2 Pedr 1:2-3
2 Pedr 1:2-3 BNET
Dw i’n gweddïo y bydd Duw yn tywallt ei haelioni rhyfeddol a’i heddwch dwfn arnoch chi wrth i chi ddod i nabod Duw a Iesu ein Harglwydd yn well. Wrth ddod i nabod Iesu Grist yn well, mae ei nerth dwyfol yn rhoi i ni bopeth sydd ei angen i fyw fel mae Duw eisiau i ni fyw. Mae wedi’n galw ni i berthynas gydag e’i hun, i ni rannu ei ysblander a phrofi ei ddaioni.

