allan, gan wneud rhyfeddodau ac arwyddion yng ngwlad yr Aifft ac yn y Môr Coch, ac am ddeugain mlynedd yn yr anialwch. Hwn yw'r Moses a ddywedodd wrth blant Israel, ‘Bydd Duw yn codi i chwi o blith eich cyd-genedl broffwyd, fel y cododd fi.’ Hwn yw'r un a fu yn y gynulleidfa yn yr anialwch, gyda'r angel a lefarodd wrtho ar Fynydd Sinai a chyda'n hynafiaid ni. Derbyniodd ef oraclau byw i'w rhoi i chwi. Eithr ni fynnodd ein hynafiaid ymddarostwng iddo, ond ei wthio o'r ffordd a wnaethant, a throi'n ôl yn eu calonnau at yr Aifft, gan ddweud wrth Aaron, ‘Gwna inni dduwiau i fynd o'n blaen; oherwydd y Moses yma, a ddaeth â ni allan o wlad yr Aifft, ni wyddom beth a ddigwyddodd iddo.’ Gwnaethant lo y pryd hwnnw, ac offrymu aberth i'r eilun, ac ymlawenhau yng nghynnyrch eu dwylo eu hunain. A throes Duw ymaith, a'u rhoi i fyny i addoli sêr y nef, fel y mae'n ysgrifenedig yn llyfr y proffwydi: “ ‘A offrymasoch i mi laddedigion ac aberthau am ddeugain mlynedd yn yr anialwch, dŷ Israel? Na yn wir, dyrchafasoch babell Moloch, a seren eich duw Raiffan, y delwau a wnaethoch i'w haddoli. Alltudiaf chwi y tu hwnt i Fabilon.’ “Yr oedd pabell y dystiolaeth gan ein hynafiaid yn yr anialwch, fel y gorchmynnodd yr hwn a lefarodd wrth Moses ei fod i'w llunio yn ôl y patrwm yr oedd wedi ei weld. Ac wedi ei derbyn yn eu tro, daeth ein hynafiaid â hi yma gyda Josua, wrth iddynt oresgyn y cenhedloedd a yrrodd Duw allan o'u blaenau. Ac felly y bu hyd ddyddiau Dafydd. Cafodd ef ffafr gerbron Duw, a deisyfodd am gael tabernacl i dŷ Jacob. Eithr Solomon oedd yr un a adeiladodd dŷ iddo. Ond nid yw'r Goruchaf yn trigo mewn tai o waith llaw; fel y mae'r proffwyd yn dweud: “ ‘Y nefoedd yw fy ngorsedd, a'r ddaear yw troedfainc fy nhraed. Pa fath dŷ a adeiladwch imi, medd yr Arglwydd; ble fydd fy ngorffwysfa? Onid fy llaw i a wnaeth y pethau hyn oll?’ “Chwi rai gwargaled a dienwaededig o galon a chlust, yr ydych chwi yn wastad yn gwrthwynebu'r Ysbryd Glân; fel eich hynafiaid, felly chwithau.

Actau 7:20-51 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)

Ar yr hwn amser y ganwyd Moses; ac efe oedd dlws i Dduw, ac a fagwyd dri mis yn nhŷ ei dad. Ac wedi ei fwrw ef allan, merch Pharo a’i cyfododd ef i fyny, ac a’i magodd ef yn fab iddi ei hun. A Moses oedd ddysgedig yn holl ddoethineb yr Eifftiaid, ac oedd nerthol mewn geiriau ac mewn gweithredoedd. A phan oedd efe yn llawn deugain mlwydd oed, daeth i’w galon ef ymweled â’i frodyr plant yr Israel. A phan welodd efe un yn cael cam, efe a’i hamddiffynnodd ef, ac a ddialodd gam yr hwn a orthrymid, gan daro’r Eifftiwr. Ac efe a dybiodd fod ei frodyr yn deall, fod Duw yn rhoddi iachawdwriaeth iddynt trwy ei law ef; eithr hwynt-hwy ni ddeallasant. A’r dydd nesaf yr ymddangosodd efe iddynt, a hwy yn ymrafaelio, ac a’u hanogodd hwynt i heddychu, gan ddywedyd, Ha wŷr, brodyr ydych chwi; paham y gwnewch gam â’ch gilydd? Ond yr hwn oedd yn gwneuthur cam â’i gymydog, a’i cilgwthiodd ef, gan ddywedyd, Pwy a’th osododd di yn llywodraethwr ac yn farnwr arnom ni? A leddi di fi, y modd y