Actau 17:22-25
Actau 17:22-25 BNET
Dyma Paul yn sefyll ar ei draed o flaen cyngor yr Areopagus, a’u hannerch fel hyn: “Bobl Athen! Dw i’n gweld tystiolaeth ym mhobman eich bod chi’n bobl grefyddol iawn. Dw i wedi bod yn cerdded o gwmpas yn edrych yn ofalus ar yr hyn dych chi’n ei addoli. Yng nghanol y cwbl des i o hyd i un allor oedd â’r geiriau yma wedi’u cerfio arni: I’R DUW ANHYSBYS. Dyma’r Duw dw i’n mynd i ddweud wrthoch chi amdano – yr un dych chi’n ei addoli ond ddim yn ei nabod. “Fe ydy’r Duw wnaeth greu’r byd a phopeth sydd ynddo. Mae’n Arglwydd ar y nefoedd a’r ddaear. Dydy e ddim yn byw mewn temlau sydd wedi’u hadeiladu gan bobl, a dydy pobl ddim yn gallu rhoi unrhyw beth iddo – does dim byd sydd arno’i angen! Y Duw yma sy’n rhoi bywyd ac anadl a phopeth arall i bawb.


