2 Pedr 1:2-3 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion
2 Pedr 1:2-3 BNET (beibl.net 2015, 2024)
Dw i’n gweddïo y bydd Duw yn tywallt ei haelioni rhyfeddol a’i heddwch dwfn arnoch chi wrth i chi ddod i nabod Duw a Iesu ein Harglwydd yn well. Wrth ddod i nabod Iesu Grist yn well, mae ei nerth dwyfol yn rhoi i ni bopeth sydd ei angen i fyw fel mae Duw eisiau i ni fyw. Mae wedi’n galw ni i berthynas gydag e’i hun, i ni rannu ei ysblander a phrofi ei ddaioni.
2 Pedr 1:2-3 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gras a thangnefedd a amlhaer i chwi trwy adnabyddiaeth o Dduw ac Iesu ein Harglwydd! Y mae ei allu dwyfol wedi rhoi i ni bob peth sy'n angenrheidiol i fywyd a duwioldeb trwy ein hadnabyddiaeth o'r hwn a'n galwodd â'i weithred ogoneddus a rhagorol ei hun.
2 Pedr 1:2-3 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gras i chwi a thangnefedd a amlhaer, trwy adnabod Duw, a Iesu ein Harglwydd ni, Megis y rhoddes ei dduwiol allu ef i ni bob peth a berthyn i fywyd a duwioldeb, trwy ei adnabod ef yr hwn a’n galwodd ni i ogoniant a rhinwedd