Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Actau 17:22-25 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion

Actau 17:22-25 BNET (beibl.net 2015, 2024)

Dyma Paul yn sefyll ar ei draed o flaen cyngor yr Areopagus, a’u hannerch fel hyn: “Bobl Athen! Dw i’n gweld tystiolaeth ym mhobman eich bod chi’n bobl grefyddol iawn. Dw i wedi bod yn cerdded o gwmpas yn edrych yn ofalus ar yr hyn dych chi’n ei addoli. Yng nghanol y cwbl des i o hyd i un allor oedd â’r geiriau yma wedi’u cerfio arni: I’R DUW ANHYSBYS. Dyma’r Duw dw i’n mynd i ddweud wrthoch chi amdano – yr un dych chi’n ei addoli ond ddim yn ei nabod. “Fe ydy’r Duw wnaeth greu’r byd a phopeth sydd ynddo. Mae’n Arglwydd ar y nefoedd a’r ddaear. Dydy e ddim yn byw mewn temlau sydd wedi’u hadeiladu gan bobl, a dydy pobl ddim yn gallu rhoi unrhyw beth iddo – does dim byd sydd arno’i angen! Y Duw yma sy’n rhoi bywyd ac anadl a phopeth arall i bawb.

Actau 17:22-25 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)

Safodd Paul yng nghanol yr Areopagus, ac meddai: “Bobl Athen, yr wyf yn gweld ar bob llaw eich bod yn dra chrefyddgar. Oherwydd wrth fynd o gwmpas ac edrych ar eich pethau cysegredig, cefais yn eu plith allor ac arni'n ysgrifenedig, ‘I Dduw nid adwaenir’. Yr hyn, ynteu, yr ydych chwi'n ei addoli heb ei adnabod, dyna'r hyn yr wyf fi'n ei gyhoeddi i chwi. Y Duw a wnaeth y byd a phopeth sydd ynddo, nid yw ef, ac yntau'n Arglwydd nef a daear, yn preswylio mewn temlau o waith llaw. Ni wasanaethir ef chwaith â dwylo dynol, fel pe bai arno angen rhywbeth, gan mai ef ei hun sy'n rhoi i bawb fywyd ac anadl a'r cwbl oll.

Actau 17:22-25 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)

Yna y safodd Paul yng nghanol Areopagus, ac a ddywedodd, Ha wŷr Atheniaid, mi a’ch gwelaf chwi ym mhob peth yn dra choelgrefyddol: Canys wrth ddyfod heibio, ac edrych ar eich defosiynau, mi a gefais allor yn yr hon yr ysgrifenasid, I’R DUW NID ADWAENIR. Yr hwn gan hynny yr ydych chwi heb ei adnabod yn ei addoli, hwnnw yr wyf fi yn ei fynegi i chwi. Y Duw a wnaeth y byd, a phob peth sydd ynddo, gan ei fod yn Arglwydd nef a daear, nid yw yn trigo mewn temlau o waith dwylo: Ac nid â dwylo dynion y gwasanaethir ef, fel pe bai arno eisiau dim; gan ei fod ef yn rhoddi i bawb fywyd, ac anadl, a phob peth oll.