lleddaist yr Eifftiwr ddoe? A Moses a ffodd ar y gair hwn, ac a fu ddieithr yn nhir Midian; lle y cenhedlodd efe ddau o feibion. Ac wedi cyflawni deugain mlynedd, yr ymddangosodd iddo yn anialwch mynydd Seina, angel yr Arglwydd mewn fflam dân mewn perth. A Moses, pan welodd, a fu ryfedd ganddo y golwg: a phan nesaodd i ystyried, daeth llef yr Arglwydd ato, gan ddywedyd, Myfi yw Duw dy dadau, Duw Abraham, a Duw Isaac, a Duw Jacob. A Moses, wedi myned yn ddychrynedig, ni feiddiai ystyried. Yna y dywedodd yr Arglwydd wrtho, Datod dy esgidiau oddi am dy draed; canys y lle yr wyt yn sefyll ynddo sydd dir sanctaidd. Gan weled y gwelais ddrygfyd fy mhobl y rhai sydd yn yr Aifft, a mi a glywais eu griddfan, ac a ddisgynnais i’w gwared hwy. Ac yn awr tyred, mi a’th anfonaf di i’r Aifft. Y Moses yma, yr hwn a wrthodasant hwy, gan ddywedyd, Pwy a’th osododd di yn llywodraethwr ac yn farnwr? hwn a anfonodd Duw yn llywydd ac yn waredwr, trwy law yr angel, yr hwn a ymddangosodd iddo yn y berth. Hwn a’u harweiniodd hwynt allan, gan wneuthur rhyfeddodau ac arwyddion yn nhir yr Aifft, ac yn y môr coch, ac yn y diffeithwch ddeugain mlynedd. Hwn yw’r Moses a ddywedodd i feibion Israel, Proffwyd a gyfyd yr Arglwydd eich Duw i chwi o’ch brodyr fel myfi: arno ef y gwrandewch. Hwn yw efe a fu yn yr eglwys yn y diffeithwch, gyda’r angel a ymddiddanodd ag ef ym mynydd Seina, ac â’n tadau ni; yr hwn a dderbyniodd ymadroddion bywiol i’w rhoddi i ni. Yr hwn ni fynnai ein tadau fod yn ufudd iddo, eithr cilgwthiasant ef, a throesant yn eu calonnau i’r Aifft, Gan ddywedyd wrth Aaron, Gwna i ni dduwiau i’n blaenori: oblegid y Moses yma, yr hwn a’n dug ni allan o dir yr Aifft, ni wyddom ni beth a ddigwyddodd iddo. A hwy a wnaethant lo yn y dyddiau hynny, ac a offrymasant aberth i’r eilun, ac a ymlawenhasant yng ngweithredoedd eu dwylo eu hun. Yna y trodd Duw, ac a’u rhoddes hwy i fyny i wasanaethu llu’r nef; fel y mae yn ysgrifenedig yn llyfr y proffwydi, A offrymasoch i mi laddedigion ac aberthau ddeugain mlynedd yn yr anialwch, chwi tŷ Israel? A chwi a gymerasoch babell Moloch, a seren eich duw Remffan, lluniau y rhai a wnaethoch i’w haddoli: minnau a’ch symudaf chwi tu hwnt i Fabilon. Tabernacl y dystiolaeth oedd ymhlith ein tadau yn yr anialwch, fel y gorchmynasai yr hwn a ddywedai wrth Moses, am ei wneuthur ef yn ôl y portreiad a welsai. Yr hwn a ddarfu i’n tadau ni ei gymryd, a’i ddwyn i mewn gydag Iesu i berchenogaeth y Cenhedloedd, y rhai a yrrodd Duw allan o flaen ein tadau, hyd yn nyddiau Dafydd; Yr hwn a gafodd ffafr gerbron Duw, ac a ddymunodd gael tabernacl i Dduw Jacob. Eithr Solomon a adeiladodd dŷ iddo ef. Ond nid yw’r Goruchaf yn trigo mewn temlau o waith dwylo; fel y mae’r proffwyd yn dywedyd, Y nef yw fy ngorseddfainc, a’r ddaear yw troedfainc fy nhraed. Pa dŷ a adeiledwch i mi? medd yr Arglwydd; neu pa le fydd i’m gorffwysfa i? Onid fy llaw i a wnaeth hyn oll? Chwi rai gwargaled, a dienwaededig o galon ac o glustiau, yr ydych chwi yn wastad yn gwrthwynebu’r Ysbryd Glân: megis eich tadau, felly chwithau.